Skip to content

Ysgrifenedig - Rheilffordd Glyn Ebwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mae Tîm Prosiect Rheilffordd Glyn Ebwy wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru y bydd gwasanaethau trên i deithwyr rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd yn cychwyn ddydd Mercher, 6 Chwefror 2008.

Bydd y trên cyntaf o Orsaf Parcffordd Glynebwy i Orsaf Caerdydd Canolog yn gadael am 06:40, a’r trên cyntaf o Orsaf Caerdydd Canolog i Orsaf Parcffordd Glynebwy yn gadael am 06:35. Ar ôl hynny, bydd gwasanaeth bob awr ar gael i’r ddau gyfeiriad.