Skip to content

Ysgrifenedig - Gwella Rheilffordd Y Cambrian

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Y Ddirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Dros Yr Economi A Thrafnidiaeth

Bwriad y Datganiad hwn yw nodi’r buddsoddiad a’r amserlen ar gyfer y prosiect hwn.

Yr wyf wedi cytuno i roi £8 miliwn o arian cyfalaf yn 2008-09 i wella Rheilffordd y Cambrian rhwng Aberystwyth a’r Amwythig. Mae Network Rail yn buddsoddi £5 miliwn arall o’i Gronfa Berfformiad. Mae £13.4 miliwn wedi’i fuddsoddi, gan gynnwys gwaith datblygu prosiectau.

Bydd y buddsoddiad yn gwneud y trenau’n llawer mwy prydlon, ei gwneud yn bosibl rhedeg trenau’n amlach, a sicrhau arbedion maint gan ei fod yn rhan o brosiect peilot cenedlaethol System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop Network Rail.

Bydd y buddsoddiad yn ei gwneud yn bosibl gosod cylchoedd pasio newydd neu well – i sicrhau bod trenau sy’n dod o’r cyfeiriad arall yn gallu pasio heb orfod aros – a chodi lefel y trac yng Nghyffordd Dyfi i leihau’r perygl o darfu ar wasanaethau pan fydd Aber Afon Dyfi yn gorlifo. Bydd hyn yn gwella perfformiad cyfredol llinell y Cambrian o 60-70% ymhell dros 90% ar y rheilffordd hanfodol hon rhwng arfordir y Gorllewin, y Canolbarth, yr Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Bydd y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2007 a Rhagfyr 2008 yn cynnwys creu mwy o le i basio yng Nghyffordd Dyfi, Talerddig a’r Trallwng yn ogystal â chael gwared ar groesfan hen fferm nad yw’n cael ei defnyddio lawer yn Lôn Weig ger Caersws. Mae’n bosibl y gellir gwneud gwaith i’w gwella.

Bydd lefel y trac yng Nghyffordd Dyfi, sy’n dueddol o gael ei orlifo gan lanw’r aber, yn cael ei chodi tua 0.6 metr, a dylai hyn sicrhau bod gwasanaethau trên yn gallu parhau hyd yn oed pan fo llifogydd.

Bydd y Prosiect hwn yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â phrosiect ailsignalu cenedlaethol System Rheoli Traffig Rheilffyrdd Ewrop, sy’n werth £60 miliwn a mwy, a’r un contractwyr fydd yn gyfrifol amdano.