Skip to content

Ysgrifenedig - Y Pythefnos Masnach Deg – 25 Chwefror i 9 Mawrth 2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rwy’n falch iawn o gael nodi llwyddiant y Pythefnos Masnach Deg (25 Chwefror i 9 Mawrth 2008) yng Nghymru i ddysgu mwy o bobl am fasnach deg.

Mae defnyddio cynnyrch masnach deg yng Nghymru yn helpu miloedd o ffermwyr a chynhyrchwyr i ddefnyddio masnach i ddianc rhag tlodi. Mae’r Pythefnos Masnach Deg yn amser gwerthfawr i annog pawb drwy godi ymwybyddiaeth am fasnach deg yng Nghymru. Dyma ffordd i bawb ohonom chwarae’n rhan i Roi Terfyn ar Dlodi a gwneud y byd yn lle tecach.

Mae llawer o weithgareddau wedi cael eu cynnal ledled Cymru eleni yn ystod y Pythefnos Masnach Deg, gyda chefnogaeth a chyhoeddusrwydd gan Fforwm Masnach Deg Cymru. Mae tri chynhyrchydd masnach deg hefyd wedi bod ar ymweliad Mae tri chynhyrchydd masnach deg hefyd wedi bod ar ymweliad â Chymru i helpu i hyrwyddo ac esbonio effaith masnach deg: ffermwr grawnffrwyth o Dde Affrica a dau gynrychiolydd o fudiad ffermwyr coco Kuapa Kokoo yn Ghana.

Bûm i frecwast Masnach Deg yn Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Bethlehem yn Nhreorci ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2008, lle dathlwyd pen-blwydd cyntaf Rhondda Cynon Taf fel sir Masnach Deg. Yno cwrddais â Martha Musonza-Holman, sy’n hanu o Zimbabwe yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Cymru, ac yn gwerthu crefftau Masnach Deg a gynhyrchir yn Zimbabwe.

Byddaf hefyd yn mynychu un o’r gweithgareddau olaf a gynhelir yng Nghymru yn ystod y Pythefnos Masnach Deg: bydd bws o Fudiad Masnach Deg y DU yn ymweld â’r Basn ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn 8 Mawrth rhwng 11:00am a 3:00pm. Mae hyn i gydnabod y ffaith mai Caerdydd oedd y brifddinas Masnach Deg gyntaf yn y byd. Ynghyd â’r bws, bydd pabell fawr a stondinau yn hyrwyddo masnach deg i ymwelwyr a’r cyhoedd, a bydd band samba yn diddanu’r dorf.

Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gefnogi’r ymgyrch Cymru i fod y wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd, ymgyrch sy’n cael ei harwain gan Fforwm Masnach Deg Cymru. Ers hynny rydym wedi gweld cynnydd aruthrol. Mae dros 1,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi’r ymgyrch. Bydd cyfarfod o gynrychiolwyr y sector masnach deg rhyngwladol yn cwrdd ym mis Ebrill 2008 i asesu a yw Cymru wedi cyrraedd statws Gwlad Masnach Deg.

Ddwy flynedd, dim ond 8 awdurdod lleol yng Nghymru oedd â statws Masnach Deg neu oedd yn ceisio’i ennill. Bellach, mae grwpiau Masnach Deg prysur yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Ddwy flynedd yn ôl roedd grwpiau gweithgar Masnach Deg mewn 11 o drefi yn unig, yn annog siopau a chaffis lleol i werthu cynnyrch Masnach Deg ac yn hybu ymwybyddiaeth am Fasnach Deg yn y gymuned leol. Bellach, mae grwpiau gweithgar mewn 57 o drefi.

Ddwy flynedd nid oedd unrhyw ysgolion Masnach Deg yng Nghymru, gyda dim ond llond llaw yn ceisio ennill statws Masnach Deg. Bellach, mae 247 o ysgolion ledled Cymru wedi cofrestru i fod yn ysgolion Masnach Deg – sef dros hanner yr holl ysgolion sydd wedi cofrestru yn y DU gyfan.

Dangosodd arolwg a gynhaliwyd flwyddyn yn ôl mai dim ond 44% o bobl Cymru oedd yn adnabod y nod Masnach Deg. Erbyn mis Tachwedd y llynedd roedd hyn wedi codi i 61%.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i hyrwyddo’r Pythefnos Masnach Deg yng Nghymru eleni, a phawb sy’n gweithio ar yr ymgyrch gwlad Masnach Deg. Gyda’n gilydd rydym yn rhoi cefnogaeth bwysig i’r mudiad masnach deg, sy’n sicrhau prisiau teg i ffermwyr/cynhyrchwyr mewn gwledydd datblygol ac sy’n cefnogi mentrau cymunedol i wella safon byw rhai o bobl dlotaf y byd.