Skip to content

Ysgrifenedig - Cyfnod Sylfaen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Dymunaf adrodd ar sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo o ran gweithredu’r Cyfnod Sylfaen

Dros y dair wythnos ddiwethaf bu cyfarfodydd rhwng fy swyddogion a phob awdurdod addysg lleol yng Nghymru. Mae gennym yn awr, am y tro cyntaf, wybodaeth oddi wrth bob awdurdod parthed yr hyn y mae’n disgwyl medru ei gyflawni gyda’i gyfran o’r £25 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer 2008-09.

Yng ngoleuni’r wybodaeth oddi wrth yr awdurdodau, a chan gymryd sylw o’r ffaith fod yna, ers pan gwblhawyd y cylch cynllunio cyllideb ar gyfer 2008-09, ddata poblogaeth newydd wedi dod ar gael sy’n dangos bod y gyfradd enedigaethau yn tueddu i godi’n sylweddol, rydym yn ymgymryd â modelu ariannol pellach er mwyn deall yn well yr hyn mae’r awdurdodau yn ei ddweud wrthym am y gofynion cyllidol ac er mwyn ystyried sut y gellir ymdrin â’r gofynion hynny.

Ar yr un pryd, gwnaethpwyd sylwadau gan yr awdurdodau lleol o ran ymdrin, o fewn y cynllun rhoi ar waith fesul cam, ag ysgolion Peilot ac ysgolion Dechrau’n Gynnar. Rwyf wedi cytuno y dylid cynnwys y mater hwn yn ogystal yn y gwaith modelu pellach y cyfeirir ato uchod.

Yng ngoleuni’r trafodaethau hyn rwyf wedi’m bodloni y bydd angen cyllid pellach. Byddaf yn cyfarfod chynrychiolwyr o lywodraeth leol, undebau’r athrawon, Estyn ac arbenigwyr y blynyddoedd cynnar ar Ddydd Mawrth 6 Mai i rannu’r dadansoddiad â hwy ac i geisio’u barn. Bydd y grŵp hwn yn ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweithredu i’m cynghori ymhellach ar sut i roi’r rhaglen ar waith fesul cam yn ymarferol.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol yn gosod fy nghynlluniau manwl, gan gynnwys trefniadau cyllido, gan gymryd sylw o farnau a fynegwyd yn y cyfarfod.

Mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yn cadarnhau’r pwysigrwydd a roddwn ar roi’r Cyfnod Sylfaen ar waith fesul cam yn llwyddiannus; ac ar ei arwyddocâd i ddyfodol darpariaeth addysgol yng Nghymru.