Skip to content

Ysgrifenedig - Prosiect Adeiladu Swyddfa Cyffordd Llandudno

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Bydd yr Aelodau am gael eu diweddaru ar y cynnydd a gafwyd ynglŷn â swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghyffordd Llandudno.

Mae'n bleser gen i roi adroddiad bod cynnydd arwyddocaol wedi digwydd yn ystod y chwe mis diwethaf ar ddatblygu dyluniad a dogfennau tendro a fydd yn arwain at ddethol Contractiwr a dyfarnu'r contract adeiladu.

“Yn dilyn hysbyseb OJEU (Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) ym mis Mawrth eleni, gwahoddwyd chwe chwmni i dendro ar gyfer darparu Swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno. Cafodd dyddiad dychwelyd y tendr ei bennu ar gyfer 14 Gorffennaf 2008.

Ers hynny, mae dau gwmni wedi cadarnhau na fyddant yn cyflwyno tendr. Ar ôl hynny, gofynnodd dau gwmni arall am estyniad amser wrth iddynt weld cymhlethdod y Cynllun a'r angen i ganiatáu mwy o amser i ddatblygu'r dyluniad mewn mwy o fanylder ac i brisio'r pecynnau mewn digon o fanylder i ddarparu cynigion cadarn. Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn.

Cafodd yr estyniad amser ei ganiatáu er mwyn cynnal lefel dda o gystadleuaeth ac er mwyn caniatáu digon o amser i becynnau adeiladu a risg gael eu prisio'n briodol ar y sail y gellid llwyddo i gael gwell gwerth am arian.

Y dyddiad diwygiedig ar gyfer y tendr yw 11 Awst. Yr ydym felly ar y trywydd iawn i ddyfarnu'r contract erbyn diwedd yr haf hwn ac i'r adeilad fod yn barod yn Haf 2010. Yn ogystal, yr ydym wedi ymrwymo'n llawn i gyflenwi'r adeilad a'r buddiannau a fydd yn deillio wrth ei gyflenwi'n llwyddiannus”