Skip to content

Ysgrifenedig - Datganiad Polisi Newydd ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog dros Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Hoffwn hysbysu holl Aelodau'r Cynulliad o'r Datganiad Polisi atodedig yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a'u hasiantau rheoli, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Mae'r Datganiad yn ddogfen arwyddocaol gan ei bod yn gosod agenda tymor canolig ar gyfer Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer lle'r Parciau yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru.

Fel y dengys yn y Datganiad Polisi, mae'r Parciau'n cynrychioli uchafbwyntiau yn ansawdd tirlun Cymru ac yn ogystal â bod yn galon i ddiwylliant Cymreig maent yn denu twristiaeth ac yn adnodd hanfodol pwysig i'r economi hefyd.

Wrth bennu'r flaenagenda strategol ar gyfer Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol noda'r Datganiad Polisi y tri maes canlynol fel meysydd y bydd angen rhoi sylw arbennig iddynt a chymryd camau trawsbynciol mewn perthynas â hwy:

Newid yn yr hinsawdd
Fel mewn rhannau eraill o Gymru, fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i amgylchedd arbennig y Parciau. Mae'r Datganiad Polisi yn cydnabod hyn ac yn annog Awdurdodau'r Parciau i chwarae eu rhan i helpu i fynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a chynllunio i addasu i'w effeithiau. Fel rhan o hyn mae'r Datganiad Polisi yn annog Awdurdodau'r Parciau i gyfrannu at Gynllun Addasu i Newid yn yr Hinsawdd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei baratoi ac i helpu i ddatblygu cynlluniau rheoli risg ar gyfer eu hardaloedd.

Datblygu Cynaliadwy
Ceir cysylltiadau amlwg rhwng newid yn yr hinsawdd a gweithredu i annog pobl i ddefnyddio mwy o adnoddau cynaliadwy Cymru drwy hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Er bod Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn sefydliadau cymharol fach maent eisoes yn gwneud gwaith da yn y maes hwn drwy, er enghraifft, roi cymorth i ystod eang o fentrau datblygu cynaliadwy'r gymuned o dan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth y Cynulliad.
Mae'r Datganiad Polisi'n cydnabod hyn ac yn annog Awdurdodau'r Parciau i ddwyn yr agenda hon yn ei blaen ymhellach, yn arbennig drwy brif ffrydio egwyddorion datblygu cynaliadwy drwy holl brif feysydd eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu ganddynt i helpu i hyrwyddo mwy o ddefnydd o adnoddau cynaliadwy, gan gynnwys annog cynlluniau ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy priodol.

Cynhwysiant Cymdeithasol    
Pwysleisia'r Datganiad Polisi bod y Parciau yno i bawb eu mwynhau a bod ganddynt botensial arwyddocaol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru ac ymwelwyr i Gymru a chyfrannu'n gadarnhaol i iechyd a lles y cyhoedd. Felly, anogir gweithredu parhaol ar yr agenda cynhwysiant cymdeithasol.

Dangosir pum maes penodol arall i ganolbwyntio arnynt dros y 3-5 mlynedd nesaf yn y Datganiad, fel a ganlyn:

a. Ymgysylltu â'r gymuned - y brif nod yma yw gwneud i gymunedau lleol deimlo eu bod wedi'u hymgysylltu'n llwyr ag Awdurdodau'r Parciau yn eu gwaith ac yn gallu gweld y gwerth ychwanegol a ddiogelir gan yr Awdurdodau ar eu rhan;

b. Gweithgarwch economaidd-gymdeithasol – er nad Awdurdodau'r Parciau yw'r prif asiantaethau ar gyfer datblygu economaidd, gallant chwarae rôl gefnogol bwysig yn y gwaith o hyrwyddo datblygu gwledig cynaliadwy, gan gynnwys drwy wneud defnydd priodol o'u swyddogaethau rheoli cynllunio a datblygu;

c. Cadwraeth a rheoli tir cynaliadwy – y brif nod yma yw i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ymgymryd â'u rôl statudol ar gadwraeth mewn modd sy'n diogelu nodweddion a rhinweddau arbennig y Parciau ar yr un pryd ag annog pobl i ddefnyddio adnoddau cynaliadwy;

ch. Hybu mwynhad y cyhoedd o'r Parciau – mae cysylltiad amlwg yma â'r agenda cynhwysiant cymdeithasol a nodir uchod. Mae'r Datganiad Polisi yn annog Awdurdodau'r Parciau i ehangu'r amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden awyr agored yn y Parciau, a helpu i ddiogelu'r buddiannau economaidd, iechyd a chymunedol sy'n gysylltiedig â mynediad gwell.

d. Cynllunio - mae'r Polisi Datganiad yn cefnogi rôl Awdurdodau'r Parciau fel yr awdurdodau cynllunio ar gyfer eu hardaloedd. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, mae hefyd yn pwysleisio'r angen i'r Awdurdodau hyrwyddo buddiannau'r swyddogaethau cynllunio ac i gymryd safle rhagweithiol o ran datblygu priodol.

Wrth gyflwyno'r blaenoriaethau hyn, noda'r Datganiad Polisi bwysigrwydd y ffaith y dylai Awdurdodau'r Parciau barhau i hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn eu harferion cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd.

Hefyd, pwysleisir rôl hanfodol bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol y Parciau - ac anogir Awdurdodau'r Parciau i wella'u darpariaeth o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn barhaus.
 
Mae hon yn amlwg yn agenda eang i Awdurdodau'r Parciau fynd i'r afael â hi. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl iddynt ei chyflawni ar eu pen eu hunain - ond yn hytrach mewn partneriaeth weithredol gyda'i gilydd, yr awdurdodau lleol, sefydliadau amgylcheddol megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth y Cynulliad ei hun. Hefyd, dylai partneriaeth effeithiol wrth weithio ar yr agenda strategol canolig hon helpu Awdurdodau'r Parciau i chwarae eu rhan wrth gyflwyno'r agenda Creu'r Cysylltiadau, gan sicrhau gwasanaethau gwell a mwy cost effeithiol i bobl Cymru.