Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Bu imi addo rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr uwchgynhadledd economaidd a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf, a hynny ar y cyfle cyntaf posibl.
Yn bresennol yn yr uwchgynhadledd oedd Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac arweinwyr o blith busnesau, undebau llafur a llywodraeth leol. Yn dilyn trafodaeth agored a gonest am yr her sydd o’n blaenau, yr oeddem yn gytûn yn ein hawydd i ddod o hyd i’r atebion sydd eu hangen o fewn pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’n amhosibl rhagweld pa effaith yn union y bydd yr argyfwng ariannol ac economaidd byd-eang yn ei chael, nac am ba hyd yn union y bydd yn para. Serch hynny, mae’n amlwg fod Cymru, ac economi Cymru, yn wynebu cyfnod anodd. Yr oedd yr uwchgynhadledd yn atgyfnerthu penderfyniad pob sector o economi Cymru i gydweithio er mwyn sicrhau y bydd yn y cyflwr gorau posibl pan fydd pethau’n gwella.
Yr ydym yn cydnabod agwedd gadarnhaol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur Cymru tuag at yr hyn y dylid ei wneud. Bu modd i’r Llywodraeth amlinellu’r mentrau a’r polisïau sydd eisoes yn eu lle, ac yn ein datganiad ar ddiwedd y cyfarfod, bu inni gyhoeddi pa gamau pellach y gallwn eu cymryd. Cytunom i sefydlu ffrydiau gwaith er mwyn edrych ar sut y gellid bwrw ymlaen â’r camau hynny.
Yn ystod yr uwchgynhadledd, bu inni egluro bod gennym rai polisïau a fyddai’n helpu Cymru i wrthsefyll yr argyfwng economaidd yn y tymor byr a’n gwneud yn fwy cystadleuol yn y tymor hwy. Mae £527 miliwn o arian Ewropeaidd wedi’i neilltuo i ariannu amrywiaeth o brosiectau buddiol. Yn eu plith, mae’r canlynol: £35 miliwn wedi’i fuddsoddi yn y rhaglen ReACT newydd er mwyn helpu gweithwyr sydd wedi’u diswyddo i gael swydd newydd neu hyfforddiant; £68 miliwn yn rhaglen Genesis II i helpu pobl i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith; £60 miliwn yn y prosiect adeiladu sgiliau er mwyn darparu hyfforddiant sgiliau sylfaenol, lleoliadau gwaith a chyngor.
Mae’r rhaglen datblygu’r gweithlu wedi’i hymestyn yn sylweddol, yn unol â’r hyn a gafodd ei gyhoeddi yn 'Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’. O dan y rhaglen, bydd ein tîm cenedlaethol o gynghorwyr yn yr isadran adnoddau dynol a darparwyr eraill yn rhoi cyngor cyflym i fusnesau unigol.
Mae cymorth hyblyg i fusnes yn ddull newydd o gynorthwyo busnesau. Mae’r broses o ymgeisio yn fwy syml ac mae llai o fiwrocratiaeth. Bydd y prosiect Yn Awyddus i Weithio gwerth £32 miliwn yn helpu tua 14,000 o bobl ddi-waith i gael gwaith neu hyfforddiant. Mae Cyllid Cymru yn rhoi mwy o arian i fentrau yng Nghymru i’w galluogi i gael gafael ar gredyd sy’n anodd ei gael ar hyn o bryd oherwydd sefyllfa ansefydlog y marchnadoedd ariannol rhyngwladol. Fodd bynnag, er gwaetha’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau—ni ddylem fyth wneud hynny.
Yr uwchgynhadledd oedd ein cyfle i wrando’n ofalus iawn ar y problemau y mae’r gymuned fusnes a’r sector ariannol yn eu hwynebu yng Nghymru ar adeg anodd iawn i economi gwledydd o bob cwr o’r byd. Mae angen inni ymateb i hyn drwy ganolbwyntio ar bryderon a phrofiad uniongyrchol y bobl sydd mewn perygl o ddioddef o ganlyniad i’r argyfwng economaidd os ydym ni yn wirioneddol am helpu busnesau ac unigolion i ymdopi â’r heriau hyn.
Ar ôl yr uwchgynhadledd, ymunais â’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi’r camau y cytunwyd arnynt ar unwaith. Dyma’r pwyntiau gweithredu a amlinellwyd yn yr hysbysiad. Yn gyntaf, byddwn ni yn Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio’n agos gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi mesurau’r DU gyfan ar waith. Byddwn yn parhau i drafod gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ni allwn anwybyddu’r ffaith ein bod mewn argyfwng byd-eang, sy’n golygu ei bod yn rhaid i genhedloedd gydweithio.
Byddwn yn datblygu ein sianelau er mwyn gwella’r wybodaeth a gyfathrebir rhwng busnesau a’r Llywodraeth. Mae angen inni hefyd symud ymlaen i gam gweithredu ein trafodaethau. I yrru hyn ymlaen, byddwn yn trefnu cyfarfodydd pellach o’r uwchgynhadledd Cymru gyfan dros yr wythnosau nesaf.
Ein trydydd cam fydd creu fforwm ar gyfer y sector bancio ac ariannol yng Nghymru. Bydd hwnnw’n archwilio pa gyngor a chefnogaeth ychwanegol y gellir eu rhoi i fusnesau yng Nghymru. Yn bedwerydd, fel y mae’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus eisoes wedi’i gyhoeddi, byddwn yn helpu busnesau bach a chanolig gyda’u llif arian, drwy wella prosesau caffael a gwneud taliadau’n gynt ar draws y sector cyhoeddus. Byddwn hefyd yn adolygu ein gwasanaeth cymorth hyblyg newydd i gefnogi busnes er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd iddo ei gyflawni—sef atebion wedi’u teilwra ar gyfer busnesau unigol, hyd yn oed wrth i’w hamgylchiadau a’r amgylchedd economaidd newid.
Byddwn yn cefnogi busnesau nad ydynt yn gallu fforddio costau cyflogau yn ogystal â gweithwyr sydd dan fygythiad o golli eu swyddi. Cytunasom yn yr uwchgynhadledd i edrych ar brosiectau cyfredol a phrosiectau i’r dyfodol er mwyn sicrhau bod cyllid cydgyfeirio a chystadleurwydd yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Y cam olaf a gymerwn ar unwaith fydd craffu ar ein rhaglen gyfalaf er mwyn dwyn ymlaen cyfleoedd adeiladu. Yr ydym yn dechrau gyda’r banc tir yn fy adran ac yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i weld a allwn ryddhau tir ar gyfer ei ddatblygu. Bydd y ffocws ar dai fforddiadwy i ddiwallu ein hamcanion cymdeithasol ar gyfer yr agenda hon ac i fynd i’r afael â phroblemau penodol a wynebir gan y sector adeiladu tai preswyl.
Mae ein partneriaid yn y sector preifat yn rhannu ein barn bod y camau hyn yn cynrychioli camau sylweddol ymlaen i gefnogi economi Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn o ansicrwydd economaidd ac ariannol byd-eang. Fel yr eglurais yn gynharach, yr ydym eisoes wedi sefydlu ffrydiau gwaith er mwyn ystyried ac ymateb i’r pwyntiau gweithredu a gytunwyd yn yr uwchgynhadledd.
Mae’r setliad datganoli yn golygu, am y tro cyntaf mewn argyfwng economaidd, y gallwn gymryd camau gyda’n gilydd yng Nghymru, dros Gymru. Rhoddaf fy sicrwydd i Aelodau bod Gweinidogion ar draws Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud popeth o fewn eu pŵer, a gan ddefnyddio pob dylanwad posibl, i roi Cymru yn y sefyllfa orau bosibl yn ystod y dirywiad, yr adferiad a’r tu hwnt.