Skip to content

Llafar - Penodiad Fel Dirprwy Brif Weinidog

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Y Ddirprwy Brif Weinidog

Yn gyntaf, dymunaf wellhad buan i Rhodri Morgan. Mae’n siŵr gennyf ein bod oll yn gobeithio y bydd Rhodri yn ôl gyda’i ddyletswyddau ymhen fawr o dro.

Mae hwn yn ddatganiad hanesyddol i ni fel plaid ac i mi yn bersonol. Mae derbyn swydd y Dirprwy Brif Weinidog, ac felly ymuno â Llywodraeth y Cynulliad, yn fraint ac yn anrhydedd fawr. Yma i wasanaethu pobl Cymru yr ydym ni, ac yr wyf am wneud hynny hyd orau fy ngallu. Diolch i’m cyd-Aelodau o’r ddwy blaid sy’n ffurfio’r Llywodraeth am eu hymddiriedaeth ynof.

Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru fod mewn Llywodraeth ers ffurfio’r blaid 82 o flynyddoedd yn ôl i’r mis nesaf. Mae wedi bod yn ffordd hir. Rôl y blaid hyd yma oedd bod yn wrthblaid i roi pwysau ar y pleidiau eraill i symud pethau yn eu blaenau dros Gymru. O heddiw ymlaen, byddwn yn rhannu’r cyfrifoldeb i weithredu’n uniongyrchol ar ran pobl Cymru. Edrychaf ymlaen yn fawr at yr her.

Yn dilyn yr etholiad, dywedais y byddwn am gymryd rhan mewn trafodaethau a fyddai’n arwain at ffurfio Llywodraeth flaengar a sefydlog, fyddai’n gwasanaethu pobl Cymru am bedair blynedd. Mae’r trafodaethau gyda’r Blaid Lafur a chynnwys y ddogfen 'Cymru’n Un’ wedi cyflawni’r amcanion hynny. Wedi naw wythnos o drafod, mae’n amser cyflawni. Dyna yw’r bwriad o heddiw ymlaen.

Bydd y Llywodraeth yn amlinellu ei blaenoriaethau’n fuan gan ganolbwyntio ar yr addewidion polisi sydd yn y ddogfen 'Cymru’n Un’. Bydd y rhain yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, addysg, tai, yr economi, yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg ac ati. Bydd hon yn rhaglen gynhwysfawr gyda strategaeth glir a nod amlwg, sef gwasanaethu pobl Cymru lle bynnag y maent yn byw, o ba le bynnag y dônt, a beth bynnag eu cefndir a’u tras. Mae Cymru yn genedl eangfrydig a goddefgar a dyma’r gwerthoedd y bydd y Llywodraeth yn eu goleddu.

Mae gan y gwrthbleidiau rôl bwysig hefyd. Bydd Nick Bourne yn cymryd drosodd fel arweinydd yr wrthblaid, a dymunaf yn dda iddo. Bûm innau yn gweithredu yn y swydd honno am yn agos i saith blynedd. Gall fod yn swydd rwystredig ar brydiau, ac yr wyf yn fodlon cydnabod hynny yn awr. Er hynny, mae cyfrifoldebau pwysig: galw’r Llywodraeth i gyfrif a chraffu ar ein gweithredoedd.

Mae rôl yr wrthblaid, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae hon, yn naturiol, yn Lywodraeth o fath newydd i’r Cynulliad, un a chanddi fwyafrif mawr. Wedi dweud hynny, yr ydym yn awyddus iawn i weld y Llywodraeth newydd yn ymddwyn mewn modd aeddfed, â chonsensws yn elfen ganolog iddi. O edrych ar yr ysbryd ôl-etholiadol, o drafodaethau cadarnhaol ymysg y pleidiau, beth am inni weld hynny’n parhau drwy gydol y trydydd Cynulliad? Yn naturiol, bydd adegau o wahaniaeth barn clir rhwng y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau, ond yn sgîl y trafodaethau, gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio mewn rhai meysydd. Mae gan bob plaid yn y Cynulliad rôl bwysig wrth sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu er budd holl bobl Cymru.

Estynnaf wahoddiad agored, yn wir, i bobl Cymru gymryd rhan flaenllaw yn y Llywodraeth newydd. Llywodraeth pobl Cymru ydym ni, a chyfrifoldeb unrhyw lywodraeth yma yw gweithredu er lles pobl Cymru yn hytrach nag ar sail hunanol a phleidiol. Gobeithio felly y bydd y Llywodraeth hon yn gwneud ei gorau i ddechrau oes a steil newydd o wleidydda yng Nghymru. Mae llwyddiant hynny yn dibynnu ar i bawb yn y Cynulliad gydweithio yn adeiladol.

Ceisia pob gwleidydd yn y Cynulliad gael ei ethol er mwyn gwasanaethu ein cenedl hyd eithaf ei allu neu ei gallu. Hon yw’r fraint fwyaf yr ymgymerwn â hi fel cynrychiolwyr y bobl. Yr ydym am i Lywodraeth y Cynulliad fod yn llwyddiant i Gymru, ac mae gofyn cael sefydlogrwydd i wneud hynny. Mae’r cytundeb hanesyddol 'Cymru’n Un’ rhwng Plaid Cymru a Llafur yn cynnig gobaith newydd i bobl Cymru, ar ffurf rhaglen Lywodraethu arloesol a wnaiff wahaniaeth ym mhob cwr o’n cenedl ac a fydd yn gweithio i geisio sicrhau’r gorau i bawb.

Yn gryno, amlinellaf rai o’r polisïau cyffrous ac arloesol a gyflwynir gan Lywodraeth 'Cymru’n Un’.
Bydd Gofal Iechyd yng Nghymru yn dilyn model darparu gwasanaethau cyhoeddus unigryw. Byddwn yn creu sefydliad cenedlaethol ymchwil iechyd newydd, byddwn yn ailgyfeirio gwasanaethau deintyddol ac yn datblygu cynllun iechyd gwledig sy’n ystyried amgylchiadau unigryw ein cymunedau gwledig. Adolygwn ad-drefnu’r GIG, ac ni wneir dim newidiadau i’n hysbytai dosbarth cyffredinol nes bydd gwasanaethau iechyd cymunedol perthnasol ar waith.

Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno dull gweithredu Cymru gyfan tuag at ddatblygu economaidd, a chefnogir hyn gan strategaeth swyddi gwyrdd Cymru gyfan. Rhoddir sylw penodol i rai o’n hardaloedd tlotaf. Byddwn yn pwyso a mesur dewisiadau ar gyfer buddsoddi yn y sector cyhoeddus, a chaiff busnesau bach gymorth drwy ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau.

O ran addysg, bydd y Llywodraeth yn parhau i ddatblygu cwricwlwm neilltuol sy’n briodol i Gymru. Byddwn yn ymrwymo i ddatblygu darpariaeth gofal plant gyffredinol a fforddiadwy, gan roi blaenoriaeth i’r ardaloedd mwyaf eu hangen.

Bydd y Llywodraeth yn gosod yr amgylchedd, a dyfodol yr amgylchedd, wrth galon ei hagenda.

Ymhlith yr ystod o gyfrifoldebau datganoledig, ceisia’r Llywodraeth ddiogelu a chryfhau’r iaith Gymraeg. O ran y maes tai, ceisia’r Llywodraeth gynyddu nifer y tai fforddiadwy a buddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd. Ceisiwn hefyd gael cyfrifoldeb deddfwriaethol i ohirio’r hawl i brynu mewn ardaloedd lle mae tai’n brin.

Gofalwn am y bobl fwyaf anghenus yn ein cymunedau drwy ddarparu cymorth ychwanegol i bensiynwyr gyda thaliadau’r dreth gyngor. Byddwn yn ailedrych ar gronfa datblygu’r swyddfa post, ac yn ei hadfer.

Yng nghyswllt trafnidiaeth, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi i wella cysylltiadau ffyrdd, a bydd yn gweithio i leihau amser teithio ar drên rhwng y Gogledd a’r De—ac yr wyf mor falch o’r ymrwymiad hwnnw.

Byddwn yn cefnogi llwybrau lleol newydd ar gyfer bysiau a beiciau, a byddwn yn ceisio hybu llwybrau diogelach i ysgolion.

Mae’r trydydd Cynulliad hwn yn awr yn dod â phartneriaeth newydd at ei gilydd sy’n seiliedig ar y traddodiadau blaengar sydd wedi bod yn greiddiol i wleidyddiaeth ein cenedl ers dros ganrif, a dyma’r gobaith gorau am lywodraeth sefydlog am y pedair blynedd nesaf. Mae’n fraint o’r mwyaf i mi gael fy mhenodi’n Ddirprwy Brif Weinidog, ac i Blaid Cymru, mewn partneriaeth â Llafur, wasanaethu pobl Cymru mewn Llywodraeth. Yr wyf yn edrych ymlaen at hynny.