Skip to content

Ysgrifenedig - Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cyfnod Sylfaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod wedi cynnal ail gyfarfod heddiw gyda Grŵp Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen. Soniais am y datblygiadau diweddaraf ers fy natganiad diwethaf pan gyhoeddwyd £5 miliwn ychwanegol tuag at y broses o gyflwyno'r Cyfnod Sylfaen o fis Medi, a thrafodwyd amrywiaeth o faterion sy'n codi yn sgil paratoi ar gyfer ei roi ar waith.

Yn dilyn cyngor adeiladol Grŵp Gweithredu'r Cyfnod Sylfaen y bore 'ma, rwy'n cadarnhau y bydd yn digwydd dros gyfnod o bedair blynedd. Bydd hyn yn golygu dwy flynedd i gyflwyno'r cwricwlwm i blant 3-5 oed, gan wneud cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn statudol i blant 3-4 oed o fis Medi 2008. Bydd y trefniant hwn yn caniatáu i'r ysgolion a'r awdurdodau lleol hynny, sydd eisoes wedi cymryd camau breision tuag at y nod o sicrhau'r gymhareb 1:8 rhwng oedolion a phlant ar gyfer eu plant 3-5 oed, i weithredu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar sail anstatudol i blant 4-5 oed o fis Medi. Byddai'n caniatáu hefyd i ymarferwyr mewn dosbarthiadau oed cymysg wneud hynny gyda'u holl blant 3-5 oed. Dim ond i blant 3-4 oed yn ystod blwyddyn ysgol 2008/09 y bydd y gofynion statudol yn berthnasol.

Er y bydd cyflwyno hyn yn digwydd dros bedair blynedd, bellach, yn hytrach na thair, nid oes unrhyw newid i'r ymrwymiad ymhlith y rhanddeiliaid i'r fenter hon a groesewir gan bawb. Bydd y fenter yn rhoi'r dechrau gorau posibl i'n plant ifanc ar sail cymhareb 1:8 rhwng oedolion a phlant i blant 3-5 oed, a chymhareb 1:15 i blant 5-7 oed.

Rwy'n ymwybodol bod pob ysgol a lleoliad yn awyddus i weithredu'r cwricwlwm newydd cyffrous hwn o fis Medi, a chânt bob anogaeth i wneud hynny'n union.

Rwy'n bwriadu ysgrifennu at aelodau'r Grŵp Gweithredu ac at Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn cadarnhau'r hyblygrwydd y byddai'r trefniadau hyn yn ei roi o ran cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen, gyda ffocws ar y plant ifancaf yn gyntaf. Rydym yn dal yn ceisio dod o hyd i wybodaeth ariannol gadarn ar gyfer ein model cyllidebol ac mae'n hanfodol bod pob partner a rhanddeiliad allweddol yn cydweithio i sicrhau bod y fenter bwysig hon yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus i Gymru.