Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.
Yr wyf yn falch o adrodd am drydydd cyfarfod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 19 Mehefin. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Technium OpTIC yn Llanelwy. Yr oedd yn lleoliad priodol ar gyfer cyfarfod y comisiwn, gan fod yno nifer o nodweddion cynaliadwy, gan gynnwys wal solar ffotofoltäig fawr a chwmnïau newydd sy'n arloesi ym maes technoleg.
Cyflwynais adroddiad hefyd am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ers cyfarfod diwethaf y comisiwn ym mis Mawrth. Yr oedd y camau hyn yn cynnwys cwblhau adroddiad, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth y Cynulliad, a oedd yn darparu asesiad cychwynnol o gosteffeithiolrwydd dewisiadau amrywiol ar gyfer lleihau allyriadau ym mhob sector. Cafodd yr adroddiad manwl ei ystyried yn ystod y cyfarfod. Fel rhan o'r ymdrech i sicrhau y bydd pob adeilad newydd yn ddi-garbon o 2011 ymlaen, mae Llywodraeth y Cynulliad yn awr yn hybu'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy fel y fframwaith asesu ar gyfer tai newydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn clustnodi prosiectau enghreifftiol er mwyn helpu i gynllunio'n effeithiol ar gyfer adeiladau di-garbon.
Byddaf yn cyhoeddi pecyn o fesurau cynllunio a newid yn yr hinsawdd yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn dilyn yr ymgynghoriad, 'Cynllunio ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd'. Mae'r gwaith o lunio'r cynllun effeithlonrwydd ac arbed ynni cenedlaethol yn mynd rhagddo. Ddechrau mis Mehefin, cyhoeddais y byddwn yn lansio cynllun, ar y cyd â Llywodraeth y DU, er mwyn gosod systemau microgynhyrchu mewn cartrefi sy'n dioddef o dlodi tanwydd. Yr ydym yn gwneud cynnydd da â'r gwaith o ddatblygu prosiect strategol i gefnogi cynhyrchu ynni cymunedol drwy'r rhaglen gydgyfeirio. Ym mis Ebrill, cynhaliwyd dau ddigwyddiad arall yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yn Llandudno a Chaerfyrddin.
Mae pecyn gwybodaeth i'r gymuned yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu cynlluniau ar gyfer ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar newid yn yr hinsawdd, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni. Y mis diwethaf, cyhoeddais y penderfyniad i ailwampio cynllun datblygu cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad. Cymru bellach yw'r wlad masnach deg gyntaf yn y byd, ac mae hon yn garreg filltir bwysig i adeiladu arni.
Cydnabu'r comisiwn fod y targed o ostyngiad o 3 y cant bob blwyddyn mewn allyriadau yn ymrwymiad gwleidyddol pwysig, a bod cefnogaeth gyffredinol iddo gan bob plaid yng Nghymru. Croesawodd y comisiwn y targed, a'r gobaith y bydd yn arwain at leihad gwirioneddol mewn allyriadau, gan ei fod yn gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. Yr un pryd, cydnabu'r comisiwn na fydd gostyngiadau blynyddol o 3 y cant drwy'r byd yn ddigon i sefydlogi allyriadau ar lefel sy'n osgoi newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r dystiolaeth wyddonol yn nodi'n glir y bydd angen gostyngiadau llawer mwy mewn allyriadau yng Nghymru, ac yn fyd-eang, er mwyn osgoi cynnydd o fwy na 2 radd C yn y tymheredd. Bydd y comisiwn yn cadw'r her fwy hon mewn cof pan fydd yn ceisio llunio, datblygu a gweithredu cynigion ar gyfer y targed o 3 y cant, ac ysgogi'r sectorau a gynrychiolir gan aelodau'r comisiwn i weithredu.
Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth ar ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynlluniau i'r DU gynhyrchu 15 y cant o'i hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn y flwyddyn 2020. Mae cyfran sylweddol o allyriadau Cymru'n dod o ddulliau cynhyrchu trydan anadnewyddadwy, a bydd y newid hwn i ddefnyddio mwy o ddulliau cynhyrchu adnewyddadwy yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ar gyfer lleihau allyriadau. Neilltuodd y comisiwn gyfran sylweddol o'r cyfarfod i drafod y diffiniad o'r targed o 3 y cant, a geir yn 'Cymru'n Un', a sut y bydd y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Gwnaethpwyd cynnydd da wrth fanylu yngl?n â'r diffiniad.
Cytunodd y comisiwn y dylai'r targed ddefnyddio cyfuniad o ddata cynhyrchu a data defnyddio, yn fwyaf arbennig er mwyn sicrhau bod y modd y defnyddir ynni'n cael ei adlewyrchu. Cytunodd y comisiwn fod ymagwedd sectoraidd gyffredinol yn briodol, ac y byddai hyn, er enghraifft, yn cynnwys trafnidiaeth, y sectorau preswyl a chyhoeddus, defnydd tir, amaethyddiaeth, a'r rhannau hynny o fusnes nad ydynt yn rhan o'r 'sector a fasnachir', hynny yw, y rhannau hynny nad ydynt yn ddarostyngedig i gynllun masnachu allyriadau'r Undeb Ewropeaidd. Bu'r comisiwn hefyd yn trafod materion manwl megis blynyddoedd sylfaen ac a ddylid mesur ar sail blwyddyn unigol neu gyfartaledd treigl. Gofynnir i'r is-grwpiau wneud argymhellion terfynol ar y materion mwy technegol hyn.
Cafodd y comisiwn gyflwyniad gan gwmni Npower renewables yn amlinellu statws presennol y diwydiant ynni adnewyddadwy morol. Yn ystod y sesiwn holi-ac-ateb yn dilyn y cyflwyniad, trafododd aelodau'r comisiwn beth y gellid ei wneud er mwyn helpu i ddatblygu a defnyddio'r technolegau hyn yn fasnachol yng Nghymru. Mae'r comisiwn yn credu y gallai technolegau ynni adnewyddadwy morol sy'n bodoli'n barod, ac sy'n cael eu datblygu, fod yn bwysig iawn er mwyn helpu Cymru i leihau ei hallyriadau nwyon t? gwydr.
Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r comisiwn yngl?n â'r cynnydd yr oedd yr is-grwpiau wedi'i wneud. Mae llawer o waith pwysig yn cael ei wneud, gan gynnwys nodi camau y gellir eu cymryd ar unwaith er mwyn lleihau allyriadau mewn sectorau allweddol, archwilio camau addasu sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol mewn sectorau allweddol, a diffinio'r targed o 3 y cant a ffynonellau data.
Bu dau o hyrwyddwyr newid yn yr hinsawdd Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd rhan yn y cyfarfod. Rhoddodd un o'r hyrwyddwyr, James Fletcher, gyflwyniad yn sôn am ei ran ef yn yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn Japan yn ddiweddar ar gyfer Gweinidogion dros yr amgylchedd yng ngwledydd yr G8. Yr oedd yno fel un o dri hyrwyddwr rhyngwladol y DU ar gyfer newid yn yr hinsawdd, ac yr oedd yn rhan o ddirprwyaeth o bobl ifanc a gyflwynodd 'Her Kobe' ar newid yn yr hinsawdd i'r rhai a oedd yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd. Cafwyd deialog gadarnhaol hefyd rhwng yr hyrwyddwyr a chynrychiolwyr Ffederasiwn y Busnesau Bach a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yngl?n â sut y gall pobl ifanc, fel gweithwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol, weithio gyda busnesau er mwyn eu hannog i weithredu ym maes newid yn yr hinsawdd. Bydd yr hyrwyddwyr newid yn yr hinsawdd yn trafod hyn gyda chynrychiolwyr y sector busnes.
Cymeradwyodd y comisiwn yr adroddiad ar ôl-troed ecolegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gan ddweud ei fod yn adroddiad sy'n cynnig ffordd hygyrch o ystyried faint o newidiadau, a pha fath o newidiadau y mae angen inni eu gwneud yn ein polisïau mewn ymateb i'r her o fyw'n gynaliadwy. Yr oedd y cyfarfod yn parhau â'r cynnydd sylweddol a oedd wedi'i wneud yn barod mewn dau sesiwn blaenorol. Mae Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn datblygu'n sefydliad cynhyrchiol iawn, sydd â rhan bwysig i'w chwarae yn y cynnydd y bydd Cymru'n ei wneud wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.