Skip to content

Llafar - Amseroedd Aros y GIG a Phwysau Argyfwng

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffaf adrodd heddiw bod cynnydd yn cael ei wneud gyda nifer o feysydd perfformiad allweddol yn y GIG, gan gynnwys cynnydd gyda’n targedau amseroedd aros ac ymateb y gwasanaeth yn wyneb pwysau argyfwng.

Dengys y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar amseroedd aros bod y GIG yn brasgamu at y targed na fydd yn rhaid i unrhyw un aros mwy na wyth mis am ofal fel claf mewnol nac allanol. Ar ddiwedd Ionawr 2007, yr oedd 3,500 o gleifion yn aros mwy na wyth mis i dderbyn triniaeth fel cleifion mewnol neu allanol ac nid oedd unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 mis. Mae hynny’n lleihad o 3,700 o’i gymharu â diwedd Mawrth 2006. Ar ddiwedd Ionawr, yr oedd 5,700 o gleifion yn aros mwy na wyth mis am eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol a dim ond pump yn aros mwy na 12 mis. Mae hynny’n lleihad o 13,500 o’i gymharu â diwedd Mawrth 2006.

Cymru oedd y gyntaf o wledydd Prydain i gyhoeddi amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau diagnostig a therapi, fis Chwefror y llynedd. Mae’r rheini’n rhan bwysig o siwrne’r claf a’n nod yw cyrraedd y targed o 26 wythnos erbyn Rhagfyr 2009. Cyfeiriwyd ati’n flaenorol fel y rhestr aros gudd. Ar ddiwedd Rhagfyr 2006, yr oedd 2,500 o gleifion yn aros dros 36 wythnos am wasanaethau diagnostig a therapi. Mae hynny’n lleihad o 8,900 o gleifion o’i gymharu â diwedd Mawrth 2006. Cofnodwyd sawl lleihad sylweddol yn y nifer sy’n aros dros 36 wythnos am brofion pwysig fel sganiau MRI a CT, ac am wasanaethau therapi fel therapi iaith a lleferydd a ffisiotherapi.

Gwelsom hefyd leihad mawr yn y nifer sy’n aros mwy na 24 wythnos am ecocardiogram, lle mae’r nifer wedi gostwng o 2,900 i 1,200 o bobl. Mae’r ffigurau hyn yn welliant sylweddol ac yn tystio i waith caled staff ymroddedig o fewn y GIG, ac yr wyf yn eu llongyfarch am hyn, o gofio eu bod hefyd o dan lawer iawn o bwysau eraill.

Os caf symud ymlaen at y pwysau a wynebir gan ein gwasanaethau gofal argyfwng sydd wedi derbyn cryn sylw yn yr wythnosau diwethaf, mae perfformiad Cymru gyfan yn erbyn y targed o 95 y cant am arosiadau llai na phedair awr yn y prif adrannau damweiniau ac achosion brys eto i’w gyflawni’n gyson. Fodd bynnag, dylid cofio bod dros 66,600 o gleifion wedi mynychu prif adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn Ionawr, a chafodd bron naw o bob 10 o gleifion eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu gollwng o fewn pedair awr. Yn yr adrannau hynny sy’n perfformio islaw’r lefelau targed, mae’r swyddfeydd rhanbarthol a’r unedau cyflenwi a chymorth yn cydweithio’n agos gyda’r ymddiriedolaethau perthnasol i sicrhau gwelliannau.

Ynghyd â’r galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys, mae’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans brys wedi cyrraedd lefelau uwch nag erioed. Yr oedd y nifer o alwadau 999 brys a gafwyd yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2006 yr uchaf erioed, ar 76,200. Dyna fwy na 4,500 o alwadau brys ychwanegol o gymharu â’r un chwarter y flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 34.8 y cant ar bum mlynedd yn ôl. Er gwaethaf y cynnydd hwn yn y galw, mae’n bwysig cofio bod dros 57,000, sef bron i 80 y cant, o’r ymatebion i alwadau brys wedi cyrraedd o fewn yr amser targed, a bod bron i 18,000, neu 55.8 y cant, o ymatebion cyntaf i alwadau lle’r oedd bygythiad i fywyd wedi cyrraedd o fewn wyth munud. Mae ffigurau’r chwarter diweddaraf o ran ymateb o fewn wyth munud yn dangos gwelliant bychan. Fodd bynnag, derbyniaf nad yw ffigurau un chwarter yn gyfystyr â thuedd gynaliadwy.

Mae llawer i’w wneud o hyd i wella perfformiad ein gwasanaeth ambiwlans. I hyrwyddo moderneiddio’r gwasanaeth, cyhoeddais fwy na £70 miliwn o arian cyfalaf yn ddiweddar i ddarparu ambiwlansiau newydd ac i ddiweddaru technoleg lleoli cerbydau a thelathrebu. Rhaid cofio nad moderneiddio’r gwasanaeth ambiwlans yw’r unig elfen angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth brys gwell; mae angen sicrhau hefyd fod pob gwasanaeth, gan gynnwys ysbytai, gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, y gwasanaeth ambiwlans, gofal sylfaenol a chymdeithasol, yn cydweithio i sicrhau y caiff cleifion ymateb priodol yn unol â’u hanghenion.

Amlinellir ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal heb eu trefnu yng Nghymru yn ein polisi DECS—cyflawni gwasanaethau gofal brys. Y nod yw sicrhau y caiff cleifion, waeth sut na pha bryd y cysylltant ag unrhyw un o’r gwasanaethau gofal brys neu wasanaethau heb eu trefnu, eu hasesu a’u gweld gan weithiwr proffesiynol yn y lleoliad gofal mwyaf priodol, ar yr adeg fwyaf priodol.

Yn yr un modd, mewn rhai rhannau o Gymru, mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn broblem fawr, er, mewn rhannau eraill, cymerwyd camau breision, a’u cynnal hefyd. Fodd bynnag, mae gan dair neu bedair ardal lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal sydd yn llawer uwch na’r patrwm cyffredinol i Gymru. Bwriadaf ymgynghori ag Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglyn â gwneud adolygiad arbennig o’r ardaloedd hyn er mwyn canfod unrhyw resymau sylfaenol pam y mae cyfraddau oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau’n ystyfnig o uchel. Bydd yr adolygiad hwn yn ategu canlyniadau’r adolygiad ehangach o oedi wrth drosglwyddo gofal, y pleidleisiodd y Cynulliad drosto cyn y Nadolig.

Sylweddolaf gymaint o bwys y mae pobl yn ei roi ar allu cael mynediad cyflym at wasanaethau meddygol cyffredinol a gofal sylfaenol. Dyna ble y digwydd 90 y cant o ymgyngoriadau meddygol, a dyna pam, ym mis Hydref 2003, y bu inni lansio’r gwasanaeth ychwanegol dan gyfarwyddyd. Ariannodd y gwasanaeth hwn bractisau gwasanaethau meddygol cyffredinol i ad-drefnu’u gwasanaethau i ddarparu mynediad at aelod priodol o’r tîm gofal sylfaenol o fewn 24 awr, neu’n gynt mewn argyfwng. Erbyn diwedd Mawrth 2004, adroddodd 93 y cant o bractisau eu bod yn cyrraedd y nod hwnnw, a chododd y ffigur hwnnw i 97 y cant erbyn Mawrth 2006. Mae practisau gwasanaethau meddygol cyffredinol wedi gweithio’n galed i ateb gofynion cleifion. Mae’r ffigurau hyn yn dangos gwelliant sylweddol mewn mynediad at ofal sylfaenol gwasanaethau meddygol cyffredinol.

Mewn ymateb i adborth gan gleifion, eleni yr ydym wedi cyflwyno cynlluniau pellach i helpu cleifion i gael gwasanaeth. Yr ydym wedi cytuno gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru y bydd practisau hefyd yn darparu: modd i wneud apwyntiad hyd at bythefnos ymlaen llaw, gyda’r cyfle i gael gweld meddyg teulu o ddewis y claf o fewn pedair wythnos; system ateb ffôn sy’n ddigonol i ddarparu ar gyfer galw rhesymol gan gleifion; ynghyd ag adolygiad o anghenion mynediad cleifion ag anableddau.