Skip to content

Llafar - Addysg Yn Sir Ddinbych

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, Y Gweinidog Dros Gynaliadwyedd A Datblygu Gwledig

Hysbysaf yr Aelodau am fy mhenderfyniad i ymyrryd yng ngwasanaeth addysg sir Ddinbych yng ngoleuni’r cyngor a gefais gan Estyn a chynllun gweithredu’r awdurdod a datblygiadau eraill yn yr awdurdod.

Cyngor Estyn, ac mae wedi cyfleu hynny i’r awdurdod, yw bod rhai nodweddion cadarnhaol yn y cynllun gweithredu, bod yr awdurdod yn dechrau derbyn yr angen am newid er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i ddysgwyr, a bod ymrwymiad i wella’r ffordd y mae’r awdurdod addysg yn gweithio o ddydd i ddydd a’r ffordd y mae’r awdurdod yn cyfathrebu’n fewnol a chyda’i randdeiliaid. Fodd bynnag, mae Estyn hefyd wedi dweud ei fod yn credu bod gwendidau sylweddol yn y cynllun o ran y terfynau amser ar gyfer gweithredu, gan eu bod yn rhy hir, a methiant i gysylltu’r cynllun gweithredu â chynlluniau gwaith. Mae Estyn o’r farn nad yw’r targedau’n ddigon uchelgeisiol a bod angen i’r rhaglen weithredu fod yn fwy cydlynus, a bod angen datblygu gwell cysylltiadau rhwng materion cysylltiedig. Mae Estyn wedi gofyn i’r awdurdod ddiwygio’r cynllun er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn a darparu fersiwn diwygiedig erbyn 27 Rhagfyr. Yr wyf yn ymwybodol bod yr awdurdod wedi cytuno i gyflwyno cynllun diwygiedig i Estyn erbyn y dyddiad hwnnw.

Ar sail y cyngor y mae Estyn wedi ei roi imi ar y cynllun gweithredu drafft, ac ar sail y pryderon sylfaenol a arweiniodd at ei adroddiad, credaf fod seiliau clir imi ymyrryd a rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod ar y sail ei fod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel awdurdod addysg i safon ddigonol.

Yr wyf hefyd wedi ystyried p’un a oes gan yr awdurdod ddigon o adnoddau i gyflawni ei gynllun gweithredu’n effeithiol ac i fynd i’r afael â gwendidau eraill fel y rheini a nodwyd yn adroddiad Estyn y llynedd ar ei wasanaeth cymorth i ieuenctid ac yn yr adroddiad a gomisiynodd yr awdurdod gan Cambridge Education Cyf.

Yr wyf yn falch bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd camau i benodi cyfarwyddwr dysgu gydol oes interim. Mae’r penodiad hwn o gymorth, yn rhannol, i fynd i’r afael â’m pryderon ynghylch gwendidau o ran arweinyddiaeth ac adnoddau yn yr awdurdod ar yr amser tyngedfennol hwn.  Yr wyf hefyd wedi cael cyfle i gyfarfod ag arweinydd newydd yr awdurdod, y Cynghorydd Hugh Evans, sydd wedi addo rhoi’r flaenoriaeth uchaf i addysg ac sydd wedi ymgymryd yn bersonol â’r cyfrifoldeb dros bortffolio addysg yr awdurdod. Yr wyf wedi pwysleisio wrtho fy mod yn disgwyl i’r awdurdod gyflawni ei ymrwymiadau yn amserol er mwyn gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i ddysgwyr yn sir Ddinbych.

Yn gyffredinol, credaf fod yr awdurdod yn dechrau sylweddoli maint y problemau yn ei wasanaeth addysg. Yng ngoleuni’r rhain nid yw’n fwriad gennyf ymyrryd ar hyn o bryd o ran gorfodi’r awdurdod i drosglwyddo ei swyddogaethau addysg i gorff cyhoeddus neu gorff preifat arall, a fyddai’n opsiwn sydd ar gael imi. Yn hytrach, yr wyf wedi penderfynu ymyrryd a defnyddio fy mhwerau dan Ddeddf Addysg 1996 i roi cyfarwyddyd i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau y caiff ei swyddogaethau addysg eu cyflawni i safon ddigonol. Drwy wneud hynny rhoddaf gyfarwyddyd i Gyngor Sir Ddinbych gydweithredu â bwrdd adfer addysg annibynnol a sefydlir gennyf, ac adrodd iddo’n fisol yn ôl pob tebyg o fis Ionawr ymlaen. Yn ei dro, bydd y bwrdd yn cyflwyno adroddiadau cynnydd imi ac yn gwneud argymhellion am unrhyw gamau pellach y dylwn eu cymryd.

Bydd cylch gwaith y bwrdd yn cwmpasu craffu ar bob un o swyddogaethau gwasanaeth addysg yr awdurdod. Bydd y bwrdd yn atebol i mi. Bydd yn ystyried adroddiadau chwarterol Estyn am fonitro’r ffordd y caiff y cynllun gweithredu ei roi ar waith, yn ogystal â’r camau eraill y bydd yr awdurdod yn eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau. Bydd pob aelod yn cael ei ddewis o’r tu allan i’r awdurdod ac, mewn sawl achos, o’r tu allan i sir Ddinbych ei hun, ond byddant oll yn meddu ar brofiad perthnasol ar lefel uwch yn eu priod feysydd. Ni fydd mwy na saith aelod ar y bwrdd a chaiff ei gadeirio gan rywun a chanddo brofiad helaeth o ran mynd i’r afael â methiannau mewn gwasanaethau.
Disgwyliaf i’r bwrdd weithredu o leiaf nes i Estyn ail-arolygu’r awdurdod ymhen blwyddyn i 18 mis. Bwriadaf hefyd roi cyfarwyddyd i’r awdurdod barhau i gydweithredu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, talaf deyrnged i’r ffordd y mae CLlLC eisoes wedi ymateb i’r anawsterau yn sir Ddinbych drwy wella adnoddau yn yr awdurdod drwy ei  gwasanaeth ymgynghori sy’n rhoi cymorth i awdurdodau sydd mewn trafferthion. Mae’r cymorth hwnnw eisoes wedi dwyn ffrwyth, ac yr wyf yn awyddus i sicrhau bod yr awdurdod yn parhau i weithio gyda CLlLC.

Hysbysais arweinydd yr awdurdod yn gynharach y prynhawn yma o’m bwriad i ymyrryd. Dealla mai nod fy ymyriad yw ategu’r camau y mae’r awdurdod ei hun yn eu cymryd ac ychwanegu arbenigedd annibynnol, ond ei fod, ar yr un pryd, wedi’i fwriadu i graffu a herio cynnydd. Gobeithiaf y bydd yr awdurdod yn ymateb yn gadarnhaol. Byddaf yn cael cyfarfodydd rheolaidd ag arweinyddiaeth wleidyddol yr awdurdod er mwyn sicrhau bod cabinet sir Ddinbych a’r awdurdod cyfan yn canolbwyntio ar wella’r ffordd y caiff ei wasanaethau addysg eu darparu. Yr wyf am sicrhau bod llwybrau cysylltiedig o ran atebolrwydd yn rhan o’r broses hon. Bydd y bwrdd adfer yn dwyn swyddogion yr awdurdod lleol i gyfrif am y ffordd y cyflawnir y cynllun gweithredu, a byddaf innau’n dwyn arweinyddiaeth wleidyddol y cyngor i gyfrif o ran cyflawni eu cyfrifoldebau. Bydd y ddau lwybr hwn, gobeithio, yn rhoi hyder i rieni, athrawon a disgyblion sir Ddinbych y byddant yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu. Gobeithiaf hysbysu’r Aelodau ym mis Rhagfyr am gyfansoddiad y bwrdd annibynnol, a byddaf yn sicrhau y bydd copïau o’r cyfarwyddyd ffurfiol a roddwyd i Gyngor Sir Ddinbych ar gael yn ystod y dyddiau nesaf.