Skip to content

Ysgrifenedig - Skanda Vale

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, Y Gweinidog dros Faterion Gwledig

1. Heddiw, cyhoeddwyd rhybuddion ffurfiol i'r Gymuned yn Skanda Vale i ddifa 2 fustach arall yn y Gymuned, er mwyn dod â'r achosion o TB mewn gwartheg o dan reolaeth.  Mae'n bwysig egluro pam bod Llywodraeth Cynulliad Cymru'n teimlo bod y cam hwn yn angenrheidiol.

2. Dangosodd archwiliad post-mortem ar Shambo fod briwiau’n bresennol ar ei gorff, sy'n arwydd sicr o TB mewn gwartheg.  Ers hynny, mae canlyniadau meithriniad a ddaeth i law ddoe, yn cadarnhau presenoldeb Mycobacterium bovis. Roedd briwiau’n bresennol mewn nodau lymff sy'n gysylltiedig â'r bibell anadlu, ac mae hyn yn pwysleisio'r perygl gwirioneddol fod yr anifail hwn yn heintus. Rhaid cofio y gall dosau isel iawn fod yn ddigon i drosglwyddo'r clefyd hwn drwy'r llwybr anadlu.

3. Roedd datganiad Jane Davidson ar 26 Mehefin yn pwysleisio na ddylai  achos Shambo gael ei weld fel un achos ar wahân. Mae haint Shambo yn rhan o batrwm pryderus o ganlyniadau profion ar wartheg eraill yn y fuches yn Skanda Vale.  Byddai'n anghyfrifol i adael i’r haint TB gronni yn y fuches, er lles y fuches ei hunan ac anifeiliaid yn yr ardal o gwmpas.  

4. Golyga canlyniadau'r ymchwiliad post-mortem ar Shambo fod dau anifail arall yn Skanda Vale, yn unol â’r gweithdrefnau arferol, wedi'u profi’n bositif am TB, a bydd angen eu difa i gyfyngu ar ymlediad y clefyd o fewn y fuches ac i gael gwared ar y perygl o’r anifeililaid hyn yn trosglwyddo'r TB. Y rhain yw:

  • Byfflo dŵr;
  • Bustach gwryw wedi'i sbaddu.  Hen anifail yw hwn ac ni all sefyll.

5. Mae'n wir ddrwg gennyf am y gofid y mae'r broses hon wedi’i achosi i'r gymuned Hindwaidd ac eraill, ond fel Llywodraeth y Cynulliad mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu iechyd pobl ac anifeiliaid.  Mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoli'r tensiynau rhwng arferion crefyddol a iechyd y cyhoedd sy'n rhwym o ddigwydd o bryd i'w gilydd mewn cymdeithas amlddiwylliannol ac aml-ffydd.  Yn ôl y Confensiwn, gellir gosod ffiniau ar yr hawl i arddangos crefydd lle mae angen diogelu iechyd y cyhoedd, os yw hynny’n angenrheidiol ac yn gydnaws.   Penderfynodd Jane Davies, gyda chefnogaeth Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru, fod difa Shambo yn angenrheidiol ac yn gydnaws, ac ategwyd hynny gan y Llys Apêl.  Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu bod y cam pellach hwn yn angenrheidiol ac yn gydnaws er mwyn sicrhau na fydd haint TB yn cronni mewn gwartheg yn Skanda Vale.  Gofynnaf i bobl barchu penderfyniad Gweinidogion Cymru, sy'n hollol gyson â dyfarniad y Llys Apêl, ac i ganiatáu i Lywodraeth y Cynulliad gyflawni ei swyddogaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd a iechyd anifeiliaid.