Skip to content

Ysgrifenedig - Iechyd Meddwl

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ar 3 Mehefin 2008, cysylltais â phawb â diddordeb i drafod yr adroddiad yr oeddwn wedi comisiynu’r Athro Michael Williams i’w lunio. Yn ei bapur ‘Iechyd Meddwl Cymru – Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles sy’n Gweddu i Gymru’, roedd yn rhagweld sefydlu un corff ar gyfer iechyd meddwl a fyddai’n darparu gwasanaeth cynhwysfawr. Byddai’r corff hwn yn cyfuno arbenigedd ymddiriedolaethau’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu gofal ledled Cymru ar y cyd â gofal sylfaenol a’r sector gwirfoddol.

Hoffwn ddiolch o galon i Michael am baratoi’r papur hwn gyda’r fath ofal a thrylwyredd ac am y ffordd ardderchog y mae wedi arwain y drafodaeth ar ei syniadau ac wedi codi proffeil iechyd meddwl yng Nghymru ac ennyn mwy o ddiddordeb yn y pwnc. Roedd y ffaith fod y drafodaeth hon wedi’i chynnal yn galonogol iawn. Daeth 368 o ymatebion ysgrifenedig i law, ac roedd bron 500 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y 3 digwyddiad ymgynghori Rhanbarthol a gynhaliwyd.

Cafodd un neges ei chyfleu’n gyson yn ystod y trafodaethau hyn, sef bod yn rhaid i wasanaethau iechyd meddwl Cymru wella, a hynny ar frys. Er hynny, ni chafwyd mwyafrif llethol o blaid nac yn erbyn cefnogi’r syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau a gynigiwyd ym mhapur yr Athro Williams. Mae dadansoddiad o’r ymatebion yn dangos bod 41% o blaid ei gynigion, 44% yn erbyn a 15% heb ddod i unrhyw gasgliad.

Roedd mwyafrif llethol y cyrff iechyd meddwl, awdurdodau lleol a’r sector anableddau dysgu yn gwrthwynebu’r cynigion tra roedd grwpiau defnyddwyr y gwasanaethau, defnyddwyr unigol gwasanaethau a rhai elusennau lleol a chenedlaethol yn cefnogi ei syniadau.

Rwyf wedi ystyried yr holl bwyntiau a wnaed yn ofalus. Er bod y syniadau a gyflwynwyd gan yr Athro Williams o gryn werth, at ei gilydd, y dadleuon yn erbyn sefydlu corff iechyd meddwl ar wahân i Gymru sydd wedi fy argyhoeddi.

Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, rwyf wedi nodi’n benodol y dadleuon canlynol:

  • Ceir cryn dystiolaeth fod salwch meddwl a salwch ffisegol yn cyd-fodoli. Mae gofyn felly i’r gwasanaethau iechyd meddwl a ffisegol a’r gwasanaethau cymdeithasol gydweithio â’i gilydd, yn enwedig yn achos pobl hŷn. Byddai corff iechyd meddwl ar wahân yn gwneud hyn yn fwy anodd.
  • Byddai un corff iechyd meddwl hollgynhwysol mewn perygl o gael ei ynysu ac yn peri iddo ddioddef o stigma. Bydd hefyd yn dibynnu ar wead cymhleth o bartneriaethau a allai ddrysu’r sefyllfa a chreu ffiniau a fyddai’n atal gweithio’n ddi-dor
  • Mynegwyd cryn pryder ynglŷn â chynnwys anableddau dysgu o fewn un model sefydliad iechyd. Model lles cymdeithasol sy’n sbarduno’r gwasanaethau hyn a gallai unrhyw gorff newydd o’r fath a gynigir olygu y byddent yn cael eu gweld yn nhermau meddygol.

Rwyf wedi penderfynu y bydd y gwasanaethau iechyd meddwl yn dod yn rhan sylfaenol o gyrff lleol integredig newydd y GIG. Fodd bynnag, rwyf yn benderfynol o sicrhau y bydd yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i wasanaethau iechyd meddwl o leiaf yn cael eu diogelu yn y cyrff newydd. Disgwyliaf i gamau sylweddol gael eu cymryd i roi’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl ar waith yn llawn ledled Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf. Fy mwriad yw sicrhau y bydd gan y gwasanaethau iechyd meddwl bresenoldeb cryfach o fewn y sefydliadau newydd yn hytrach na bod yn wasanaeth sy’n cael ei ddiystyru.

Mae llawer wedi’i gyflawni yn ystod y chwe mlynedd diwethaf ers cyhoeddi’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol gwreiddiol, ond serch hynny, rhaid gwella ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ledled Cymru a’r mynediad atynt. Nid yw newid dim yn opsiwn a byddaf yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth uchel iawn i wasanaethau iechyd meddwl y GIG wedi iddynt gael eu had-drefnu.