Skip to content

Llafar - Chwareli Llechi Alfred McAlpine

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Ar 26 Ionawr, gwnaeth Alfred McAlpine ccc gyhoeddiad yn y gyfnewidfa stociau yn Llundain ynghylch afreoleidd-dra wrth gyfrifyddu a honiadau o dwyll yn ei is-gwmni llechi yn y Gogledd. Er bod yr ymchwiliadau mewnol gan Alfred McAlpine yn parhau, mae’r dystiolaeth gyntaf yn dangos colled o sawl miliwn o bunnoedd dros nifer o flynyddoedd. Yn union ar ôl y cyhoeddiad hwnnw, cyfarfu fy swyddogion ag uwch dîm rheoli Alfred McAlpine. Er iddynt gael eu sicrhau bod y cwmni wedi ymrwymo o hyd i’r busnes yn y tymor canolig a hwy, pwysleisiodd y byddai angen ad-drefnu sylfaenol.

Mae Alfred McAlpine yn cyflogi 400 o bobl ar hyn o bryd yn ei dair chwarel yn y Gogledd—Cwt y Bugail a’r Gloddfa Ganol ym Mlaenau Ffestiniog, a phrif waith llechi Alfred McAlpine yng Nghymru yn chwarel y Penrhyn ym Methesda. Cyhoeddwyd y bydd cyfanswm o 175 o swyddi’n cael eu colli, rhwng y tair chwarel hynny. Cedwir chwarel Cwt y Bugail fel y bydd yn barod i’w gweithio. Mae’r cwmni wedi dechrau ar broses ymgynghori 30 niwrnod gyda chynrychiolwyr y gweithwyr a’r undebau llafur. Yr wyf yn siwr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi pan ddywedaf mai siomedig iawn yw colli’r swyddi hynny a’n bod yn estyn ein cydymdeimlad at y rhai y mae hyn yn effeithio arnynt a’u teuluoedd.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu yn null Tîm Cymru, i raddau helaeth iawn, wrth roi pob cymorth posibl i Alfred McAlpine a’r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae fy swyddogion yn swyddfeydd y Gogledd a’r Canolbarth yn cydweithio’n agos â thimau Trafnidiaeth Cymru a Gweithrediadau a Buddsoddi Cymru, yn ogystal â’u cydweithwyr yn yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’r Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Maent hefyd yn cadw mewn cysylltiad agos â Chyngor Gwynedd.