Skip to content

Llafar - Ganolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Glyn Thomas ,y Gweinidog dros Dreftadaeth

O’r dechrau yn deg, yr wyf am ei gwneud yn gwbl glir bod y Llywodraeth yn ymwybodol o’r hyn y mae’r ganolfan yn ei olygu i bobl Cymru, ac mae’n rhannu’r teimladau hynny. Yr ydym yn ymwybodol iawn o’r effaith y mae’r ganolfan wedi ei chael ers iddi agor yn 2004. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod y ganolfan wedi cyfrannu llawer iawn yn fwy na rhoi llwyfan i’r artistiaid a’r perfformwyr byd-enwog sydd wedi ymddangos ynddo. Serch hynny, mae’r Llywodraeth hefyd yn deall ac, yn wir, yn rhannu’r pryder sydd wedi ei fynegi ynglŷn â’r materion cyllidebol y mae’r ganolfan yn eu hwynebu wrth i’r cyfnod cychwynnol ddod i ben ac wrth fod angen iddi gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Bydd Aelodau yn ymwybodol o’r sylw mawr a roddwyd i’r ganolfan yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf. Mae’n destun pryder i ni ein bod i gyd yn gorfod delio â’r sylwadau a’r dyfalu a wneir ar sail cynnwys adroddiad sydd heb ei gyhoeddi, ond a ryddhawyd i’r wasg.

Yr oedd y sylw a roddwyd i’r ganolfan yn y wasg yr wythnos diwethaf yn deillio o gynnwys adroddiad oedd heb ei gyhoeddi. Yr oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu tîm o ymgynghorwyr annibynnol dan reolaeth Cyngor y Celfyddydau i baratoi’r adroddiad hwnnw. Fis Rhagfyr diwethaf, cafodd yr ymgynghorwyr hyn eu penodi i adolygu perfformiad ariannol a gweithredol Canolfan y Mileniwm. Yr oedd eu hadroddiad wedi’i seilio ar wybodaeth a ddarparwyd gan y ganolfan.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf i, cafodd y Cynulliad wybod y byddai adolygiad gan ymgynghorwyr yn cael ei gynnal, a hynny mewn datganiad ysgrifenedig a wnaed ar 30 Tachwedd 2006 gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. Fe wnaeth nodi hefyd yn y datganiad hwnnw y byddai gwarant Llywodraeth y Cynulliad o ran y benthyciad gan fanc HSBC i’r ganolfan yn cael ei gynyddu i £13.5 miliwn. Daeth adroddiad terfynol yr ymgynghorwyr i law fis Mehefin 2007. Yr oedd angen rhoi ystyriaeth fanylach i rai agweddau ar yr adroddiad, felly, ar ôl i mi gael fy mhenodi’n Weinidog dros Dreftadaeth ym mis Gorffennaf, ces i gyfarfod â chadeirydd ymddiriedolaethwyr y ganolfan, yr Arglwydd Rowe-Beddoe, ym mis Awst a chytuno y byddai fy swyddogion yn ystyried y materion hyn ymhellach ar y cyd â swyddogion y ganolfan. Yr ydym wedi parhau i drafod ers hynny. Ar hyn o bryd, mae cymorth ariannol i Ganolfan y Mileniwm yn cael ei ystyried fel rhan o’r trafodaethau ar gyllideb Llywodraeth y Cynulliad, yn ochr yn ochr â’r amryw ofynion eraill sydd ar bwrs y wlad. Bydd canlyniadau’r trafodaethau hynny yn dod i’r amlwg ar ôl i gyllideb ddrafft Llywodraeth y Cynulliad gael ei chyhoeddi ar 5 Tachwedd.

Fel y bydd Aelodau’r Cynulliad yn deall, nid wyf mewn sefyllfa i achub y blaen ar ganlyniad trafodaethau’r gyllideb sy’n dal i fynd rhagddynt; ni allaf ar hyn o bryd wneud unrhyw ddatganiad am ariannu Canolfan y Mileniwm yn y dyfodol. Y pwynt pwysig i’w nodi yw hwn—mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio gyda’r ganolfan i sicrhau ei bod yn cael yr effaith ddiwylliannol fwyaf yng Nghymru, yn ogystal ag ar lefel ryngwladol. Wrth i’r cyfnod cychwynnol hynod lwyddiannus ddirwyn i ben yn hanes y ganolfan ac wrth iddi ddechrau sefydlu ei hun fel busnes gweithredol, mae angen i ni ystyried y ffordd orau o’i helpu i gymryd y cam datblygu nesaf, ac atgyfnerthu’r hyn mae wedi’i gyflawni dros ddiwylliant—rhywbeth na welwyd ei thebyg o’r blaen. Mae Llywodraeth y Cynulliad bob amser wedi dweud na fydd yn rhoi ymrwymiad penagored i Ganolfan y Mileniwm. Petai Llywodraeth y Cynulliad yn penderfynu rhoi mwy o gefnogaeth i’r ganolfan, byddwn wrth gwrs yn edrych ar sut y gallai hi weithredu’n fwy effeithlon o fewn ei chyllideb.

Yn y cyfamser, a chofio bod y trafodaethau hyn yn dal i fynd rhagddynt, ychydig iawn y gallem a’r ganolfan ei ddweud am y materion hyn. Nid yw sôn a siarad o’r fath yn gwneud dim ond creu ansicrwydd a dryswch ymhlith staff y ganolfan a’r cyhoedd. Serch hynny, rhoddaf addewid y byddaf i’n rhoi adroddiad manylach i’r Siambr maes o law.