Skip to content

Ysgrifenedig - Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Gymru ar Iechyd y Geg

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 13 Tachwedd 2007, cyhoeddais y bwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Gymru ar Iechyd y Geg, a fyddai’n amlinellu ystod o gamau gweithredu i wella iechyd y geg a chyrraedd y targedau deintyddol a nodwyd yn y strategaeth Cael Gwared ar Dlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant.

Mae’r angen am Raglen ar gyfer Gwella Iechyd y Geg i Blant yn rhan ganolog o'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Iechyd y Geg. Byddai’r rhaglen honno’n cael ei gweithredu gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol drwy ei rôl gryfach mewn perthynas â deintyddiaeth gyhoeddus.

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn hysbysu Aelodau'r Cynulliad am y bwriad i lansio Rhaglen Wella Genedlaethol ar Iechyd y Geg i Blant. Mae dwy brif ran i'r rhaglen "Cynllun Gwên" sef: cynllun glanhau dannedd dan oruchwyliaeth ar gyfer plant 3-5 oed gan ddefnyddio past dannedd â fflworid, a rhaglen hyrwyddo ar gyfer plant 6-11 oed. Yn yr hirdymor, mae'r Rhaglen yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trydedd elfen, sef hyrwyddo iechyd y geg ar gyfer babanod.

Mae pydredd dannedd yn afiechyd sy'n ymwneud â ffordd o fyw ac sydd â nifer o achosion. Mae angen gwella hylendid y geg a darparu mwy o fflworid er mwyn cyflawni ein targedau ar gyfer iechyd deintyddol. Mae'n amlwg bod angen dulliau mwy arloesol o ddarparu gofal ataliol er mwyn gwella iechyd deintyddol plant. Gan nad oes fflworid yn y cyflenwad dŵr yng Nghymru, mae angen i ni ddefnyddio dulliau amgen i sicrhau bod fflworid yn dod i gysylltiad â dannedd. Mae'r rhaglen "Cynllun Gwên" yn ceisio cyflawni'r amcan hwn yng Nghymru drwy dargedu plant ifanc yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.

Bydd "Cynllun Gwên" yn adeiladu ar sylfaen y Rhaglen Selio Tyllau sydd eisoes ar waith, a bydd yn cael ei chyflwyno’n raddol mewn ardaloedd penodol ee ardaloedd Dechrau'n Deg, ac yn cwmpasu gogledd Cymru a rhannau helaeth o dde Cymru.

Nod y Rhaglen yw darparu brwsys dannedd a phast dannedd â fflworid i bob plentyn yng Nghymru. Mae rhaglenni glanhau dannedd cynaliadwy mewn meithrinfeydd ac ysgolion yn un o'r prif flaenoriaethau. Er mwyn bod yn effeithiol, bydd angen i bartneriaethau iechyd ac awdurdodau lleol fod yn rhan o'r rhaglenni, a byddai'n rhaid i'r rhaglenni gael eu derbyn fel rhan annatod o'r gweithgareddau hyrwyddo iechyd mewn meithrinfeydd ac ysgolion.

Bydd y rhaglen “Cynllun Gwên” yn cael ei datblygu dros y tair blynedd nesaf a'i gweithredu gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. Mae gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol brofiad helaeth o weithgareddau hyrwyddo iechyd y geg, a bydd ei rôl yn y fenter hon yn canolbwyntio ar ddarparu rhaglenni ychwanegu fflworid a gwella'r gofal a ddarperir ar gyfer plant sydd â phydredd dannedd cronig. Bydd o leiaf £4.6 miliwn ar gael ar gyfer y rhaglen hyd at 2010/11. Bydd timau "Cynllun Gwên" penodedig gan ddarparwyr gwasanaethau. Bydd y Rhaglen yn cael ei hintegreiddio i fentrau lleol a chenedlaethol ar gyfer hyrwyddo iechyd, a'i hyrwyddo hefyd gan y rheini sy'n helpu i gyfleu'r negeseuon iechyd cyffredinol i blant ac ysgolion.

Yn dibynnu ar y broses werthuso ac adnoddau ychwanegol, bydd y Raglen Gwella Iechyd y Geg i Blant yn berthnasol i blant ifanc a hŷn, a bydd yn gysylltiedig â'r cyfnodau allweddol yn natblygiad y plentyn.