Skip to content

Ysgrifenedig - Ddarpariaeth Ysbytai ym Merthyr Tydfil

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mis Hydref 2007, gofynnais i'r Athro Mansel Aylward CB, cadeirydd Canolfan Iechyd Cymru, gynnal adolygiad a rhoi cyngor i mi ac argymhellion ar y cynlluniau presennol i ddatblygu gwasanaethau iechyd ym Merthyr Tudful.

Roeddwn am wneud yn si?r y byddai'r cynlluniau hyn yn darparu gwasanaethau cadarn, sydd wedi'u halinio'n llawn i boblogaeth Merthyr.

Roedd cylch gwaith yr Athro Aylward yn ymdrin â'r berthynas rhwng ysbyty newydd canol y dref a'r gwasanaethau i'w darparu yn Ysbyty'r Tywysog Charles yn y dyfodol, y posibilrwydd o gael Canolfan Galw i Mewn, a darparu gwasanaethau iechyd newydd, megis iechyd galwedigaethol, i bobl yn ardal Merthyr Tudful

Gofynnais i'r Athro Aylward ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol wrth fynd ati i gynnal yr adolygiad hwn, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd ym Merthyr Tydfil.

Fore heddiw, cyhoeddwyd yr adolygiad.  Rwyf yn hynod o ddiolchgar i'r Athro Aylward, a hefyd i'r Athro Ceri Phillips, Pennaeth Sefydliad Ymchwil Iechyd Prifysgol Abertawe, am y gwaith a wnaed ganddynt.

Mae'r Athro Aylward a'i gydweithwyr wedi ymgynghori'n eang â phobl leol ac wedi llunio adroddiad cynhwysfawr, sy'n cynnwys argymhellion clir.

Yr argymhelliad cyntaf yw datblygu Parc Iechyd ym Merthyr, a hynny ar fyrder, er mwyn dwyn ynghyd amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i ddarparu ystod eang o gymorth i bobl Merthyr. 

Mae'r awduron o'r farn y byddai parc iechyd o'r fath yn helpu i gyrraedd nod cyffredinol y Strategaeth newydd ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Merthyr Tydful, sef gwella iechyd a lles poblogaeth Merthyr Tudful drwy weithgarwch cydgysylltiedig, wedi'i dargedu, a'i ddatblygu mewn partneriaeth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o arferion da; ac yn benodol, lleihau nifer y bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan salwch meddwl, strôc, camddefnyddio alcohol, ffordd o fyw a diffyg gwaith. 

Byddai'r Parc yn creu amgylchedd ar gyfer darparu triniaeth ac asesiadau cynnar er mwyn helpu i atal absenoldeb salwch tymor byr o'r gwaith, a dull amlddisgyblaethol o fynd i'r afael â her analluogrwydd a dibyniaeth ar fudd-daliadau hirdymor. Mae'r problemau hyn yn arbennig o ddwys yn ardal Merthyr ac mae angen eu datrys ar frys.

Gallai'r Parc o bosib ddarparu gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith a gwasanaethau iechyd galwedigaethol yn ogystal â'r hyn y gallwn eu galw'n wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol traddodiadol. Mae'r adroddiad yn sôn am 23 elfen wahanol o wasanaeth y gellid eu lleoli yno.  Gallai hwn fod yn ddull cyffrous ac arloesol o weithio.

Wrth ddod i'r casgliadau hyn, bu'r tîm yn ystyried y dadleuon o blaid creu canolfan cerdded i mewn, neu bolyclinig neu ysbyty cymunedol, a gweld nad oedd y rhain ynddynt eu hunain yn briodol nac yn ddigonol i ddiwallu anghenion pobl Merthyr. Roedd aelodau'r tîm yn ffafrio Parc Iechyd gan argymell bod yr holl asiantaethau perthnasol yn cymryd camau buan i roi eu cynnig ar waith. Lleoliad posibl ar gyfer y parc iechyd fydd safle'r tir gwastad a byddaf yn gofyn i'r cyrff iechyd fynd ati'n fuan i benderfynu ar safle ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Yn ail, maent yn argymell cryfhau gofal sylfaenol, yn seiliedig ar y model presennol o gael pawb i gofrestru ag un ymarferydd, yn hytrach na mabwysiadu dull y polyclinig o weithio.

Mae'r trydydd gr?p o argymhellion yn ymwneud â gwasanaethau ysbyty. Mae awduron yr adroddiad yn ystyried ei bod yn rhy gynnar i wneud newidiadau mawr o ran adleoli arbenigwyr ysbytai i wasanaethau cymunedol, gan ei bod yn well ganddynt bod rhai camau'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ystyried y manteision posibl o wneud hynny.  Nid ydynt o blaid gohirio'r gwaith o ddatblygu rhaglenni cyfalaf mawr ar gyfer Ysbyty'r Tywysog Charles ac maent yn annog cefnogaeth ar gyfer ei rôl strategol pwysig ar draws blaenau'r cymoedd a de Powys.  Nid wyf yn awyddus i weld unrhyw ffiniau artiffisial yn rhwystro'r broses o ddatblygu gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Charles.  Maent yn gwneud rhai sylwadau gwerthfawr ynghylch manteision cadw gwasanaethau obstetreg a phaediatrig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles, ac ynghylch lleihau'r defnydd amhriodol o wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Charles. Maent hefyd yn argymell cynnal astudiaeth bellach o ba mor addas yw'r mynediad ffyrdd i'r Ysbyty hwnnw. 


Mae'r penderfyniadau rydym eisoes wedi'u gwneud yn dangos fy ymrwymiad i ailddatblygu Ysbyty'r Tywysog Charles fel lleoliad ar gyfer gwasanaethau ysbyty'r ardal. Yn ddiweddar, gwariwyd mwy na £2 filiwn ar ddarparu'r sganiwr MRI yn yr Ysbyty hwn a newid sganiwr CT.  Rwyf wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol o £47 miliwn ar gam 1 y rhaglen ailwampio wardiau a gwaith hanfodol ar y seilwaith gan gynnwys adnewyddu lifftiau. Disgwyliaf gytuno ar yr achos busnes terfynol i'r gwaith gwerth £18 miliwn o ailddatblygu'r cyfleusterau gofal heb ei drefnu yn yr ysbyty, gan gynnwys gwaith datblygu sylweddol i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Yn olaf, maent yn argymell achub ar y cyfle sy'n deillio o'r trefniadau cynllunio ac ariannu newydd i gryfhau gallu holl ddarparwyr y gwasanaethau i ymateb i'r angen am gydweithio er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.

Rwy'n credu bod yr argymhellion hyn gyda'i gilydd yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen. 

Mewn ymateb, rwyf yn cynnig:

  • gofyn i gr?p ailddylunio gwasanaethau ardal newydd Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf weithredu ar y cynigion ar gyfer pennu hyd a lled y Parc Iechyd a chynhyrchu adroddiad o fewn 6 mis.
  • gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Merthyr weithredu ar yr argymhelliad yn ymwneud â gofal sylfaenol.
  • gofyn iddynt hefyd, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Taf,weithredu ar yr argymhellion ar adleoli arbenigwyr i'r gymuned, ar y rhaglenni cyfalaf mawr ar gyfer Ysbyty'r Tywysog Charles, ar leihau'r defnydd amhriodol o'r gwasanaethaethu damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwnnw, ac ar yr angen am adroddiad ar addasrwydd mynediad ffyrdd i'r ysbyty.
  • gofyn i Ymddiriedolaeth Cwm Taf, gyda Byrddau Iechyd Lleol Merthyr a'r BILlau cyfagos a Swyddfa Ranbarthol fy Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y De-ddwyrain ystyried yn ofalus y materion y mae'r adroddiad wedi'u codi mewn perthynas â dyfodol y gwasanaethau obstetreg a phaediatreg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles, a hefyd rôl strategol Ysbyty'r Tywysog Charles ar draws blaenau'r cymoedd a de Powys, ac ardal gogledd-orllewin Gwent, yng nghyd-destun y broses gyffredinol o ddatblygu gwasanaethau yn ne-ddwyrain Cymru ac i lunio adroddiad ar y cyd i'w gyflwyno i mi o fewn 6 mis.

Byddai angen rhoi prawf ar unrhyw newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau a argymhellir gan yr astudiaethau hyn drwy ymgynghori yn eu cylch yn y ffordd arferol.
 
Yn olaf, byddaf yn ystyried yr argymhelliad i achub ar y cyfle sy'n deillio o'r trefniadau cynllunio ac ariannu newydd i gryfhau gallu holl ddarparwyr y gwasanaethau i ymateb i'r angen am gydweithio er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu, a hynny yng nghyd-destun asesu canlyniadau'r ymgynghoriad ar ddiwygio strwythurau'r GIG yng Nghymru.