Skip to content

Llafar - Gwasanaethau Iechyd A Ddarperir Yn Y Gogledd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod sawl cynnig i ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd yn y Gogledd wedi profi’n ddadleuol ac wedi methu ag ennill cefnogaeth pobl leol. Ers dod yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr wyf wedi teimlo ei bod yn bwysig ymgymryd â thrafodaethau cynhwysfawr ar y materion hyn, gan ofyn barn cynifer o grwpiau ac unigolion cysylltiedig ag yr oedd modd.

Yn ystod toriad yr haf, teithiais i’r Gogledd, gan ymweld ag amrywiaeth fawr o gyfleusterau iechyd a chwrdd â chynifer o bobl ag yr oedd modd sydd â buddiant yn nyfodol ein gwasanaethau iechyd. Gallais gynnal trafodaethau, ymysg rhai eraill, gyda chlinigwyr, Aelodau’r Cynulliad a chleifion, a chyda grwpiau lleol sydd yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd yn ysbytai Prestatyn, Blaenau Ffestiniog a Llandudno. Yn ddieithriad, cefais fod y cyfarfodydd hyn yn llawn gwybodaeth a’u bod yn gydnaws â’r ymdeimlad o barch a hoffter sydd gan staff a chleifion tuag at wasanaeth iechyd gwladol Cymru.

Yr oedd y materion a godwyd gyda mi ym Mhrestatyn a Blaenau Ffestiniog yn debyg ac yr oeddent yn cynnwys cadw gwasanaethau cymunedol yn lleol, yn enwedig o ran darparu gofal canolradd, gofal lliniarol a gallu cleifion i gael profion a mynediad i gyfleusterau lleol. Yn y ddau le, mynegwyd pryderon penodol ynghylch yr ymgyngoriadau sydd yn digwydd ar y cynigion ar gyfer ad-drefnu. Ar sail y cyfarfodydd, deuthum i’r casgliad mai synhwyrol, yng ngolwg y safbwyntiau a fynegwyd, fyddai cael adolygiad annibynnol o’r prosesau ymgynghori sydd wedi’u mabwysiadu ac i’r adolygiad roi ei adroddiad i mi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yr adolygiad yn gwirio ym mhob achos a oedd y trefniadau ymgynghori cyhoeddus a ddefnyddiodd y BILlau yn briodol ac yn effeithiol o ran hybu’r ymwneud â’r broses, a oedd y farn a’r sylwadau a gafwyd drwy’r ymgynghoriad wedi’u hystyried yn llawn gan y BILl cyn iddo wneud ei benderfyniadau, a oedd penderfyniad y BILl wedi’i ledaenu’n helaeth wedyn ymhlith yr holl randdeiliaid i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r ffordd ymlaen, ac a oedd y trefniadau ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod gweithredu’n briodol. Yr wyf wedi gofyn i Michael Williams, cadeirydd dros dro Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, gyflawni’r adolygiad, a bydd yn dechrau ar ei waith cyn hir. Rhoddaf wybod i’r grwpiau gweithredu lleol am fy nghasgliadau wedi imi adolygu ac ystyried canfyddiadau Michael Williams. Yn y cyfamser, ni chymerir unrhyw gamau i drosglwyddo gwasanaethau o’r ysbytai dan sylw. 

Gwnaeth Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno godi nifer o faterion gyda mi ynghylch yr angen i sicrhau bod Ysbyty Llandudno yn diwallu anghenion y boblogaeth. Yr oedd pryder penodol hefyd ynghylch ymddiriedaeth y grŵp yn yr adolygiad o ddyfodol yr ysbyty. O ganlyniad i hynny, yr wyf wedi cytuno i gwrdd â’r grŵp gweithredu wedi i’r adolygiad roi ei adroddiad er mwyn cael cyfle pellach i glywed ei farn am y mater hwn. Yr wyf yn disgwyl i’r adolygiad roi ei adroddiad ym mis Rhagfyr, a byddaf am i’r cyfarfod rhyngof fi a’r grŵp gweithredu ddigwydd mor fuan ag y bo modd ar ôl hynny.
Gyda golwg ar yr adolygiad o wasanaethau llawdriniaeth y fron yn Llandudno, a gyflawnwyd gan yr arbenigwyr annibynnol a benodwyd gan y byrddau iechyd lleol, yr wyf wedi gofyn i’m swyddfa ranbarthol roi adroddiad i mi ar y trefniadau i sicrhau ymgynghori â staff clinigol ac anghlinigol ar argymhellion yr adroddiad cyn gwneud unrhyw benderfyniad gan y byrddau iechyd lleol.

Mae newid yn anochel yn y gwasanaeth iechyd. Mae’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi newid yn barhaus dros y 60 mlynedd ers ei sefydlu yng Ngorffennaf 1948, ac ni fydd y pedair blynedd nesaf yn eithriad. Yr hyn a ddysgais o’r nifer mawr o drafodaethau a gefais gyda gwasanaethau yn y Gogledd, ac yn eu cylch, yw na fydd newid ond yn gallu digwydd yn effeithiol os ymgysylltwn yn fwy llwyddiannus â phobl leol. Rhaid inni allu dangos iddynt y bydd newid yn esgor ar welliant, ac nid lleihad, yn y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Fel pwynt cyffredinol, felly, yr wyf yn awyddus i sicrhau y bydd yr ymgynghori ar newid mewn gwasanaethau yn y dyfodol yn addas i’w ddiben, ac yr wyf wedi gofyn i’m swyddogion baratoi canllawiau newydd i roi hynny ar waith. Yn y tymor byr, byddaf yn mynnu bod swyddogion rhanbarthol yn sicrhau ymgysylltu priodol rhwng y byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a rhanddeiliaid ynghylch newidiadau mewn gwasanaethau, ac yn benodol y bydd barn staff clinigol ac anghlinigol drwy eu cyrff proffesiynol a chynrychioladol yn cael ei chynnwys.

Rhoddaf wybod i Aelodau am drafodaethau sydd yn mynd ymlaen, ynghylch darparu nifer bach o wasanaethau canser cymhleth ledled y Gogledd er mwyn gwella gwasanaethau a chyrraedd safonau cenedlaethol ar gyfer canser. Y cynigion penodol yw darparu llawdriniaethau canser gynecolegol ar safle Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, darparu llawdriniaethau canser wrolegol ar safle Glan Clwyd, a darparu llawdriniaethau canser y pen a’r gwddf ar safle Glan Clwyd. Mae Rhwydwaith Canser Gogledd Cymru a’r Grŵp Ailddylunio Gwasanaethau Llawfeddygol wedi argymell mai dim ond ar un safle yn y Gogledd y dylid cyflawni llawdriniaethau cymhleth ar gyfer pob un o’r is-arbenigaethau hynny er mwyn gwella gwasanaethau, cyrraedd safonau clinigol a gwella’r canlyniadau i gleifion. Mae’r argymhellion yn gymwys i driniaethau i gleifion mewnol yn unig. Gellir parhau i ddarparu apwyntiadau i gleifion allanol yn lleol, a gwneir hynny. Bydd yr argymhellion hyn yn mynd gerbron y byrddau iechyd lleol cyn hir i’w cymeradwyo, gan ystyried y mewnbwn gan gynghorau iechyd cymuned.