Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 25 Medi, gofynnwyd cwestiwn i Arweinydd y Tŷ am sut mae'r system cyfiawnder ieuenctid yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd a sut y bydd yn gweithredu yn y dyfodol. Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes pwnc hwn, ac yng ngoleuni'r diddordeb sylweddol yn y pwnc hwn drwy gydol y flwyddyn, hoffwn achub ar y cyfle hwn i nodi'r polisïau a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer lleihau ac atal troseddu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
Conglfaen ein holl bolisïau cyfiawnder ieuenctid yw Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd ar y cyd gen i (fel y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio) a Chadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn 2004. Ffrwyth cydweithredu rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac asiantaethau lleol yw'r Strategaeth i ddatblygu is-strategaeth sy'n darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer atal troseddu ac aildroseddu ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ei gwneud yn ofynnol ystyried hawliau'r person ifanc. Yn y tymor hir, ei nod yw gostwng cyfraddau troseddu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru mewn ffordd wirioneddol a sylweddol.
Mae'r Strategaeth yn ymgorffori nifer o egwyddorion allweddol. Y ffordd fwyaf effeithiol o atal troseddu ymhlith ieuenctid a diogelu lles plant a phobl ifanc yng Nghymru yw eu hatal rhag y system cyfiawnder ieuenctid yn y lle cyntaf. Gellir cadw cydbwysedd rhwng buddiannau'r plentyn neu'r person ifanc a buddiannau'r gymuned ehangach a'r rhai a allai ddioddef yn sgil y troseddu drwy ymyrraeth gynnar, mesurau cyfiawnder adferol, cosbi priodol ac adsefydlu â chymorth. Mae ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r egwyddorion hyn gan Lywodraeth y Cynulliad wedi'i nodi'n llawn yn rhaglen Cymru'n Un.
Goruchwylir y gwaith o weithredu'r Strategaeth gan Bwyllgor Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, a gadeirir ar y cyd gan Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol a chynrychiolydd Cymru ar y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae ei aelodau yn arbenigwyr o'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, is-adrannau'r Cynulliad sy'n delio â materion iechyd, addysg a thai a phob asiantaeth genedlaethol a lleol berthnasol arall. Mae'r Pwyllgor yn cwrdd bob chwarter ac yn gosod amcanion a thargedau heriol ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar draws y sbectrwm cyfan o feysydd pwnc sy'n berthnasol i atal troseddu ymhlith pobl ifanc. Rwyf innau'n cymeradwyo'r amcanion hyn ac mae fy swyddogion yn adrodd yn ôl i mi bob blwyddyn i ba raddau y cawsant eu cyflawni. Dyma'r bedwaredd blwyddyn inni bennu amcanion ac mae'r canlyniadau wedi bod yn gyson wych, gyda phethau rhagorol yn cael eu cyflawni mewn llawer o feysydd gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, llety, strategaethau prawf a datblygu gweithlu. Un o'n prif dargedau yw lleihau nifer y bobl sy'n dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf 5% erbyn 2008. Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2007, mae ystadegau'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cadarnhau gostyngiad o 13%. Wrth gwrs rydym yn cydnabod bod yna feysydd y mae'n dal i fod angen eu datblygu ymhellach ac mae'r Pwyllgor yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o'u gwella. Eleni mae NACRO Cymru wedi comisiynu astudiaeth o'r rhyngwyneb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gwaith timau troseddu ymhlith pobl ifanc. Mudiad gwirfoddol yw NACRO Cymru sy'n cael cymorth grant gan Lywodraeth y Cynulliad.
Ar lefel leol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymwybodol bod angen cyllid sylweddol er mwyn gweithredu egwyddorion ac amcanion allweddol y Strategaeth yn iawn. Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi darparu tua £4.5 miliwn yn 2006-07 ac rydym yn darparu symiau tebyg yn 2007-08 a 2008-09 i ddibenion hwyluso prosiectau lleol sy'n ceisio atal troseddu ymhlith pobl ifanc a chynnig gweithgareddau ar eu cyfer. Ledled Cymru, mae hyn wedi arwain at gyllido amrywiaeth eang o brosiectau (dros 300 i gyd), gan gynnwys llawer sy'n seiliedig ar weithgareddau artistig neu chwaraeon. Mae'r rhain yn helpu pobl sy'n camddefnyddio sylweddau, yn rhoi cymorth gydag addysg neu hyfforddiant ac yn darparu cynlluniau adferol a chyfleusterau hamdden.
Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid sy'n bennaf gyfrifol am weinyddu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Er hynny, mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod bod yn rhaid inni weithio mewn cydweithrediad agos er mwyn gweithredu ei agenda cyfiawnder ieuenctid arbennig yn effeithiol yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn fy rolau presennol a blaenorol fel Gweinidog, rwy wedi achub ar bob cyfle i wneud y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn gwbl ymwybodol o'r gwahanol safbwyntiau sy'n bodoli yng Nghymru ar sawl agwedd ar les ac addysg plant. Rwy wedi cwrdd yn rheolaidd â Chadeirydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid o leiaf ddwywaith y flwyddyn i drafod materion polisi pwysig.
Rwy'n falch bod y Bwrdd wedi ymrwymo'n llawn erbyn hyn i ddatblygu ei holl bolisïau yng Nghymru mewn ffordd sy'n cyfateb â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Yn wir, er mwyn cydnabod yr heriau sy'n codi yn sgil y cyd-destun polisi gwahanol yng Nghymru, mae'r Bwrdd wedi cynyddu capasiti ei swyddfa yng Nghymru yn ddiweddar. Mae'r cydweithrediad agos sydd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a'r Bwrdd ar hyn o bryd yn gymorth mawr i weithredu agendâu cyfun y ddau gorff hwn a gwelir cynnydd gwirioneddol o ran gostwng lefel troseddu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Ond mae hon yn agenda sy'n datblygu'n barhaus ac mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn ymwybodol o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad, fel sydd wedi'i nodi yn rhaglen Cymru'n Un, i ystyried y dystiolaeth dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru, ac y byddai hyn wrth gwrs yn cynnwys cyfiawnder ieuenctid.
Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y dylai fod dulliau gwahanol o ddedfrydu effeithiol, a hynny o fewn y gymuned, yn hytrach na rhoi plant a phobl ifanc sy'n troseddu dan glo, lle bo hynny yn llesol i'r plentyn. Er hynny, mewn rhai amgylchiadau, mae'n hanfodol eu rhoi dan glo, ac yn yr achosion hyn mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i bobl ifanc gael eu rhoi mewn cyfleusterau yng Nghymru, yn hytrach nag mewn sefydliadau yn Lloegr sydd ymhell o'u cymunedau cartref a lle mae'r addysg a'r diwylliant yn wahanol iawn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i wella'r sefyllfa, ac yn ddiweddar argymhellodd cyd-weithgor y dylid cynyddu'r capasiti yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc a Chartref Plant Diogel Hillside, yn ogystal ag ystyried cyfleusterau diogel newydd yng Ngogledd Cymru.
Mae cryn gynnydd eisoes wedi'i wneud o ran cynyddu llety diogel i bobl ifanc yng Nghymru, gyda nifer y llefydd yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn codi o 36 i 64 yn gynharach eleni. Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid hefyd wedi cytuno mewn egwyddor i ehangu Hillside i ddal chwech yn fwy o bobl (a mwy eto o bosibl ar ôl i gynigion pellach gael eu hystyried a'u costio) yn ogystal â darparu Cartref Plant Diogel newydd yng Ngogledd Cymru, gyda 15-20 o welyau i bobl ifanc hyd at 16 oed. Mae Fforwm Llety Diogel Gogledd Cymru, a gadeirir gan Lywodraeth y Cynulliad, sef cynrychiolwyr asiantaethau lleol perthnasol, eisoes wedi cwrdd bedair gwaith ac wedi mynegi cefnogaeth gref i ddatblygu cyfleusterau newydd yn y Gogledd.