Skip to content

Ysgrifenedig - Adroddiad Clywch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg

Dair blynedd union wedi cyhoeddi Adroddiad Clywch, mae'n briodol i mi gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad, a hynny am y tro olaf, o safbwynt rhoi ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i argymhellion y Comisiynydd Plant ar waith.  

Wrth wneud hyn, rwyf am gydnabod rôl allweddol fy rhagflaenydd, sef Jane Davidson, wrth ddatblygu a chyflwyno ymatebion effeithiol i'r heriau a nodwyd gan y Comisiynydd Plant.

Roedd Adroddiad Clywch yn cynnwys 31 o argymhellion, gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am 16 ohonynt, ynghyd â 6 pellach yr oeddem yn ymwneud yn sylweddol â hwy wrth ddatblygu canllawiau cysylltiedig neu wrth gynnig nawdd.

Rwyf wedi atodi nodyn yn cynnwys y gwaith a wnaed gennym i gyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau fel rhan o'n hymrwymiad i wella'r camau a gymerir gan ymarferwyr i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

Hoffem dynnu eich sylw'n benodol at y datblygiadau diweddaraf o safbwynt dau o'n hymatebion, sy'n mynd i'r afael â pholisïau chwythu'r chwiban a datblygu gwasanaeth cwnsela annibynnol i blant a phobl ifanc mewn addysg.

O ran y cyntaf o'r rhain, mae'n bleser gen i nodi'r bwriad i gynnal cyfarfod ar 4 Gorffennaf 2007 gyda swyddogion y Comisiynydd Plant i drafod y drafft ôl-ymgynghoriad terfynol arfaethedig cyn cyhoeddi'r canllawiau terfynol ar chwythu'r chwiban i ysgolion ym mis Medi 2007.

Daeth yr ymgynghoriad ar ein strategaeth i ddatblygu gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol i ben ar 31 Mai 2007. Prif nod y strategaeth yw nodi cynllun i ddatblygu gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol i blant a phobl ifanc ledled Cymru sy'n annibynnol, yn ddiogel, yn hygyrch ac o'r safon uchaf. Nid ar chwarae bach y mae gwneud hyn a bydd gofyn cael amser ac adnodd os ydym am sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau sy'n addas i'r diben. Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi ein hamserlen arfaethedig ar gyfer cyflawni hyn. Caiff y strategaeth derfynol ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ar ôl i ni ddadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Mae rhoi pob un o'n hymatebion ar waith wedi gofyn am ddatblygiad sylweddol ac ymgynghori ar y ddeddfwriaeth yn ogystal â'r canllawiau er mwyn sicrhau yr amgylchedd mwyaf diogel posibl lle gall ein plant a'n pobl ifanc dyfu a datblygu. Wrth fynd â'r agenda hon yn ei blaen, rydym wedi sicrhau nad ydym yn canolbwyntio ar y sectorau gofal cymdeithasol, iechyd neu addysg ar eu pen eu hunain yn unig. Rydym wedi achub ar y cyfle i ddatblygu ac ymgorffori cyngor sylweddol fel rhan o'r canllawiau Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004. Mae hyn yn adlewyrchu dull amlasiantaeth o weithio gan y Byrddau Lleol Diogelu Plant statudol newydd.

O ystyried bod yr ymatebion i'r holl argymhellion bellach wedi'u rhoi ar waith neu'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd, nid wyf yn bwriadu cyflwyno bwletinau gwybodaeth blynyddol eraill o'r math hwn, er y byddaf yn barod iawn i ymateb i ymholiadau am unrhyw agwedd benodol ar y gwaith.

Adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar ei archwiliad i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgol.

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymateb wedi ei ddiweddaru a gyflwynwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Gorffennaf 2007

RHAN 1: Argymhellion a gyfeiriwyd yn benodol at Lywodraeth Cynulliad Cymru

21.3   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a’r DfES gymryd camau i sicrhau bod athrawon yn derbyn gwybodaeth arbenigol yn eu rhaglen hyfforddi cymhwyso proffesiynol ynglŷn â’r modd y mae’r rheini sy’n cam-drin yn gweithredu a bod canfyddiadau’r adroddiad hwn yn ffurfio rhan o’r hyfforddiant hwnnw, ac y dylid gweithredu’r argymhelliad hwn o fewn 2 flynedd i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Ar 4 Gorffennaf 2006, cyflwynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfwriaeth yn dwyn yr enw “Meini Prawf ar gyfer Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2006”. Roedd ynddi ofynion yn ymwneud â darparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA). Mae’r gofynion sydd yn y ddeddfwriaeth hon yn ymwneud â chyrsiau HCA yn pennu bod yn rhaid i bawb sy’n darparu’r cyrsiau hyn sicrhau bod y rheini sy’n cael eu hyfforddi yn gyfarwydd â’r canllawiau cenedlaethol diweddaraf ar amddiffyn plant, gan gynnwys adroddiad Clywch am gam-drin plant gan Gomisiynydd Plant Cymru; bod yn rhaid iddynt sicrhau yr eir ati yn ystod cyrsiau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth am y modd y gallai’r rheini sy’n cam-drin weithredu; a sicrhau bod canfyddiadau adroddiad Clywch yn rhan o’r cyrsiau hyfforddi. Mae’r gofynion hyn yn bodloni argymhelliad 21.3 yn adroddiad y Comisiynydd Plant.

Mae Cylchlythyr 41/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef “Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau”, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2006, yn ymdrin â’r mater hwn ac yn rhoi gwybodaeth i ddarparwyr HCA am feysydd penodol yn adroddiad y Comisiynydd Plant a oedd yn destun pryder.

Daeth y ddeddfwriaeth i rym yn wirfoddol ar 1 Medi 2006, a bydd yn orfodol ar gyfer cyrsiau a fydd yn dechrau ym mis Medi 2007. Mae’r ddarpariaeth i weithredu’r ddeddfwriaeth yn wirfoddol o 1 Medi 2006 ymlaen wedi rhoi cyfnod pontio o flwyddyn (2006/07) i ddarparwyr HCA adolygu cynnwys cyrsiau a deunyddiau er mwyn iddynt gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol newydd. Yn y cyfamser, mae holl ddarparwyr HCA Cymru wedi cadarnhau eu bod yn dilyn yr egwyddorion sydd i’w gweld yn yr argymhelliad.

Yr ydym wedi ysgrifennu at ein cydweithwyr yng ngwledydd eraill y DU i fanylu ar y camau a gymerwyd er mwyn iddynt fedru eu cymryd i ystyriaeth wrth fynd ati i ystyried y materion hyn yn y dyfodol.

Gallwch weld copïau o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

Safonau Statws Athro Cymwysedig 2006 (2006 Rhif 49)
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/legislation/legislationinforce/210923/EducaWales1/2006/QTSStandards2006e?lang=cy

Meini Prawf Ar Gyfer Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2006 (2006 Rhif 50)
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/legislation/legislationinforce/210923/EducaWales1/2006/CriteriaforITT2006e?lang=cy

NAFWC41/06 - Dod yn Athro Cymwysedig: Llawlyfr Canllawiau
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars2006/nafwc41-06?lang=cy

21.5   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod gan lywodraethwyr pob ysgol, boed yn ysgol gymuned, yn cael ei rhedeg â chymorth gwirfoddol, wedi’i rheoli’n wirfoddol, yn ysgol sylfaen neu’n ysgol annibynnol a cholegau addysg bellach, bolisi datgelu cyfrinachau ar waith ac y rhoddir gwybod i’r holl athrawon a staff nad ydynt yn addysgu ynglŷn â’r modd y’i gweithredir.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Aed ati rhwng 18 Hydref 2006 a 14 Ionawr 2007 i ymgynghori am ganllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyrff llywodraethu ar chwythu’r chwiban mewn ysgolion ac am bolisi enghreifftiol ar gyfer staff mewn ysgolion.  

Bydd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfarfod â staff swyddfa’r Comisiynydd Plant ar 4 Gorffennaf i drafod y canllawiau terfynol arfaethedig cyn iddynt gael eu hanfon i ysgolion ac at ymarferwyr allweddol cyn gynted â phosibl yn ystod blwyddyn ysgol 2007.  

Mae gan Sefydliadau Addysg bellach ganllawiau eisoes ar chwythu’r chwiban.

21.7   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau ar sut y dylid ymchwilio i honiadau o gam-drin plant a wneir yn erbyn staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn. Dylai’r canllawiau ystyried:

  1. Cyd-ganllawiau NEOST/Undebau Athrawon, sef Education Staff and Child  Protection: Staff Facing an Allegation of Abuse
  2. Practice Guide to Investigating Allegations of Abuse against a Professional or Carer in Relation to Looked After Children
  3. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant PAAP Cymru gyfan
  4. Canllawiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant'.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cafodd Cylchlythyr 45/2004 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Gweithdrefnau Disgyblu Staff mewn Ysgolion” ei anfon i gyrff llywodraethu ysgolion ym mis Tachwedd 2004.

Cafodd “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006”  eu gwneud ar 21 Mawrth 2006 ac mae ynddynt ddwy ddarpariaeth newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu:-

  1. penodi aelod annibynnol nad yw’n llywodraethwr ac y mae ganddo hawliau pleidleisio ar bwyllgorau diswyddo/disgyblu staff ac ar bwyllgor apeliadau diswyddo/disgyblu mewn achosion sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant  (daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Ebrill 2006); a
  2. penodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant yn erbyn staff (daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Medi 2006).

Ar 16 Hydref 2006, penodwyd y Dream Group Ltd i sefydlu, i reoli ac i redeg y Gwasanaeth Ymchwilio Annibynnol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ni fydd ymchwiliadau’r ymchwilydd annibynnol yn cael eu cynnal tan ar ôl i’r awdurdodau statudol orffen ystyried yr honiadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant.

Yn hwyr yn 2007, byddwn yn mynd ati i adolygu Cylchlythyr 45/2004 “Gweithdrefnau Disgyblu Staff mewn Ysgolion” ac yn ymgynghori ynghylch ei ddiwygio, gan wneud hynny gyda golwg ar wneud mwy o’r canllawiau’n rhai statudol a chan gynnwys polisi disgyblu enghreifftiol. Wrth adolygu Cylchlythyr 45/2004, byddwn yn ystyried gofynion “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006” a’r rhannau hynny o’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau ar “Safeguarding Children in Education: Dealing with Allegations of Abuse Against Teachers” sy’n ymdrin â’r materion heb eu datganoli sy’n gysylltiedig â’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Gallwch weld copïau o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-  

NAFWC 45/2004 Staff Disciplinary Procedures in Schools (Saesneg yn unig)
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars04/NAFWC452004?lang=cy

Offerynnau Statudol 2006 Rhif 873 (Cy.81) Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006
Cyswllt: http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wsi2006/20060873w.htm

21.8   Argymhellaf:

  1. y dylai’r cyfrifoldeb dros benderfynu p’un a ddylid cyflwyno cyhuddiadau a chynnal ymchwiliad a gwrandawiad gael ei drosglwyddo i’r awdurdod addysg lleol, oherwydd ei berthynas gydag athrawon, aelodau o’r staff nad ydynt yn addysgu a’i aelodaeth o’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant yng Nghymru.
  2. os cychwynnir ymchwiliad, dylai un o swyddogion personél arbenigol yr awdurdod lleol ei gynnal a dylai’r swyddog hwnnw hefyd gyflwyno’r achos oni chyfarwyddir cyfreithiwr neu gwnsler.
  3. y dylid sefydlu pedwar tribiwnlys annibynnol newydd, yn cwmpasu pedair  rhan o Gymru, wedi eu cadeirio gan berson â chymwysterau cyfreithiol gyda dau aelod arall arnynt, un yn gynrychiolydd undeb llafur athrawon a enwebwyd a’r llall yn llywodraethwr enwebedig i glywed y dystiolaeth ac i lunio canfyddiadau ffeithiol ar sail pwysau tebygolrwydd. Dylai’r rhai sy’n cadeirio tribiwnlysoedd o’r fath gael eu penodi drwy broses sy’n cynnwys undebau llafur athrawon a’r awdurdodau addysg lleol.

21.9   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sefydlu grŵp gorchwyl o fewn chwe mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn, gyda chynrychiolwyr o bob parti â diddordeb yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o gynigion i weithredu’r argymhelliad yr wyf wedi ei wneud o ran tribiwnlysoedd disgyblu ysgolion. Dylai’r partïon â diddordeb gynnwys:

  1. holl undebau llafur athrawon
  2. cynrychiolwyr o blith y llywodraethwyr
  3. swyddogion yr awdurdod addysg lleol
  4. arbenigwyr amddiffyn plant ac arbenigwyr cyfreithiol
  5. plant a phobl ifanc
  6. cynrychiolwyr o’r Cyngor Addysgu Cyffredinol
  7. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  8. yr heddlu.

Ymhlith y materion y dylai’r grŵp gorchwyl eu hystyried mae’r trothwy ar gyfer cyfeiriadau, apeliadau, rheolau tribiwnlys, y cydberthnasau ag ymchwiliadau’r heddlu a chofnodi ymchwiliadau ar ffeiliau athrawon ac aelodau o’r staff nad ydynt yn addysgu.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cafodd “Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006” eu gwneud ar 21 Mawrth 2006 a daethant i rym ar  Ebrill 2006, ac eithrio’r ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu benodi ymchwilydd annibynnol i ymchwilio i honiadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant yn erbyn staff. Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Medi 2006. Mae darpariaethau yn y rheoliadau hefyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu benodi aelod annibynnol nad yw’n llywodraethwr ac y mae ganddo hawliau pleidleisio ar bwyllgorau diswyddo/disgyblu ac ar y pwyllgor apeliadau diswyddo/disgyblu mewn achosion sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant.  

Dywedodd y Comisiynydd Plant ei fod o’r farn fod y cynigion hyn yn ffyrdd eraill digon cymwys o weithredu ei argymhellion ar y mater hwn.

Gallwch weld copïau o’r ddeddfwriaeth drwy’r ddolen isod:-

Offerynnau Statudol 2006 Rhif 873 (Cy.81) Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006
Cyswllt: http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/wsi2006/20060873w.htm (cyswllt allanol)

21.12  Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â’r DfES, ACCAC a’r awdurdodau cwricwlwm ac asesu cymwys cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ystyried rôl cyrff arholi ledled y DU o ran trefniadau amddiffyn plant o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cyhoeddwyd y ddogfen “Diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc – Canllawiau ac enghreifftiau o arfer dda ar gyfer cyrff dyfarnu” ym mis Ebrill 2006 gan awdurdodau rheoleiddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac fe’i cadarnhawyd gan Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

Datblygwyd y canllawiau o dan adain grŵp llywio gyda chynrychiolwyr o’r adrannau addysg a’r awdurdodau rheoleiddiol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Daeth yr ymgynghori i ben ar 30 Tachwedd 2005.

Cyn yr ymgynghoriad llawn ystyriwyd y canllawiau drafft gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn, CBAC, y Cydgyngor Cymwysterau a Phwyllgor Gwaith Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu.

Ysgrifennodd ACCAC hefyd at y Comisiynydd Plant a chawsant gyfarfod positif â’r Comisiynydd Cynorthwyol i drafod y ddogfen cyn ei chyhoeddi er mwyn ymgynghori’n ehangach yn ei chylch.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

Amddiffyn plant a’r cyrff dyfarnu
Cyswllt: http://accac.org.uk/eng/content.php?mID=717

21.13   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn partneriaeth â’r DfES, ACCAC a’r awdurdodau cwricwlwm ac asesu cymwys cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ystyried y ffordd yr addysgir ac yr arholir drama mewn ysgolion a cholegau addysg bellach, gyda’r nod o gynhyrchu canllawiau arfer o fewn 2 flynedd i gyhoeddi’r adroddiad hwn a fydd yn cynnwys rhoi ystyriaeth i’r materion canlynol:

  1. dethol testunau drama priodol mewn addysg ac arholiadau;
  2. cyfranogiad oedolion mewn dramâu ysgol ac arholiadau drama ymarferol;
  3. addysgu drama yn ddiogel, yn arbennig rôl yr athro mewn sesiynau byrfyfyr ac actio method;
  4. lleoliadau ac amseroedd ar gyfer arholiadau ac ymarferion drama;
  5. recordio plant a phobl ifanc mewn ymarferion drama ac arholiadau ymarferol ar fideo a’r angen i gael caniatâd y rhieni;
  6. yr arfer o gynnwys plant iau o fewn sesiynau drama ymarferol disgyblion hŷn;
  7. monitro sgriptiau a gosod cosbau am sgriptiau a gaiff eu cyflwyno yn hwyr i fyrddau arholi ar gyfer arholiadau ymarferol;
  8. canllawiau pendant ynghylch cynnwys ac iaith rywiol, cyswllt corfforol agos a noethni mewn arholiadau a gwersi drama ymarferol;
  9. dyletswyddau rheolwyr ysgolion a cholegau wrth fonitro’r ffordd y cedwir at y canllawiau a’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cyhoeddwyd Cylchlythyr 23/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Addysgu Drama: Canllawiau ar Ddiogelu Plant ac Amddiffyn Plant i Reolwyr ac Athrawon Drama” yn electronig ar 10 Gorffennaf 2006 a dosbarthwyd y copïau caled ym mis Hydref 2006. Mae copïau hefyd wedi eu dosbarthu i ysgolion sydd wedi eu hagor ers hynny. Mae’r canllawiau’n ymwneud â’r holl faterion a nodwyd yn argymhelliad 21.13.    

Datblygwyd y canllawiau o dan adain grŵp llywio gyda chynrychiolwyr o’r adrannau addysg a’r awdurdodau rheoleiddio yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon a hefyd gynrychiolwyr Estyn ac Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Plant wedi cadarnhau ei bod yn fodlon ar y canllawiau.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

NAFWC23/06 - Addysgu Drama: Canllawiau ar ddiogelu ac amddiffyn plant i reolwyr ac ymarferwyr drama
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars2006/nafwc23-06?lang=cy

21.14   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi canllawiau, o fewn 12 mis o gyhoeddi’r adroddiad hwn, ynglŷn â gwybodaeth y gellid ei rhannu lle ceir honiadau o gam-drin plant p’un a wnaed canfyddiadau ai peidio. Dylai canllawiau o’r fath gynnwys pa wybodaeth y gellir ei rhannu gyda’r sector gwirfoddol ac unrhyw gorff arall lle mae gan yr unigolyn gysylltiad â phlant, neu lle y gallai gael cysylltiad â phlant.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cyhoeddwyd Cylchlythyr 12/2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Diogelu Plant: Gweithio gyda'n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004” ym mis Ebrill 2007. Datblygwyd y canllawiau drafft yn sgil ymgynghori’n eang â Byrddau Diogelu Plant Lleol a chynnal digwyddiadau ar gyfer ymarferwyr a grwpiau ffocws dilynol rhwng mis Mai 2005 a mis Tachwedd 2005. Anfonwyd copïau o’r drafft gwaith terfynol at sylw’r Byrddau Diogelu ym mis Gorffennaf 2006.  

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

Diogelu Plant - Gweithio gyda'n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/guidance/1297522?lang=cy

21.17   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 a’r canllawiau iddynt er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau a amlinellir yn fy adroddiad yn y trefniadau presennol ar gyfer diogelu lles plant yng Nghymru wrth berfformio ar deledu neu gyfryngau eraill, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Mae’r adolygiad wedi dod i ben. Gwnaed “Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007” ar 6 Mawrth 2007 a daethant i rym ar 2 Ebrill 2007.

Yn unol â’r rheoliadau, mae’n ofynnol bod awdurdodau lleol, cyn cymeradwyo cais am drwydded, yn fodlon bod hebryngwyr: -

  • wedi derbyn yr wybodaeth yn nodi eu cyfrifoldebau cyfreithiol yn arbennig y gyfraith ar berfformiadau gan blant; ac
  • wedi cael yr hyfforddiant perthnasol ym maes amddiffyn plant i’r lefel a argymhellir gan y Bwrdd Lleol Diogelu Plant.

Yn ôl y rheoliadau, mae hefyd yn ofynnol bod yr awdurdod lleol, cyn cymeradwyo hebryngwyr mewn perthynas â chais am drwydded, yn fodlon bod yr hebryngwyr : -

  • wedi derbyn yr wybodaeth yn nodi eu cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â’r plentyn a’r gyfraith ar berfformiadau gan blant; ac
  • wedi cael yr hyfforddiant perthnasol ym maes amddiffyn plant i’r lefel a argymhellir gan y Bwrdd Lleol Diogelu Plant.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

Offerynnau Statudol 2007 Rhif 736 (Cy.66) Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007
Cyswllt: http://www.opsi.gov.uk/legislation/wales/WSI2007/20070736w.htm

21.18   Argymhellaf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol ar arferion gorau er mwyn cyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau presennol o dan Reoliadau Plant (Perfformiadau) 1968, o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Cyhoeddwyd “Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968: Cyngor Drafft i Awdurdodau Addysg Lleol ar yr Arferion Gorau o ran Cyflawni eu Dyletswyddau a’u Cyfrifoldebau” ym mis Gorffennaf 2006.

21.25   Argymhellaf y dylai 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru gael eu diwygio i gynnwys canllawiau eglur a phendant ar gyfrifoldebau’r partïon perthnasol os bydd cwyn yn codi pryderon yn ymwneud ag amddiffyn plant.

21.26   Argymhellaf y dylid diwygio 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn ei  gwneud yn glir bod gan Gomisiynydd Plant Cymru bwerau, o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, i adolygu’r gweithdrefnau cwyno mewn ysgolion ac adolygu achosion unigol.

21.27   Dengys 'Canllawiau ar Weithdrefnau ar gyfer Ymdrin â Chwynion i Gyrff Llywodraethu' Llywodraeth Cynulliad Cymru ymwybyddiaeth o’r anawsterau a  wynebir o ran sicrhau annibyniaeth ddigonol ym mhob cam o’r broses o  ymchwilio i gŵyn, ac o ran dyfarnu mewn ysgolion, yn arbennig ysgolion bach. Rhannaf y pryder hwn ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd y camau unioni  arfaethedig yn ymarferol ac yn effeithiol. Serch hynny, credaf y dylid rhoi’r cyfle i’r trefniadau arfaethedig, ar ôl eu diwygio fel yr awgrymwyd gennyf, gael eu  profi ac felly y dylent, ynghyd â 'Cwynion yn Ymwneud â Phlant' gael eu cyhoeddi fel canllawiau statudol yn ddi-oed, a heb fod yn hwyrach na 1 Medi 2004.  Bydd fy swyddfa yn adolygu’r trefniadau hyn wedi iddynt fod mewn grym am  flwyddyn.

21.28   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gymryd y camau  angenrheidiol i sicrhau y caiff pob cynnig o fewn ei dogfen ymgynghori  'Gweithdrefnau ar gyfer Cwynion yn Ymwneud â Disgyblion' ei wneud yn  statudol.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhellion hyn.  

Dosbarthwyd Cylchlythyr 39/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Canllawiau i Gyrff Llywodraethu Ysgolion ynglŷn â Gweithdrefnau Cwyno yn ymwneud â Disgyblion” i bob ysgol ar 25 Hydref 2006.  

Dosbarthwyd copïau hefyd i adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, undebau athrawon a staff ysgolion, awdurdodau esgobaethol, y Comisiynydd Plant, cyrff gwirfoddol sy’n ymwneud â hawliau plant a chyrff addysg lleol a chenedlaethol.

Er mwyn mynd i’r afael â rhai o bryderon penodol y Comisiynydd Plant mae’r cylchlythyr yn pwysleisio y dylid ymdrin â chwynion a dderbynnir mewn ysgolion ynghylch materion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant o dan weithdrefnau disgyblu staff y corff llywodraethu ac nid fel cwyn gyffredinol.

Mae’r canllawiau sydd yng Nghylchlythyr 39/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn atodol i Gylchlythyr 03/2004 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion ” a dylid eu darllen ar y cyd â’r canllawiau yn y cylchlythyr hwnnw. Mae’r un sail statudol felly i Gylchlythyr 39/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru ag sydd i Gylchlythyr 03/2004 Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Byddwn yn edrych ar uno’r canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu ar ymdrin â chwynion yn ymwneud â phlant â’r canllawiau ar y gweithdrefnau cyffredinol ynghylch cwynion yn un ddogfen gynhwysfawr, gan gynnwys gweithdrefn enghreifftiol ynghylch cwynion, maes o law.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

NAFWC39/06 - Canllawiau i Gyrff Llywodraethu Ysgolion ynglyˆn â Gweithdrefnau Cwyno yn ymwneud â Disgyblion
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars2006/nafwc39-06?lang=en

NAFWC 03/2004 - Gweithdrefnau cwyno cyrff llwodraethu ysgolion
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars04/NAFWC032004?lang=en

21.29   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru lunio strategaeth genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaeth cynghori annibynnol i blant a phobl ifanc mewn addysg gan gynnwys darparu cefnogaeth briodol i blant yn ystod prosesau disgyblu, amddiffyn plant, cwynion a gwahardd, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.  Dylai’r strategaeth genedlaethol hon hefyd ystyried sgiliau, hyfforddiant a  chefnogaeth gofal bugeiliol athrawon a’r priod rolau yng nghyd-destun gofal  bugeiliol staff addysgu, cynghorwyr a staff lles addysg.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhelliad hwn.  

Cyflwynwyd y strategaeth genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori mewn ysgolion i’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 16 Mawrth 2007 a chyhoeddwyd y ddogfen at ddibenion ymgynghori ffurfiol. Daeth y broses honno i ben ar 31 Mawrth 2007.  Disgwylir i’r strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd y strategaeth yn cael ei hysbysu gan ganfyddiadau’r prosiect ymchwil cynhwysfawr sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru er mwyn asesu lefel y ddarpariaeth a gynigir yng Nghymru ar hyn o bryd, pa mor addas yw’r ddarpariaeth honno a pha mor effeithiol ydyw, ynghyd â chasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc a rhanddeiliaid eraill o ran y pethau sydd eu hangen arnynt.

21.30   Argymhellaf y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru o fewn 3 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn ei gwneud yn ofynnol i bob corff llywodraethu ysgol sicrhau bod plant yn cael eu hysbysu yn eu hysgol o argaeledd a phwrpas gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys ChildLine, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC, gwasanaethau cymdeithasol, swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a gwasanaethau eirioli.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau wedi eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhelliad hwn.  

Rhoddwyd copi o Gylchlythyr 39/2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Canllawiau i Gyrff Llywodraethu Ysgolion ynglŷn â’r Gweithdrefnau Cwyno yn ymwneud â Disgyblion” i bob ysgol ar 25 Hydref 2006.  

Rhoddwyd copïau hefyd i adrannau addysg ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, undebau athrawon ysgol a staff ysgol, awdurdodau esgobaethol, y Comisiynydd Plant, cyrff gwirfoddol sy’n ymwneud â hawliau plant a chyrff addysg lleol a chenedlaethol.

Mae’n cynnwys cyngor ar ddiben, rôl neu egwyddorion y weithdrefn ar gyfer delio â chwynion sy’n ymwneud â phlant, ynghyd â chynnig cymorth eirioli i ddisgyblion.

Mae’r cylchlythyr hefyd yn esbonio rôl y Comisiynydd Plant ac yn cynnwys gwybodaeth am ChildLine, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC, y Comisiynydd Plant a’r Ganolfan Gyfreithiol i Blant.

Atgyfnerthwyd y ffynonellau cymorth i blant a phobl ifanc yn y nodyn enghreifftiol i ddisgyblion sydd yn y ddogfen ymgynghori “Diogelu Plant mewn Addysg”.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r ddolen isod:-

NAFWC39/06 - Canllawiau i Gyrff Llywodraethu Ysgolion ynglyˆn â Gweithdrefnau Cwyno yn ymwneud â Disgyblion
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/publications/circular/circulars2006/nafwc39-06?lang=cy

Rhan 2:  Argymhellion nad ydynt wedi'u cyfeirio'n bennaf at Lywodraeth Cynulliad Cymru ond lle y mae'n cyfranogiad ni'n fawr â chanllawiau cysylltiedig.
21.1   Mewn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant, argymhellaf y dylid canfod  dymuniadau a barn y plentyn ar y modd y cynhelir y cyfweliad, gan gynnwys eu dymuniadau o ran natur y gefnogaeth a fyddai orau ganddynt, mewn modd  sensitif a’u cofnodi, gan ffurfio rhan o’r broses o gynllunio’r cyfweliad ac y dylid diwygio Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn unol â hynny o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

21.2   Argymhellaf y dylai’r heddlu ystyried hysbysu’r plentyn ei hun o ganlyniad ymchwiliad gan yr heddlu bob amser, gan ofalu eu bod yn esbonio’r hyn a ddigwyddodd ac y caiff Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan eu diwygio yn unol â hynny o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn.

21.21   Argymhellaf i gadeiryddion PAAPau os ymgymerir ag adolygiad o achos difrifol y dylai awdur annibynnol yr adroddiad trosolwg gyfranogi yng nghyfarfodydd y grŵp adolygu.

21.24.  Argymhellaf y dylai cadeiryddion PAAPau sicrhau y caiff Gweithdrefnau  Amddiffyn Plant Cymru Gyfan eu diwygio o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad  hwn er mwyn rhoi canllawiau ar gadw a storio dogfennau a fyddai’n caniatáu i  achosion gael eu hadolygu fel y bo’n briodol dros gyfnod maith.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhelliad hwn.

Mae’r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn cael eu hailysgrifennu ar hyn o bryd er mwyn adlewyrchu Deddf Plant 2004 a’r newid o’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant i Fyrddau Lleol Diogelu Plant.  

Mae Cylchlythyr 12/2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Diogelu Plant - Gweithio gyda'n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004” yn cynghori’r Byrddau Lleol Diogelu Plant mewn perthynas â’r materion penodol hyn.

Mae canllawiau mewn perthynas â rhoi argymhellion 21.1 a 21.2 ar waith i’w gweld yn y ddogfen “Sicrhau’r dystiolaeth orau mewn achosion troseddol: Canllawiau i dystion bregus neu rai sydd wedi eu brawychu, gan gynnwys plant”, a gyhoeddwyd yn 2001 gan y Swyddfa Gartref, yr Arglwydd Ganghellor, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Adran Iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

O ran argymhelliad 21.21, rydym yn ystyried paratoi canllawiau ar wahân mewn perthynas â’r diwyg a’r gwaith o baratoi adolygiadau o achosion difrifol, er mwyn arwain y Byrddau Lleol Diogelu Plant a sicrhau, cyn belled ag sy’n bosibl, safonau cyson ledled Cymru.

Gallwch weld copïau o’r canllawiau drwy’r dolenni isod:-

Diogelu Plant - Gweithio gyda'n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.
Cyswllt: http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/guidance/1297522?lang=cy

Achieving Best Evidence in Criminal Proceedings: Guidance for Vulnerable or Intimidated Witnesses, including Children
Cyswllt: http://www.cps.gov.uk/publications/prosecution/bestevidencevol1.html (Saesneg yn unig)

21.6   Argymhellaf y dylai pob athro ac aelod o staff nad ydynt yn addysgu, o gael ei benodi mewn unrhyw ysgol neu goleg addysg bellach yng Nghymru, dderbyn cyfarwyddyd ysgrifenedig ac ar lafar ar weithdrefnau datgelu cyfrinachau a’r modd i’w gweithredu. Dylid atgyfnerthu hyn yn rheolaidd wedi hynny.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhelliad hwn.  

Ymgynghorwyd ar ganllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyrff llywodraethu mewn perthynas â datgelu cyfrinachau mewn ysgolion a’r polisi enghreifftiol i staff ysgolion rhwng 18 Hydref 2006 a 14 Ionawr 2007.  

Bydd swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cwrdd â swyddfa’r Comisiynydd Plant ar 4 Gorffennaf er mwyn trafod y canllawiau terfynol arfaethedig cyn eu rhyddhau ar gyfer ysgolion ac ymarferwyr allweddol cyn gynted â phosibl yn ystod blwyddyn ysgol 2007.

Mae gan Sefydliadau Addysg Bellach bolisi datgelu cyfrinachau ar waith eisoes.

21.31  Argymhellaf y dylai ACCAC, o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn adolygu ei Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol yng ngoleuni fy adroddiad a phenderfynu a oes angen gwneud newidiadau neu ychwanegiadau.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae camau’n cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â’r argymhelliad hwn.

Yr oedd ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiynydd Plant yn esbonio bod yr adolygiad o Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn mynd yn ei flaen o dan arweiniad ACCAC (bellach y Grŵp Cymwysterau a Chwricwlwm yn yr Adran Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg) fel rhan annatod o’r adolygiad o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru.

Fel rhan o’r Adolygiad o Gwricwlwm Cymru, sefydlodd ACCAC, fel y’i gelwid ar y pryd, Grŵp Cynghorol Addysg Bersonol a Chymdeithasol er mwyn helpu gyda’r gwaith o ddiwygio’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Cafodd y grŵp gyflwyniad gan Gynghorydd Addysg NSPCC Cymru ar Adroddiad Clywch a’r goblygiadau posibl ar gyfer y fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. O ganlyniad gwnaethpwyd diwygiadau i destun y Canlyniadau Dysgu Addysg Bersonol a Chymdeithasol sy’n ymwneud ag amddiffyn plant a gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael a gwnaeth Swyddog Addysg NSPCC Cymru (aelod o’r grŵp cynghorol) wirio’r testun a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau bod y geiriad yn addas, a sicrhau parhad a dilyniant.  

Mae’r Canlyniadau Dysgu diwygiedig ar gyfer pob Cyfnod Allweddol bellach wedi’u cyflwyno gerbron Grŵp monitro Trawsgyfnod ac Anghenion Addysgol ychwanegol ACCAC. Mae’r Grŵp Cynghorol Addysg Bersonol a Chymdeithasol wedi cwblhau’r gwaith diwygio ac wedi rhoi ystyriaeth i safbwyntiau’r rhanddeiliaid wrth ddiwygio’r fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol.  

Dechreuodd y broses o ymgynghori drwy’r post ar y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol diwygiedig ar 8 Ionawr 2007 am gyfnod o 12 wythnos. Aethpwyd ati i ddadansoddi’r 281 ymateb a ddaeth i law. Cynhaliwyd cynhadledd ymgynghori ar gyfer 50 o gynrychiolwyr ym mis Mawrth ac mae swyddogion wedi hefyd wedi cwrdd â staff o swyddfa’r Comisiynydd Plant er mwyn trafod y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

O ganlyniad bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi copi o’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol a chanllawiau i’r ysgolion er mwyn cefnogi’r broses o roi’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol terfynol ar waith o fis Medi 2008 ymlaen.