Skip to content

Ysgrifenedig - Rheoli Cynlluniau Datblygu Gwledig Echel 2 ar gyfer 2009-10 a 2010-11

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig

Ym mis Tachwedd 2007, lansiais y Cynllun Ffermio Organig newydd. Diben y cynllun newydd oedd rhoi hwb i’r sector organig drwy ddarparu cyfraddau talu uwch, help gyda chostau ardystio a thrwy gefnogi garddwriaeth organig. Mae’r cynllun, ynghyd â chynlluniau Tir Gofal a Thir Cynnal, yn un o elfennau allweddol Echel 2 (y rhaglen amaeth-amgylchedd) Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13.

Dyrannodd Llywodraeth Cynulliad Cymru £3.1m i’r cynllun ar gyfer 2009-10 a 2010-11. Mae’r arian hwn yn ddigon i ganiatáu i hyd at 100 o ymgeiswyr newydd ymuno â’r cynllun bob blwyddyn – sy’n sylweddol uwch na nifer cyfartalog y ceisiadau a gafwyd o dan y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf, sef ychydig dros 70 bob blwyddyn.

Yn ystod y 6 mis diwethaf, bu cynnydd mawr yn nifer y ffermydd sydd wedi troi’n organig yng Nghymru. Yn gyfan gwbl, mae bron i 1,000 o ffermydd wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun newydd, gan gynnwys tua 400 ers mis Ebrill. Mae hyn yn newyddion da i amaethyddiaeth Cymru ac mae’n golygu bod tua 8% o Gymru bellach naill ai’n gyfan gwbl organig neu yn y broses o droi’n organig.

Yn fy marn i, mae’n bwysig iawn fod pob un o’r 1,000 o ffermwyr sydd wedi troi’n organig yn cael cymorth ariannol o dan y Cynllun Ffermio Organig. Maent wedi gwario arian ar y broses ac maen nhw’n haeddu cefnogaeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am gael arian ychwanegol sy’n fwy na’r hyn a ddyrannwyd yn y gyllideb.

Rwyf felly wedi edrych ar y dewisiadau ar gyfer addasu’r proffil gwario ar draws portffolio cynllun Echel 2 a fydd yn caniatáu i mi drosglwyddo cyllid i’r Cynllun Ffermio Organig. Ar ôl rhoi ystyriaeth fanwl i’r holl ddewisiadau amgylcheddol, cyfreithiol a gweithredol posibl, rwyf wedi penderfynu cymryd y cam canlynol; 

  • Bydd y Cynllun Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon yn cael ei ohirio o ddiwedd 2009 tan fis Ebrill 2010. Ni fydd gostyngiad yn nifer y dalgylchoedd na goblygiadau andwyol i Barthau Perygl Nitradau. Mae hyn yn arbed £2.1 miliwn (£1.5 miliwn i Lywodraeth y Cynulliad) yn ystod 2009-10 a 2010-11.
  • Bydd unrhyw gytundebau Tir Cynnal newydd pellach yn cael eu hatal dros dro tra’n disgwyl canlyniad yr adolygiad o gynllun Echel 2. Bydd hyn yn cynnwys y ffermwyr hynny a wnaeth gais i ymuno â’r cynllun ar ffurflen y Cais Sengl eleni. Mae hyn yn arbed £2.8 miliwn (£2.1 miliwn i Lywodraeth y Cynulliad) yn ystod yr un ddwy flynedd.
  • Bydd ceisiadau i Dir Gofal nad ydynt yn cyrraedd y 100 pwynt sy’n ofynnol i ymuno â’r cynllun, yn cael eu gwrthod. Bydd hyn yn sicrhau mai’r ffermydd hynny sy’n cynnig y canlyniadau gorau i’r amgylchedd yn unig fydd yn cael eu datblygu. Mae hyn yn arbed £3.8 miliwn (£2.8 miliwn i Lywodraeth y Cynulliad) dros ddwy flynedd, gyda gostyngiad dilynol yn nifer targed y ffermydd a dderbynnir i’r cynllun.

Bydd y camau hyn yn caniatáu inni gynyddu’r cyllid a ddyrennir i’r Cynllun Ffermio Organig i £7.5 miliwn yn ystod 2009-10 a £5.5 yn ystod 2010-11. Bydd hyn yn fy ngalluogi i roi cymorth ariannol i holl geisiadau eleni, gyda’r taliadau cyntaf yn dechrau cyrraedd yn gynnar yr wythnos nesaf.

Yn olaf, mae’n amlwg na fyddai modd i ni gefnogi pawb yn ariannol pe byddai’r twf cyflym presennol yn y sector organig yn parhau. Bydd dyraniad newydd y gyllideb yn caniatáu i hyd at 100 o ffermwyr ychwanegol ymuno â’r cynllun yn ystod y 12 mis nesaf – ond os bydd twf yn rhagori ar y nifer hwn, ni chaniateir i rai ffermwyr ymuno â’r cynllun. Er mwyn sicrhau bod pob ffermwr sy’n ystyried troi’n organig yn gwybod pa un a fydd cymorth ariannol ar gael iddo ai peidio, rwyf wedi penderfynu, yn y dyfodol, y dylai ffermwyr sydd am wneud cais i Lywodraeth y Cynulliad am arian wneud hynny cyn mynd ati i droi’n organig. Bydd hyn yn golygu y gellir rhoi ymrwymiad i ffermwyr y byddant yn cael eu hariannu neu roi cyngor clir iddynt na fyddant yn cael cymorth ariannol, gan eu galluogi felly i wneud penderfyniadau busnes cytbwys.

Bydd manylion ynghylch sut y caiff hyn ei roi ar waith yn cael eu paratoi ar ôl ymgynghori â’r Undebau Ffermwyr a Chanolfan Organig Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Tan hynny, bydd y Cynllun Ffermio Organig ar gau i unrhyw geisiadau pellach.