Skip to content

Llafar - Adolygiad Alan Axford o Wasanethau yng Ngheredigion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Aelodau’n cofio i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi moratoriwm y llynedd ar newid gwasanaethau o fewn ysbytai cyffredinol dosbarth ac ysbytai cymunedol yng Nghymru nes byddai nifer o adolygiadau allweddol ar ddatblygiad gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wedi’u cynnal.

Mewn ymateb i bryderon sylweddol a fynegid yn ardal Ceredigion gan arweinwyr cymunedol a’r boblogaeth leol, ynglŷn â chynlluniau i newid eu gwasanaethau ysbyty cymunedol, gofynnais i Dr Alan Axford, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a’r Canolbarth fel yr oedd ar y pryd, i ymgymryd ag adolygiad o aliniad gwasanaethau rhwng y cynigion ar gyfer datblygu cyfleusterau iechyd cymunedol newydd yn Aberaeron, Aberteifi a Thregaron a gwasanaethau a ddarperid o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Cafodd y cynigion hyn ar gyfer newid eu datblygu yng nghyd-destun y cynllun ehangach ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ar draws y canolbarth a’r gorllewin, a oedd hefyd wedi codi cryn bryder ar draws cymunedau.

Heddiw cefais gopi o adroddiad terfynol Dr Axford, sy’n rhoi golwg buddiol ar yr ystyriaethau y mae angen rhoi sylw iddynt wrth geisio sicrhau gwasanaethau o safon dda yn gyson i boblogaeth Ceredigion, ynghyd â’r berthynas bwysig sy’n bodoli gydag ardaloedd cyfagos. Mae adroddiad Dr Axford yn disgrifio model o ddarpariaeth gwasanaeth iechyd a fydd yn gwella’r gofal y gallai pawb ei gael yn yr ardal honno, gan dynnu sylw at wir botensial i gynyddu’r gofal y gellid ei ddarparu’n fwy lleol ac yng nghartrefi pobl.

Mae argymhellion Dr Axford yn cyd-fynd â’n nod strategol o ail-gydbwyso’r system gofal iechyd i wneud y mwyaf o’r posibiliadau ar gyfer darparu gofal yn lleol ac o fewn ein syniadaeth ddatblygol ynghylch rheoli cyflyrau cronig yn fwy effeithiol yng Nghymru.

Mae bodolaeth trefniadau rheolaeth glinigol cadarn yn ganolog i’r pryderon ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau lleol. Bydd y camau a gymerais yn ddiweddar i greu Ymddiriedolaeth GIG newydd Hywel Dda yn sicrhau bod modd cyflwyno’r modelau gwasanaeth newydd i Geredigion mewn ffordd glinigol effeithiol, ac y caiff y gwasanaethau newydd eu hintegreiddio’n llawn â’r rhwydweithiau clinigol ar draws y canolbarth a’r gorllewin.

O ran casgliadau penodol adroddiad Dr Axford, ar gyfer ardal Aberaeron, mae’n ategu’r cynigion sydd eisoes wedi’u gwneud gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol, sef am gyfleuster integredig yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol mewn canolfannau newydd, clinigau nyrsys ac ymgynghorwyr, a gwell gwasanaethau sgrinio a diagnostig, gyda gwell gwasanaethau ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, clywedeg, trin traed a gofal cymdeithasol.

Yn ardal Tregaron, mae Dr Axford wedi ystyried y pryderon a fynegwyd yn lleol am y cynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol. Mae angen cyfleusterau newydd yn lle llawer o’r cyfleusterau gofal iechyd a chymdeithasol sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Dr Axford yn cydnabod y rhan bwysig a chwaraeir gan y gwasanaethau gofal cleifion da sy’n bodoli i’r gymuned leol ar gyfer adfer cleifion, a’r potensial i gryfhau eto’r cysylltiadau clinigol cryf sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng Ysbyty Tregaron ac Ysbyty Bronglais.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi manylion y camau y gall gwasanaethau iechyd a chymdeithasol eu cymryd i gefnogi a datblygu rhyddhad cynharach o’r ysbyty, pan fydd yn briodol.

O ran y datblygiad sydd wedi’i gynllunio yn ardal Aberteifi, mae Dr Axford yn ategu’r model gwasanaeth gofal iechyd a chymdeithasol a geir yn yr achos busnes dros ailddatblygu Ysbyty Aberteifi. Fodd bynnag, y mae wedi mynegi’i bryderon i mi ynghylch argaeledd y safle arfaethedig i’r gwasanaeth newydd, yn enwedig gan yr ymddengys nad oes safle arall addas ar gyfer cyfleuster newydd yn Aberteifi, a fyddai’n rhoi gwasanaeth cystal i boblogaethau de Ceredigion, gorllewin sir Gaerfyrddin ac yn enwedig gogledd sir Benfro. Os na ellir sicrhau safle addas gyda chaniatâd cynllunio, ei farn ef yw y byddai’n rhaid meddwl o ddifrif am symud y gwasanaethau i ardal Llanbedr Pont Steffan a’r Felinfach, ond byddai hyn yn anfantais bendant i bobl yng ngogledd sir Benfro. Byddaf yn trafod cwestiwn llosg safle ar gyfer y datblygiad pwysig hwn, oherwydd byddwn yn anhapus petai’n rhaid inni dderbyn ateb salach oherwydd diffyg safle priodol.

Er bod hyn y tu allan i gylch gorchwyl yr adolygiad hwn, mae Dr Axford wedi tynnu sylw at bwysigrwydd strategol y gwasanaethau yn Nhywyn a Machynlleth, a’r cyfleon datblygu posibl ar gyfer darparu gwasanaethau gwell i’r ardaloedd hynny drwy eu cysylltiad ag Ysbyty Bronglais. Yr wyf wedi gofyn i Dr Axford ymchwilio ymhellach i’r cyfleon hyn, mewn ymgynghoriad â sefydliadau cyfagos a rhanddeiliaid.

Yr wyf wedi fy modloni’n fawr gan waith Dr Axford, ac yr wyf yn ddiolchgar dros ben iddo am ei ymdrechion. Mae’n manylu’n glir yn ei adroddiad y ffyrdd y gellid darparu gofal cynaliadwy o ansawdd da i gymuned Ceredigion, gan adeiladu ar y cyfleon drwy gysylltiadau telefeddygaeth ag Ysbyty Bronglais i gynyddu’r oruchwyliaeth glinigol ar y staff da yn y cymunedau hyn, i ganiatáu iddynt ehangu eu sgiliau a datblygu eu gwasanaethau ymhellach.

Ac edrych ymhellach ar oblygiadau ehangach yr adolygiad hwn, mae adroddiad Dr Axford yn cadarnhau i mi y rôl bwysig y bydd Ysbyty Bronglais yn parhau i’w chwarae o fewn y rhwydwaith o ysbytai mwy yng Nghymru, gan weithredu fel y canolbwynt clinigol ar gyfer gofal mwy arbenigol yn y rhan hon o Gymru, ac fel y pwynt cefnogaeth cyntaf i ysbytai llai a gwasanaethau yn y gymuned. Bydd y buddsoddiadau cyfalaf cynlluniedig yr ydym yn eu gwneud i wella gwasanaethau ym Mronglais yn cefnogi’r rôl honno yn fwy fyth.

Mae Dr Axford wedi pwysleisio’r angen inni feddwl yn fwy creadigol am y rôl y mae ysbytai cymunedol traddodiadol wedi’i chwarae, a chydnabod na allwn farnu’n or-syml fod modd gweithio un model neu farn ynghylch maint a nifer gwelyau mewn gwahanol gymunedau. Mae’n tynnu sylw at nifer o ddatblygiadau eraill yng Nghymru, megis yn ne sir Benfro, a Dinbych-y-pysgod yn enwedig, sir Fynwy a Llanfair ym Muallt, lle mae modelau newydd sydd naill ai’n weithredol neu ar y gweill yn newid y ffordd y darparwn wasanaethau iechyd lleol yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr â’i farn fod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarparwn yn y dyfodol gael eu darparu mewn adeiladau sy’n addas i’r diben.

Yn olaf, mae adroddiad Dr Axford yn darparu tystiolaeth ymarferol werthfawr i fy strategaeth iechyd gwledig. Mae’r grŵp llywio, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan-Morgan, eisoes wedi ystyried llawer o’r adolygiadau eraill a gomisiynwyd gennyf, ac yr wyf wedi anfon copi o adroddiad Dr Axford ymlaen at yr Arglwydd Elystan-Morgan i’w ystyried gan ei grŵp. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl na fydd y grŵp llywio’n dymuno cwrdd â Dr Axford i drafod ei gasgliadau’n llawnach.

Yn gynharach heddiw, trefnais fod yr adroddiad llawn ar gael i Aelodau’r Cynulliad, ac yr wyf wedi gofyn i’r byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru sy’n gwasanaethu cymunedau gwledig dalu sylw dyledus i’w gasgliadau a’i argymhellion wrth gynllunio’u gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol ar gyfer y dyfodol.