Skip to content

Llafar - Rhannu llwyddiannau’r Gêmau Olympaidd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth

Yr wyf yn siŵr y bydd pawb ohonoch yma am ymuno â mi wrth longyfarch yr athletwyr o Gymru ar eu llwyddiannau aruthrol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Yr oedd 14 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd a 38 yn y Gemau Paralympaidd. Mae’n dangos ein bod ni, fel gwlad fach, yn gallu cyflawni’n well na’r disgwyl o gofio maint ein poblogaeth. Mae’n werth nodi’r ffigurau canlynol: yr oedd un o bob chwech o’r tîm Paralympaidd yn dod o Gymru ac enillwyd un o bob pump o’r medalau aur a ddaeth i Brydain gan athletwyr o Gymru. Enillodd ein hathletwyr gyfanswm o 27 o fedalau ar draws yr amrywiol gampau, ac yr oedd yn bleser ac yn fraint i mi gael bod yn rhan o’r dathlu brwd ar risiau’r Senedd i groesawu’r ddau dîm yn ôl i Gymru. Rhaid i ni beidio ag anghofio diolch i bawb a fu’n cefnogi’r athletwyr, gan gynnwys y teuluoedd a’r hyfforddwyr a sicrhaodd y bu modd iddynt ganolbwyntio ar eu perfformiadau.

Mae’r cyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru wedi chwarae rhan allweddol wrth ganiatáu i’r athletwyr hyn gyrraedd eu llawn botensial. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru hefyd wedi chwarae rhan hollbwysig, yn enwedig o ystyried y cyllid gwerth bron i £10 miliwn a ddarparwyd ganddo bob blwyddyn. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi nid yn unig gwaith craidd y cyrff llywodraethu, ond hefyd y broses o ddod o hyd i dalent ifanc, hyfforddiant, cyfleusterau da a’r wyddoniaeth arbenigol a’r cymorth meddygol sy’n hanfodol i athletwyr.

Ar hyn o bryd, mae 85 o athletwyr o Gymru yn aelodau o’r cynllun perfformio o safon y byd, sy’n cynnwys athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn cynnal rhaglen elite ar gyfer pob camp arall, ac ar hyn o bryd mae 37 o athletwyr yn rhan o’r cynllun hwnnw. Mae 94 athletwr arall yn rhan o’r rhaglen cefnogi athletwyr talentog, sy’n meithrin ein hathletwyr addawol.

Mae’n amlwg bod angen i ni balu ymlaen yn awr i adeiladu ar lwyddiannau’r pum wythnos diwethaf, ac i’r pwrpas hwnnw yr wyf yn comisiynu adolygiad o berfformiad a rhagoriaeth yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i ganiatáu i’n hathletwr barhau i lwyddo ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd yr adolygiad yn ystyried i ba raddau y gellir gwella’r strwythurau sydd gennym yng Nghymru ar gyfer sicrhau perfformiad a rhagoriaeth, yn nodi’r llwyddiannau a gafwyd a’r heriau sy’n wynebu cyrff llywodraethu yng Nghymru, ac yn asesu’r blaenoriaethau strategol a’r targedau allweddol presennol. Byddaf yn cydweithio â Chyngor Chwaraeon Cymru, gan elwa ar ei brofiad wrth symud yr adroddiad hwn yn ei flaen.

Gwn y bydd yr aelodau, fel finnau, yn gobeithio y bydd y llwyddiant yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon. Fodd bynnag, yng Nghymru, fel mewn llawer o wledydd eraill, mae canran uchel o’r boblogaeth o hyd nad yw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon na gweithgareddau corfforol. Dangosodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Archwilio ar weithgaredd corfforol yr heriau enfawr a wynebwn o ran gwyrdroi’r duedd honno, ond rhaid inni wynebu’r rheini yn awr er mwyn sicrhau bod Cymru’n genedl heini ac egnïol. Yn fy ateb i adroddiad y Pwyllgor Archwilio, yr wyf wedi amlinellu’r strwythurau a gaiff eu rhoi ar waith i’n galluogi i weithio ar draws adrannau’r Llywodraeth a chyda’n partneriaid i gyflawni ar y mater pwysig hwn.

Mae a wnelo cynorthwyo pobl i fod yn weithgar â mwy na chwaraeon, ac ni ellir cyflawni hynny gan un adran o’r Llywodraeth. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i Brif Swyddog Meddygol Cymru, gyda chytundeb y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gydgysylltu gwaith holl adrannau perthnasol y Llywodraeth ac adrodd yn uniongyrchol i mi. Yn ogystal, bydd angen inni weithio’n agos gyda’n partneriaid allweddol i sicrhau bod y strwythurau ar waith er mwyn ei gwneud yn haws i bobl fyw bywydau egnïol, boed hynny drwy gyfleusterau, drwy ddatblygu mwy o lwybrau cerdded a seiclo, neu fwy o lwybrau drwy goetiroedd a llwybrau arfordirol. Bydd cyfrifoldeb ar unigolion hefyd i gymryd camau syml a gwneud newidiadau i’w hymddygiad o ddydd i ddydd er mwyn cynyddu eu lefelau gweithgaredd corfforol, a fydd yn gwella eu hiechyd a’u lles.

Ni ellir cyflawni newid mewn ymddygiad pobl drwy un cynllun neu ymyriad hud. Mae angen ystod o ymagweddau arnom er mwyn diwallu anghenion grwpiau penodol yn ein cymunedau a bydd y prif swyddog meddygol yn dod â’r meysydd hynny ynghyd i greu cynllun gweithredu strategol. Disgwyliaf i’r cynllun gweithredu hwn ganolbwyntio ar ganlyniadau pendant, ac y bydd gweithgarwch yn cael ei gydgysylltu a’i dargedu. Yr wyf wedi gofyn i’r prif swyddog meddygol gyflwyno’r cynllun hwn imi erbyn mis Mawrth 2009.

Gyda’r gemau hyn newydd ddod i ben, dechreuwn edrych ymlaen at gemau Llundain yn 2012 ac at gyfraniad Cymru a’r cyfleoedd iddi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar y cymorth y gall Cymru ei gynnig ac ar y manteision y gall elwa ohonynt yng nghyswllt gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Chwaraeodd Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe a Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd ran fawr yn llwyddiant ein hathletwyr yn Beijing. Bu llongwyr yn ymarfer ym Mhlas Menai ar Afon Menai ac yn defnyddio Clwb Hwylio Pwllheli i fireinio eu sgiliau mewn cystadlaethau. Mae’r cyfleusterau hynny, ynghyd â 29 o gyfleusterau eraill yng Nghymru, wedi cael eu cynnwys yng nghanllaw gwersylloedd hyfforddi swyddogol Llundain 2012, ac mae 16 o gyfleusterau Cymru yn y canllaw ar gyfer y Gemau Paralympaidd.
Yr wythnos diwethaf, llofnododd Prif Weinidog Cymru femorandwm cyd-ddealltwriaeth â Phwyllgor Paralympaidd Awstralia, sy’n golygu y bydd athletwyr o Awstralia yn ymweld â Chymru’n rheolaidd rhwng yn awr a 2012 i ymarfer a chymryd rhan mewn cystadlaethau perthnasol.

Er hynny, mae a wnelo Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 â llawer mwy na chwaraeon yn unig. Bydd yr Olympiad diwylliannol yn cynnwys pob rhan o’r Deyrnas Unedig, a boddhad mawr i mi yw ein bod wedi cael cyllid gwerth £1.6 miliwn i ddatblygu gweithgareddau a fydd yn cynnwys cannoedd ar filoedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Pwrpas fy natganiad heddiw yw amlygu ein llwyddiannau. Fy nod hefyd yw tynnu sylw at yr heriau sydd o’n blaenau, gan sicrhau ein bod yn parhau i geisio’r gorau i’n hathletwyr addawol ac yn cefnogi’r rhai y mae angen ein cefnogaeth arnynt i wella eu lefelau ymarfer corff.

Mae gennyf atgofion melys o’r dathliadau i groesawu’r athletwyr yn ôl o Beijing, ac o werthfawrogiad y torfeydd tu allan i’r Senedd o’n hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Edrychaf ymlaen at weld dathliad mwy fyth i’w croesawu ymhen pedair blynedd.