Skip to content

Ysgrifenedig - Cyhoeddiad Am Ymgynghori Gyda 59 O Gyrff Ynghylch Dod  Nhw O Dan Gwmpas Deddf Yr Iaith Gymraeg 1993

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Gweinidog Dros Ddiwylliant, Y Gymraeg A Chwaraeon
Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori’n uniongyrchol ar hyn o bryd gyda 59 o gyrff gyda golwg ar eu pennu fel cyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf yr Iaith Gymraeg  trwy Orchymyn o dan Adran 6 (1) (o) y Ddeddf honno. Anfonwyd llythyrau at y cyrff dan sylw ar ddechrau mis Mawrth gyda chyfnod ymateb o 30 diwrnod yn unol ag ymarferion blaenorol. Effaith “pennu” corff yw galluogi Bwrdd yr Iaith Gymraeg i hysbysu’r corff hwnnw i baratoi Cynllun Iaith Gymraeg o dan y Ddeddf.

Byddai unrhyw Orchymyn yn cael ei wneud ar ôl yr etholiad yn unol â’r trefniadau newydd a ddaw yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ddarostyngedig i’r ymatebion a geir gan y cyrff, a phenderfyniad gweinidogol terfynol, mae’r Gorchymyn yn debygol o fod yr un mwyaf erioed o ran y nifer o gyrff a bennir.

Rwyf wedi dweud ar nifer o achlysuron bod digonedd o fywyd ar ôl yn y Ddeddf Iaith gyfredol. Mae’r gwaith rydym yn ei wneud i ddod ag amrediad eang o gyrff o dan gwmpas y Ddeddf am y tro cyntaf yn tanlinellu’r pwynt hwnnw’n glir.

Rhestrir y cyrff rydym yn ymgynghori â nhw isod:
Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol
Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
Banc Lloegr
Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Comisiwn Cystadleuaeth
Comisiwn Datblygu Cynaladwy
Comisiwn Etholiadol
Comisiwn Hapchwarae
Comisiwn y Loteri Genedlaethol
Cronfa Loteri Fawr
Cyllid Cymru
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
Cyngor Datblygu Llaeth
Cyngor Defnyddwyr Dwr
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Optegol Cyffredinol
Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Cyngor Prydeinig
Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddiol Gofal Iechyd
FFORWM
NESTA (Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau)
OFCOM
Sefydliad Datblygu Cymunedol
Swyddfa Archwilio Cymru
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
UK Sport
Uned Ddata Llywodraeth Leol
Y Post Brenhinol ccc
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Ymddiriedolaeth Carbon

Cynghorau Sgiliau Sector x 25
Cogent
Cyngor Sgiliau Gwasanaethau Ariannol
Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
Dysgu Gydol Oes
e-sgiliau
Go Skills  
Improve  
Lantra
Pobl yn 1af
Proskills  
SEMTA  
Sgiliau Adeiladu
Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder
Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu
Sgiliau ar gyfer Iechyd
Sgiliau ar gyfer Logisteg
Sgiliau Asset
Sgiliau Llywodraeth
Sgiliau Modurol
Sgiliau Ynni a Chyfleustodau
Skillfast  
SkillsActive  
Skillset
Skillsmart
Summit Skills