Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Blynyddol 2007-2008 y Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Roedd Adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi cynllun yn dangos sut y byddai, wrth arfer ei swyddogaethau, yn cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru.  Hefyd, roedd yn ofynnol i’r Cynulliad Cenedlaethol baratoi adroddiad ar ôl pob blwyddyn ariannol yn dangos sut y cafodd y cynigion yn y cynllun eu gweithredu yn y flwyddyn ariannol honno.

O dan y darpariaethau trosiannol ym mharagraff 45 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”), Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am gyhoeddi adroddiad am y flwyddyn 2007-08 a’i osod ger bron y Cynulliad Cenedlaethol.  Pleser, felly, yw cyflwyno’r adroddiad hwnnw i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Oherwydd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’u gwahanu’n ffurfiol o dan Ddeddf 2006, mae Gweinidogion Cymru bellach yn gyfrifol am gyflawni’r amryfal ddyletswyddau, a oedd gynt yn gyfrifoldeb i’r Cynulliad Cenedlaethol, i sefydlu trefniadau partneriaeth statudol, gan gynnwys partneriaeth gyda llywodraeth leol.

Yn 2008, cyhoeddwyd gennym Gynllun Partneriaeth newydd ar gyfer Llywodraeth Leol.   Felly, Adroddiad Blynyddol 2007 - 2008 yw’r un olaf ar weithredu’r Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2004.

Mae cytundeb ‘Cymru’n Un’ yn pennu agenda flaenweithgar ar gyfer gwella ansawdd bywyd pobl ym mhob un o gymunedau Cymru, yn seiliedig ar gyfres o werthoedd a nodau cyffredin, a chyd-ddyheadau. Uchelgais Llywodraeth y Cynulliad yw gweddnewid Cymru yn genedl hunanhyderus, ffyniannus ac iach, ac yn gymdeithas sy’n deg i bawb.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu’r ffaith fod llywodraeth leol yr un mor ymroddedig â hithau i gyflawni’r rhaglen heriol a bennwyd yn ‘Cymru’n Un’.

Mae Cyngor Partneriaeth Cymru yn parhau i fod yn fforwm effeithiol ar gyfer cynnal trafodaethau uniongyrchol a chydweithio rhwng Gweinidogion Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol o ran hybu nodau’r Cynllun Partneriaeth a’n hagenda bolisi gyffredin.  Hefyd, mae’r Cynllun Partneriaeth wedi bod yn fframwaith fel y gall Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol ymgynghori a chydweithredu’n rheolaidd ac yn amserol ar bob lefel o ran hybu ein hagendâu cyffredin – ceir rhai enghreifftiau yn yr adroddiad.

Mae’r Cynllun Partneriaeth wedi hybu cydweithredu priodol a gwell dealltwriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r teulu ehangach o lywodraeth leol.  Gyda’n gilydd rydym yn mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau pobl Cymru.