Skip to content

Ysgrifenedig - Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ynghylch cyfres newydd o ddangosyddion perfformiad ar gyfer yr Awdurdodau Tân ac Achub, a fydd yn rhan o fframwaith ehangach ar gyfer mesur perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.

Roedd y gyfres o ddangosyddion perfformiad yn cynnwys rhai sydd bellach yn statudol yn rhinwedd Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) 2008. Mae Adran 4(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn cynnwys darpariaeth sy’n pennu y gallai Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, nodi ffactorau (a elwir yn ddangosyddion perfformiad) i’w defnyddio ar gyfer mesur perfformiad awdurdod gwerth gorau wrth iddo ymgymryd â’i swyddogaethau. Mae Adran 4(2) o’r un Ddeddf yn cynnwys darpariaeth yn nodi y gallai gorchymyn o’r fath bennu gwahanol ddangosyddion perfformiad ar gyfer gwahanol awdurdodau. Mae awdurdod tân ac achub yn awdurdod gwerth gorau yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.

Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 yn pennu Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau statudol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub ac yn ei gwneud yn bosibl i berfformiad Awdurdodau Tân ac Achub gael ei fesur yn unol â chyfres o ddangosyddion perfformiad statudol sy’n canolbwyntio’n benodol ar flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru. Golyga hyn fod y Gorchymyn yn cyd-fynd â’r Fframwaith Mesur Perfformiad sy’n cael ei gyflwyno ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub. Daw’r gorchymyn i rym ar 18 Mawrth 2008 a bydd yn weithredol ar gyfer y cyfnod 2008-09 a blynyddoedd ariannol dilynol.

Caiff y dangosyddion perfformiad statudol eu hadolygu gan y Gweithgor Dangosyddion Perfformiad (yn cynnwys Swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chynrychiolwyr o Awdurdodau Tân ac Achub, Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol) fel rhan o adolygiad blynyddol o bob dangosydd perfformiad o fewn y fframwaith mesur perfformiad.