Skip to content

Llafar - Coleri sy’n rhoi Sioc Drydanol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Yn fy ymateb i gwestiynau llafar ar 21 Mai ar les anifeiliaid, dywedais y byddwn yn gwneud datganiad ar goleri sioc drydanol cyn toriad yr haf. Yr ydym wedi ymgynghori ar yr egwyddor o wahardd coleri sioc drydanol ar gyfer cŵn yng Nghymru. Cawsom 173 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, ac erbyn hyn yr ydym wedi adolygu cynnwys yr ymgynghoriad.

Nid yw hwn wedi bod yn bwnc hawdd i’w archwilio, ac mae llawer o emosiwn ynglŷn ag ef. Mae graddau sylweddol o bryder bod y dyfeisiau hyn yn cael eu defnyddio’n amhriodol, ac mae hynny’n gwrthgyferbynnu ag ymatebion pobl sydd wedi’u defnyddio a chael eu bod wedi gweithio wrth atal anifail rhag camymddwyn. Yn amlwg, mae’r diwydiant sy’n cynhyrchu’r dyfeisiau hyn yn cefnogi’r syniad o barhau i’w defnyddio, a safbwyntiau cymysg sydd gan broffesiwn y milfeddygon. Yn ychwanegol at hyn i gyd, mae cyhoeddiadau gwyddonol sy’n rhoi tystiolaeth yn erbyn a thros dderbynioldeb coleri sioc drydanol.

Cydnabyddir y bydd sefyllfaoedd lle y gellid efallai gyfiawnhau defnyddio dyfeisiau o’r fath dan oruchwyliaeth—enghraifft a roddwyd imi oedd ci byddar oedd angen symbyliad anghlywedol. Felly, bydd angen efallai i’r ddeddfwriaeth gynnwys darpariaeth ar gyfer eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol. Yn yr un modd, defnyddir ffensys trydanol ar gyfer terfynau mewn ffermio, yn bennaf er mwyn rheoleiddio pori yr anifeiliaid dros dro. Maent yn gwbl weladwy ac mae rhybuddion arnynt. Os bydd ffensys trydanol yn cael eu defnyddio i hyfforddi a rheoli anifeiliaid anwes, dylai rheolau tebyg fod yn gymwys. Dylai ffensys a gysylltir â choleri sioc drydan gael eu defnyddio ar y cyd â rhwystrau ffisegol a thros dro yn unig, i hyfforddi anifail i gadw at ei derfynau.

Yr wyf yn ymwybodol o’r ymchwil a wneir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar effeithiau ymddygiadol, ffisiolegol a seicolegol defnyddio dyfeisiau hyfforddi ar y ci domestig yn y tymor byr a’r tymor hir, ond ni fydd yr ymchwil honno’n gorffen tan 2010, gyda phenderfyniadau ar yr hyn fydd yn digwydd yn cael eu gwneud ar ôl hynny. Byddwn yn cadw llygad ar yr ymchwil honno.

Ar ôl rhoi ystyriaeth ddyladwy i’r dadleuon, bwriadaf ddrafftio rheoliadau manwl i gyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio coleri sioc drydanol ar gyfer cŵn yng Nghymru. Ystyrir a ddylai eu gwerthu a’u meddu fod yn gynwysedig yn y ddeddfwriaeth. Bydd darpariaethau priodol yn cael eu gwneud i sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i sefyllfaoedd lle y gallai defnydd eithriadol o’r dyfeisiau hyn ddigwydd. Byddwn hefyd yn rhoi ystyriaeth briodol i wahardd systemau ffensio sy’n gweithio ar y cyd â choleri sioc drydanol.

Mae Cymru’n arwain y ffordd ar gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn y DU, a bydd fy swyddogion polisi yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr cyfreithiol a Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol i ddrafftio’r ddeddfwriaeth angenrheidiol, a fydd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad pellach.