Skip to content

Ysgrifenedig - Y Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
Mae Adran 73 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006") yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cynllun llywodraeth leol. Bydd yn pennu sut y maent yn bwriadu, wrth ymarfer eu swyddogaethau, gynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwn, mae llywodraeth leol yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau'r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol.

Mae Deddf 2006 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar sut y cafodd y cynigion a bennwyd yn y cynllun llywodraeth leol eu gweithredu ym mhob blwyddyn ariannol. Lluniwyd y Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyntaf yn y flwyddyn 2000, a chafodd ei adolygu a'i ddiweddaru yn 2004. Mae'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2006-07 yn pennu sut y cafodd y cynllun a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ei weithredu yn y flwyddyn honno.

Mae'r Cynllun presennol, a gafodd ei gymeradwyo gan Gyngor Partneriaeth Cymru, yn adlewyrchu'r fframwaith cyfansoddiadol a deddfwriaethol newydd sy'n cael eu darparu gan Ddeddf 2006. Trwy gyfrwng y Cynllun, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi ymrwymo i gydweithio mewn partneriaeth, mewn ysbryd o ymddiriedaeth a pharch o'r ddwy ochr, gan gydnabod gwerth a chyfreithlondeb y swyddogaethau sydd gan y ddwy ochr wrth lywodraethu Cymru.

Bydd yr ethos hwn o bartneriaeth a chydweithrediad yn parhau i fod yn rhan o Gyngor Partneriaeth Cymru. Mae'n darparu fforwm effeithiol ar gyfer trafodaethau uniongyrchol a chydweithio rhwng Gweinidogion Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol wrth ddatblygu'r Cynllun. Mae'r Cynllun hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer ymgynghori a chydweithredu amserol rhwng Llywodraeth y Cynulliad a llywodraeth leol ar bob lefel wrth ddatblygu ein hagendâu cyffredin.

Mae ein hagenda ar ddiwygio a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn cydnabod bod yn rhaid darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol trwy amrywiaeth eang o gydweithrediadau rhwng darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac eraill. Mae gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud trwy raglen "Creu'r Cysylltiadau: Darparu ar Draws Ffiniau" , sef dechrau ein taith tuag at ddull newydd o weithio. Cafodd y dull newydd hwn ei gymeradwyo yn natganiad polisi llywodraeth leol “Rhannu Cyfrifoldeb”, a gyhoeddwyd yn 2007. Mae hyn yn cydnabod bod gan lywodraeth leol swyddogaeth sylweddol iawn o ran clywed lleisiau ein dinasyddion, a gweithredu ar hynny. Ar lefel leol, mae Byrddau Gwasanaeth Lleol yn dod â darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i integreiddio eu swyddogaethau ble bynnag y bo angen i gael gwell canlyniadau ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Mae Llywodraeth y Cynulliad, trwy gydweithio â llywodraeth leol a phartneriaid eraill, wedi sefydlu dulliau amrywiol o gynorthwyo'r broses o ddiwygio a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae Gwerth Cymru yn rhoi cymorth trwy roi cyngor, canllawiau a chymorth o ran arferion gorau, yn ogystal â chaffael ar y cyd. Mae Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn mynd i'r afael ag anghenion datblygu rheolwyr ac arweinwyr, sefydliadau annibynnol yn y sector cyhoeddus, a'r gymuned ehangach o ran gwasanaethau cyhoeddus.

Caiff gwasanaethau cyhoeddus eu rheoli ar nifer o lefelau yng Nghymru - yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae'n rhaid i holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar gysylltu ac integreiddio gwasanaethau er budd y dinesydd.

I gefnogi hyn, rydym yn ymgynghori ar y cyfleoedd ar gyfer creu dyletswydd i gydweithredu rhwng partneriaid sy'n cael eu henwi. Byddwn yn creu fframwaith cenedlaethol i gysylltu Cynllun Gofodol Cymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol â'r Strategaeth Gymunedol ar lefel leol. Rydym hefyd yn bwriadu ymgynghori ar gynigion i ddiwygio'r strwythurau ar gyfer llywodraethu awdurdodau lleol a chraffu i'w caniatáu i weithredu'n fwy effeithiol yn y maes o weithio fel partneriaeth.

Mae'r Cynllun Partneriaeth hefyd yn cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau cymuned a thref wrth gynrychioli safbwyntiau a phryderon eu cymunedau. Maent mewn sefyllfa dda i nodi anghenion a blaenoriaethau eu cymunedau; i roi arweiniad i annog pobl ac asiantaethau lleol i fodloni'r anghenion hynny; a darparu gwasanaethau penodol pan fydd ateb pwrpasol yr opsiwn gorau i'r gymuned.

Un o ymrwymiadau Llywodraeth y Cynulliad sy'n cael blaenoriaeth yw'r datblygiad parhaus o'r berthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol unedol a chynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau yn fuan, gyda'r nod o annog a hwyluso'r broses o ddatblygu cytundebau neu siarteri rhwng y ddwy ochr, gan roi amlinelliad o sut y byddant yn cydweithredu â'i gilydd i gynorthwyo i hyrwyddo arferion da a dileu unrhyw amwysedd.

Yn y pen draw, mae'n bosib mai canlyniad partneriaethau mwy clos fydd dirprwyo swyddogaethau i'r cynghorau cymuned a thref hynny sydd â'r gallu, yn ogystal â'r awydd, i ymgymryd â'r rhain, pan fydd pawb yn cytuno mai dyma'r ffordd ymlaen fwyaf addas. O fewn maes ehangach y partneriaethau, mae her newydd hefyd i sector y gymuned a'r dref ddod o hyd i'w lle o fewn dulliau'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol o weithredu.

Mae llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau y mae nifer o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yn ddibynnol arnynt. Maent yn sylfaenol i wella ansawdd bywyd pob dinesydd a chymuned. Rwy'n cymeradwyo ymrwymiad parhaus pawb ym maes llywodraeth leol i gynnal a gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cefnogi yn hyn.

Ers mis Mehefin 12007, rydym wedi darparu pecyn meddalwedd rheoli perfformiad - Ffynnon - yn ddi-dâl i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Ffynnon yn system unigryw o safon fyd-eang o bosibl. Mae'n darparu ar gyfer rheoli perfformiad o'r ansawdd uchaf o fewn awdurdodau lleol, ac yn caniatáu rhannu data yn gyflym ac yn hwylus gyda darparwyr gwasanaeth eraill. Wrth wneud hynny, mae'n hwyluso'r broses o ddadansoddi perfformiad yn gymharol a'r cydlafurio rhwng asiantaethau i ddarparu gwasanaethau gwell i ddinasyddion.

Rhwng 2004 a 2007, roedd gan pob awdurdod lleol gytundeb polisi gyda Llywodraeth y Cynulliad eu bod i gyrraedd targedau gwella gwasanaeth, a derbyn grant am eu cyrraedd. Roedd tystiolaeth bod cytundebau polisi yn gwella ansawdd y gwasanaeth. Mae angen inni symud ymlaen oddi wrthynt i annog awdurdodau lleol i feddwl yn fwy creadigol am y dull gorau i fodloni anghenion lleol, ac ar yr un pryd gyfrannu tuag at ein hamcanion Cymru'n Un. Yn ystod 2008-09, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn mynd ati i ddatblygu cyfres o Gytundebau Gwella pwrpasol gyda phob awdurdod lleol i wneud hynny.

Mae disgresiwn lleol i fodloni anghenion lleol yn bwysig. Mae dinasyddion hefyd yn disgwyl derbyn safon addas o wasanaeth ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Er bod ansawdd gwasanaeth llywodraeth leol yn parhau i wella, mae perfformiad yn amrywio'n sylweddol. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar gyfres fer o safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau allweddol, a fydd yn amlwg yn arddangos ansawdd gwasanaethau i awdurdodau lleol yn ogystal â'r rhai hynny y maent yn eu gwasanaethu.

Mae'r Cynllun Partneriaeth yn darparu fframwaith ar gyfer hyrwyddo cydweithredu a dealltwriaeth mwy clos rhwng Llywodraeth y Cynulliad a theulu ehangach llywodraeth leol wrth inni geisio mynd i'r afael ag anghenion a dyheadau pobl Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at nodi'r cynnydd i'r Aelodau maes o law.