Skip to content

Llafar - Anghenion Dysgu Ychwanegol – Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg

Mae heddiw’n garreg filltir i Lywodraeth y Cynulliad, oherwydd ei bod yn fraint gennyf gyflwyno’r Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig cyntaf er eich sylw. Bydd y Gorchymyn yn gofyn bod gan y Cynulliad bŵer i wneud Mesurau ym maes anghenion dysgu ychwanegol, sy’n bwnc y mae nifer o Aelodau’r Cynulliad wedi dangos diddordeb brwd ynddo yn y blynyddoedd diwethaf.

Fel y gŵyr Aelodau, pwrpas proses y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a gyflwynwyd dan adran 95 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yw rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gelwir y Gorchmynion hyn yn Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad, a bydd y drefn ddeddfwriaethol hon yn rhoi hawl i’r Cynulliad basio ei ddeddfwriaeth ei hun, sef Mesurau Cynulliad, a fydd yn seiliedig ar flaenoriaethau Cymreig ac a gynhyrchir yn ôl amserlenni Cymreig ac mewn cyddestun Cymreig.
Mae hwn yn gam hollbwysig ymlaen i ddatganoli yng Nghymru, yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n dod â’r sefyllfa a oedd gennym o’r blaen i ben: os oedd eisiau gwneud darpariaeth newydd neu newid deddfwriaeth sylfaenol arnom, fel yn achos Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a Deddf Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, roedd yn rhaid gwneud hynny drwy Senedd y DU a rhaid oedd negodi slot yn rhaglen Llywodraeth y DU. O hyn ymlaen, mae trefn y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn rhoi hawl inni ofyn bod y Cynulliad yn cael pŵer i ddeddfu dros faes eang. Unwaith y’i rhoddir, bydd y pŵer gennym am byth. Bydd y Cynulliad yna’n gallu cyflwyno Mesurau Cynulliad heb orfod mynd drwy’r Senedd.

Mae gan y Cynulliad eisoes gymhwysedd deddfwriaethol yng nghyswllt nifer o faterion addysg, o ganlyniad i bwerau a roddwyd i’r Cynulliad dan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006—daeth y rhain yn bwerau Mesur pan wahanodd Llywodraeth Cynulliad Cymru oddi wrth y Cynulliad.

Fodd bynnag, ni fyddai’r pwerau a roddwyd eisoes o dan y Ddeddf Addysg ac Arolygiadau yn rhoi hawl inni ddelio â’r materion yng nghyswllt anghenion dysgu ychwanegol y cyfeiriwyd atynt gan y Llywodraeth yn ei hymgyrch maniffesto. O’r herwydd, yr wyf yn croesawu’r cyfle i ddefnyddio proses Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol. Dyma’r union sefyllfa y crëwyd trefn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn Neddf Llywodraeth Cymru ar ei chyfer, oherwydd mae Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn gadael inni achub y blaen a gofyn am y pwerau sydd eu hangen arnom cyn gynted ag y bo’r angen yn cael ei nodi, yn lle gorfod aros am y Mesur priodol o San Steffan.

Mae’r ffaith mai anghenion dysgu ychwanegol yw testun y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol cyntaf yn hynod briodol. Datblygwyd polisi yn y maes addysg hwn ar sail cydweithrediad traws-bleidiol ers tro. Cyflawnodd y cyn Bwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau adolygiad cynhwysfawr o anghenion addysgol arbennig mewn tair rhan, y gyntaf i edrych ar adnabod ac ymyrryd yn fuan, yr ail i edrych ar ddatganiadau, a’r drydedd ar gyfnodau pontio. Cynhyrchwyd cynllun gweithredu i ddilyn pob adroddiad, a thrafodwyd yr un olaf ar gyfnodau pontio a chytunwyd arno mewn Cyfarfod Llawn yn y Cynulliad blaenorol ar 27 Mawrth eleni.

Os ydym i gyflawni’r gwelliannau sylweddol yr oedd y pwyllgor eisiau eu gweld ac yr ydym ninnau eisiau eu gweld i rai gydag anghenion addysgol arbennig, ac, yn ehangach, i rai gydag anghenion dysgu ychwanegol, mae angen inni wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol. Ar hyn o bryd, o dan y setliad datganoli, yr ydym yn gyfrifol am ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yng nghyswllt addysg a hyfforddiant, ond nid oes gan y Cynulliad bwerau i ddeddfu i newid agweddau sylfaenol ar ddarpariaeth yn y maes hwn. Er enghraifft, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd y gall y Cynulliad ddeddfu i gryfhau statws y cod ymarfer ar gyfer AAA yng Nghymru i sicrhau cydymffurfiad. Mae’r cod ymarfer presennol ar gyfer AAA yn rhoi cyngor ymarferol i AALlau, ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill ar sut i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn y maes hwn. Fodd bynnag, ystyrir bod ei rym cyfreithiol yn wan oherwydd nad oes yn rhaid i AALlau ond ei ystyried. Mae hyn yn hollol wahanol i ganllawiau tebyg i’r gwasanaethau cymdeithasol, lle disgwylir i awdurdodau gydymffurfio’n gyfreithiol â’r canllawiau hynny.
Nid oes ychwaith unrhyw sail statudol eto y gallai’r Cynulliad ei ddefnyddio i wneud y system ddatganiadau ffurfiol bresennol yn llai rhagnodol. Er bod gan Lywodraeth y Cynulliad bwerau i wneud rheoliadau ynghylch gweithrediad y broses ddatganiadau, ni all wneud newidiadau mwy sylfaenol i strwythur y broses statudol oherwydd bod hyn wedi’i wreiddio mewn deddfwriaeth sylfaenol. Ar hyn o bryd mae’n rhy fuan awgrymu’n fanwl pa newidiadau sydd efallai eu hangen, ond tynnodd y pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sylw at y gwendid sylfaenol y cyfeiriais ato yn ei adolygiad polisi o’r broses ddatganiadau. Yr oedd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ofyn am y pŵer angenrheidiol i sicrhau cymhwysedd cyfreithiol llawn yng nghyswllt trefniadau asesu statudol o’r fath. Yn ymateb fy rhagflaenydd, Jane Davidson, i’r argymhelliad hwnnw, cytunodd yn benodol y dylid rhoi sylw o ddifrif i hyn.

Cyfyngiad pellach ar lefel statudol yw nad oes gan y Cynulliad ar hyn o bryd bŵer i newid yr ystod o unigolion sydd â’r hawl i apelio i’r tribiwnlys AAA dros Gymru, gan gynnwys yr hawl apêl i blant, sydd â digon o ddealltwriaeth i ymarfer eu hawl, yn ogystal â hawliau rhieni a gofalwyr. Bydd Aelodau’n ymwybodol bod Comisiynydd Plant Cymru wedi annog yn gryf y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried rhoi hawl i blant apelio. Gwelodd hyn fel rhywbeth a oedd yn arbennig o gyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac sy’n angori holl bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, cyfyngir yr hawl i apelio i rieni a gofalwyr y plant a’r bobl ifanc y daw eu hachosion gerbron y tribiwnlys. Mae felly’n bwysig bod gan y cyhoedd gyfle i ystyried y materion hyn a bod ymgynghori eang gyda rhanddeiliaid allweddol yn digwydd.

Bydd derbyn cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn rhoi hawl inni weithredu ein polisïau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n dysgu yng Nghymru, er mwyn iddynt allu cyfranogi’n llawn yn y cyfleoedd dysgu lu sydd ar gael yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn gallu ystyried a chraffu ar ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn a theilwrio’r ddarpariaeth i anghenion Cymreig.