Skip to content

Ysgrifenedig - Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Leighton Andrews, Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

Un o ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru’n Un yw ailsefydlu’r Gronfa Datblygu Swyddfeydd Post, ond gan roi ffocws newydd iddi. Rwyf wedi cyhoeddi y bydd y gronfa newydd ar agor o 1 Ionawr 2009.

Bydd y gronfa yn ei gwneud yn bosibl i is-bostfeistri arallgyfeirio yn eu busnesau drwy gynnig arian ar gyfer pethau fel cyngor busnes a marchnata, hysbysebu, hyfforddiant a rhai o’r costau sydd ynghlwm wrth sefydlu gwasanaethau newydd. Oherwydd hyn, enw’r gronfa newydd yw ‘Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post’. Bydd y gronfa hon yn talu hefyd am welliannau i safleoedd Swyddfeydd Post na chânt eu hariannu gan Swyddfa’r Post Cyf.

Ym mis Awst, cyhoeddais ymgynghoriad deuddeg wythnos ar gynigion ar gyfer y gronfa newydd ac mae’r ymatebion a dderbyniwyd wedi helpu i lywio ei datblygiad. Mae nifer uchel yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn profi’r angen parhaus am gronfa o’r math hwn.

Rwyf wrth fy modd yn lansio’r cynllun newydd heddiw ac yn cael cadarnhau y bydd y gronfa ar agor i geisiadau am arian refeniw a chyfalaf o 1 Ionawr 2009.

Rydym wastad wedi cydnabod gwerth cymdeithasol a chymunedol swyddfeydd post, yn enwedig o ran cefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf anghysbell a difreintiedig ac wrth fynd i’r afael â chynhwysiant ariannol. Rydym am weld swyddfeydd post yn ffynnu fel y gallant barhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i’r cymunedau a wasanaethant. Bydd lansio’r Gronfa hon heddiw yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn.

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn cynigion oddi wrth is-bostfeistri a chymunedau lleol sy’n chwilio am gymorth gan y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post.