Skip to content

Ysgrifenedig - Datblygu Cynaliadwy Newydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Heddiw, yr wyf yn cyhoeddi’r penderfyniad i ailwneud Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn un o’r ychydig weinyddiaethau yn y byd lle mae datblygu cynaliadwy yn rhan ganolog o’i statud, ac mae hyn yn destun cryn falchder i mi. Mae’n hymrwymiad at egwyddor datblygu cynaliadwy yn parhau, a byddwn yn mesur llwyddiant rhaglen y weinyddiaeth hon yn unol â hynny.

Cafodd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy presennol, Dechrau Byw’n Wahanol, ei wneud yn 2004 ac ynddo, aed ati i amlinellu’r fframwaith strategol cyffredinol a’n gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru gyfan. Rydym wedi llwyddo i gyflawni cryn dipyn, yn benodol:

  • Sefydlu’r rhaglen Cymru o blaid Affrica.
  • Mae 80% o’r trydan ar gyfer ystad weinyddol graidd y Cynulliad yn dod bellach o dariffau adnewyddadwy.
  • Mae 57 o safleoedd mwyaf y GIG yng Nghymru yn defnyddio tariffau trydan di-garbon er mwyn cyflenwi’r trydan y maent yn ei gael o’r grid.
  • Gwelwyd cynnydd, o 18% i 24% ers 2003, yn y bwyd o Gymru sy’n cael ei brynu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hyn yn fodd i leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon.
  • Rydym wedi llwyddo i symud Cymru i gyfeiriad statws Gwlad Masnach Deg.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgynghori’n eang â rhanddeiliaid, a chynhaliwyd dadl am Ddatblygu Cynaliadwy yn y Cyfarfod Llawn fis Hydref diwethaf. Rydym wedi comisiynu adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, ac mae Cynnal Cymru wedi bod yn gwneud gwaith ar safbwyntiau cyrff anllywodraethol am faterion sy’n ymwneud â Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru. Mae negeseuon clir yn yr argymhellion sydd wedi deillio o’r gwaith hwn: mae pobl am weld mwy yn cael ei wneud ym maes datblygu cynaliadwy, ac mae mwy y gellir ei wneud.

Fel Cabinet, rydym wedi cytuno y dylid mynd ati i ailwneud y Cynllun Datblygu Cynaliadwy a sicrhau ei fod yn berthnasol i bobl Cymru ac yn golygu rhywbeth iddynt.

Mae Datblygu Cynaliadwy yn golygu bod angen i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cyfrannu’n gyffredinol at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n hagenda ar gyfer y materion hyn yn cael ei hamlinellu’n glir yn y ddogfen Cymru’n Un, ac rydym yn cynnig y dylai’r cynllun newydd fod yn ddogfen strategol sy’n dwyn canlyniadau ar draws portffolios ynghyd o ran eu heffaith ar bobl a chymunedau yng Nghymru. Yn benodol, rwyf am i’r Cynllun newydd ddangos sut y bydd gweithredu mewn modd cynaliadwy yn gwella bywydau yn ein cymunedau llai llewyrchus, lle y mae materion megis tlodi tanwydd a diffyg bwyd ffres yn brofiadau sy’n wynebu pobl o ddydd i ddydd.

Byddaf yn mynd ati'r wythnos nesaf i gyhoeddi’r adroddiad am ailgyfrifo ôl-troed ecolegol Cymru. Bydd yn dangos mai gennym ni y mae’r ôl-troed leiaf o blith pedair gwlad y DU, ond mae, er hynny, yn dal i fod yn un nad yw’n gynaliadwy gan ein bod yn defnyddio gwerth bron tair planed o adnoddau. Os nad awn ati i weithredu, gallai’n hôl-troed godi i werth 3.3 planed o adnoddau erbyn 2020. Bydd yr adroddiad yn dangos y gallai’r polisïau ar drafnidiaeth, bwyd a thai sydd gennym yn Cymru’n Un gael effaith gadarnhaol, gan sefydlogi’n hôl-troed ecolegol erbyn 2020, ac y gallai rhagor o waith ar leihau gwastraff bwyd, ar ddulliau teithio carbon isel, ac ar wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi leihau mwy ar yr ôl-troed. Thema ein cynllun newydd, felly, fydd ‘Cymru Un Blaned’, a hynny er mwyn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi i amlinellu sut y byddwn yn mynd ati i sicrhau mai dim ond ein cyfran deg o adnoddau cyfyngedig y byd y bydd Cymru’n ei defnyddio.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mehefin lle byddaf yn gallu rhoi rhagor o fanylion am ddatblygu’r Cynllun newydd ac ateb cwestiynau Aelodau’r Cynulliad.