Skip to content

Ysgrifenedig - Datganiad Ysgrifenedig Mewn Ymateb I Adroddiad Y Pwyllgor Iechyd A Gwasanaethau Cymdeithasol Ynglŷn Â’r Adolygiad O’r Gwasanaethau Canser I Bobl Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diben: Cyflwyno ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adolygiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o Wasanaethau Canser i Bobl Cymru.

Mae’r ymatebion i argymhellion yr adroddiad yn cael eu nodi isod. Mae’r argymhellion yn dilyn yr un penawdau a rhifau ag sydd yn yr adroddiad.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â’r Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser, ffurfio cynllun gweithredu brys i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiadau blaenorol y Grŵp y mae wedi eu derbyn. Dylai gynnwys:
1.i. sicrhau arian ar gyfer cael offer radiotherapi newydd er mwyn sicrhau y caiff ei ddarparu ar amser;

Derbyn mewn egwyddor. Yng ngoleuni adroddiad y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser, Radiotherapy Equipment Needs and Workforce Implications 2006 – 2016, disgwylir y bydd Rhwydweithiau Canser yn llunio ac yn gweithredu strategaethau comisiynu ar gyfer gwasanaethau radiotherapi. Fel rhan o Raglen Moderneiddio Cymru Gyfan mae Llywodraeth y Cynulliad  yn sicrhau bod offer radiotherapi yn gwbl gyfoes a bod gallu’n cael ei gynyddu yn y maes yn unol â’r strategaethau comisiynu hynny er mwyn lleihau cyfnodau aros i gleifion.

Mae mynediad at driniaeth radiotherapi yn cael ei wella ar hyn o bryd trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau ac offer newydd. Yn fuan bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn ymestyn ei allu trwy fod â chwe chyflymydd llinellol yn lle pump; mae pedwerydd cyflymydd llinellol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd ac mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych yn datblygu cynlluniau i ddiweddaru ei offer radiotherapi. Trwy’r Rhwydwaith Canser, bydd angen i gomisiynwyr weithio gyda’u canolfan radiotherapi i sicrhau bod staff digonol ar gyfer yr offer newydd a bod gwaith yn cael ei wneud i benderfynu pa mor ddichonadwy fydd ymestyn y diwrnod gwaith, gan leihau’r cyfnodau aros ymhellach eto.  

Goblygiadau ariannol: Mae’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn buddsoddi mewn cyfleusterau ac offer newydd ledled Cymru, a bydd angen i Rwydweithiau lunio a gweithredu strategaethau comisiynu ar gyfer y gwasanaethau hyn.


Mae’r Pwyllgor yn argymell  :
1.ii. sicrhau gweithlu sefydlog.


Derbyn. Yr ydym yn cefnogi barn y Pwyllgor ei bod yn hanfodol cael gweithlu cymwys, sefydlog er mwyn cyflawni gofynion gofal pobl sydd â chanser. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn rhaglen hyfforddiant endosgopi er mwyn sicrhau bod nifer digonol o weithwyr proffesiynol i gyflawni gweithgareddau endosgopi. Mae’r Uned Datblygu Gweithlu yn aelod o Weithlu Canser a Grŵp Hyfforddi y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser. Mae’n gweithio’n agos gyda’r grŵp hwn er mwyn canfod anghenion y gweithlu o safbwynt addysg a hyfforddiant fel y gellir hybu sefydlogrwydd, gan ddefnyddio cymysgedd priodol o sgiliau gyda’r ystod o gymwyseddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni anghenion holistig pobl sydd â chanser.  

Goblygiadau ariannol: Mae arian yn cael ei ddarparu i sefydlu rhwydwaith hyfforddiant endosgopi. Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu bodloni drwy gyllidebau addysg ac hyfforddiant cyfredol yr Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd Lleol.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Argymhelliad 2
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried defnyddio cymhellion fel bwrsarïau hyfforddi ar gyfer staff arbenigol sy’n cytuno i weithio yng Nghymru am gyfnod ar ôl cymhwyso.  

Derbyn yn rhannol. Er ein bod yn derbyn bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru roi anogaeth i hyfforddiant arbenigol yng Nghymru a chael budd o’r buddsoddiad a wneir mewn hyfforddi staff, un ffodd yn unig o gyflawni hynny yw darparu bwrsarïau. Byddai’n rhaid i hybu sefydlogrwydd y gweithlu (gweler Argymhelliad 1) fod ochr yn ochr ag opsiwn o annog pobl i dderbyn hyfforddiant arbenigol trwy gynnig bwrsarïau hyfforddi tymor byr. Bydd yn rhaid edrych ar ofynion penodol cymwysterau ôl broffesiynol ac unrhyw opsiynau posibl eraill cyn i’r cymhellion ychwanegol gael eu cynnig.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu bodloni drwy gyllidebau addysg ac hyfforddiant cyfredol yr Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd Lleol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes yn ariannu bwrsarïau i fyfyrwyr ar gyfer addysg cyn-gofrestru drwy ddefnyddio arian o’r gyllideb comisiynu addysg a hyfforddiant.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau y caiff y gwasanaeth nyrsio ysgol ei ehangu a’i gryfhau yn ôl yr angen er mwyn galluogi nyrsys ysgol i chwarae rhan fwy wrth hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.
 

Derbyn. Yn dilyn trafodaeth gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Blant a Phobl Ifanc, sefydlwyd grŵp ar draws Llywodraeth y Cynulliad i gyd er mwyn datblygu consensws cenedlaethol ynglŷn â swyddogaeth nyrsys ysgol ac er mwyn llunio cynllun gweithredu er mwyn hybu gwasanaeth nyrsio ysgol modern yng Nghymru. Mae’r Grŵp wedi casglu tystiolaeth ar wahanol fodelau o nyrsio mewn ysgolion ac mae’r dystiolaeth hon yn cael ei dwyn ynghyd er mwyn ymgynghori’n helaeth. Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau byddwn mewn sefyllfa i wybod beth yw’r goblygiadau i’r gweithlu mewn perthynas â nifer y nyrsys ysgol sydd eu hangen a’r gymysgedd angenrheidiol o sgiliau.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen ystyried y rhain fel rhan o’r broses ymgynghori.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Argymhelliad 4
Wrth ddatblygu ei hadolygiad o gomisiynu gwasanaethau canser, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru:

4.i. ystyried y ffaith y dylid comisiynu gwasanaethau canser yn lleol, yn rhanbarthol (rhwydwaith) neu’n genedlaethol, ac mae’n bosibl y bydd pob un o’r rhain yn briodol ar gyfer rhai agweddau ar y gwasanaeth;


Derbyn - Ar hyn o bryd, mae Byrddau Iechyd Lleol yn comisiynu gwasanaethau lleol, ac mae gan Gomisiwn Iechyd Cymru swyddogaeth genedlaethol. Mae’r sefydliadau hyn yn dod ynghyd trwy 3 Rhwydwaith Canser. Mae canllawiau comisiynu newydd yn cydnabod yr angen i Fyrddau Iechyd Lleol gydweithio ar sail ranbarthol.

Goblygiadau ariannol: Mae’r trefniadau comisiynu newydd yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau’r gyllideb fwyaf posibl, yn hytrach na chreu baich ariannol ychwanegol.

4.ii. sicrhau bod eglurder a thryloywder o ran sut y caiff y gwasanaethau eu comisiynu. Yn unol â’r casgliadau uchod, dylai hyn gynnwys y lefel y caiff gwasanaethau gwahanol, penodol eu comisiynu a dylai’r wybodaeth fod ar gael i’r cyhoedd yn hawdd. Dylai fod mwy o eglurder o ran rôl Comisiwn Iechyd Cymru yn y broses hon.  

Derbyn – Roedd y rheoliadau’n dosbarthu cyfrifoldebau rhwng Byrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru. I gefnogi’r rheoliadau, mae’r Rhwydweithiau Canser wedi gwneud gwaith manwl. Wrth ddatblygu comisiynu rhanbarthol, bydd nifer y cyrff y bydd yn rhaid i Gomisiwn Iechyd Cymru ryng-gysylltu’n agos gyda hwy ostwng o 22 i 3, a rhoddir sylw arbennig i sicrhau bod comisiynu canser yn cael ei atgyfnerthu ar draws y llwybr gofal.

Goblygiadau ariannol: Gweler argymhelliad 4.1.

4.iii. Sicrhau bod gan  gomisiynwyr ar bob lefel yr adnoddau i weithio tuag at fodloni’r Safonau Canser Cenedlaethol erbyn 2009.

Derbyn.   Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dweud yn gyson bod delio â chanser yn un o’n prif flaenoriaethau iechyd. Ond mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau posibl o’r cyllid cyfredol. Mae canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005 (WHC (2005) 51) yn cydnabod y bydd yn rhaid i’r Safonau Canser Cenedlaethol gael eu gweithredu, yn bennaf trwy ailgyfeirio adnoddau sydd eisoes wedi cael eu dyrannu i gomisiynwyr. Dylid nodi bod y rhan fwyaf o’r adnoddau er mwyn cyflawni’r Safonau Canser wedi cael eu dosbarthu eisoes i Fyrddau Iechyd Lleol ac i Gomisiwn Iechyd Cymru yn eu dyraniadau refeniw dewisol.  Gwariwyd £266 miliwn i drin canser yn 2005-06 (Ffynhonnell: ffurflenni cyllideb rhaglenni Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru). Lle bo angen gwaith ychwanegol bydd angen dod o hyd i arian ychwanegol ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys cyflwyno sgriniau ar gyfer canser y coluddyn, cynyddu gallu offer radiotherapi, cefnogaeth i sefydliadau hosbis ac yn fwy diweddar, datblygu gwasanaethau brachytherapy dos isel ar gyfer Cymru. Yn ychwanegol at hyn gwneuthum gyhoeddiad i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Tachwedd  2006 y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ryddhau o 2007-08 ymlaen, er mwyn cefnogi gweithredu argymhellion adolygiad canser y Pwyllgor.

Disgwylir y bydd comisiynwyr yn gallu cwrdd â chostau cyffuriau newydd, yn arbennig ar gyfer trin canser. Mae dyraniad refeniw 2007-08 Bwrdd Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru (a ddosbarthwyd ar 19 Rhagfyr 2006 WHC (2006) 88), yn rhestru’r trefniadau ar gyfer rheoli’r costau hyn. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan broses gyflymach newydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan o werthuso cyffuriau.  

Goblygiadau ariannol: Disgwylir i’r Safonau Canser Cenedlaethol gael eu gweithredu drwy ddefnyddio dyraniadau cyfredol y GIG. Mae’r Gweinidog wedi nodi y bydd rhywfaint o arian ychwanegol ar gael i ymateb i’r materion a godwyd yn adolygiad y Pwyllgor.


4.iv. Sicrhau bod ymddiriedolaethau’r GIG yn dilyn penderfyniadau strategol y rhwydweithiau Canser, yn hytrach na fel arall.  

Derbyn mewn egwyddor – y bwriad sydd y tu ôl i’r canllawiau comisiynu newydd yw atgyfnerthu rôl a swyddogaeth rhwydweithiau fel prif ffynhonnell cyngor i gomisiynwyr ynglŷn â’r ffordd y mae safonau ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys canser, i gael eu cyflawni o fewn eu heconomi iechyd.

Goblygiadau ariannol: Dim.


4.v. Cydnabod, o ran yr agweddau sylfaenol ar driniaethau canser (llawdriniaeth, radiotherapi, cemotherapi a mathau eraill o driniaethau sy’n defnyddio cyffuriau), byddai comisiynu ar lefel lai na’r lefel ranbarthol yn tanseilio gallu’r rhwydweithiau canser ymhellach i weithio’n effeithiol.  

Derbyn mewn egwyddor - Gan gydnabod y pwynt sy’n cael ei wneud yn argymhellion  4.i a 4.iv - bod yn rhaid ymgymryd â chomisiynu ar lefel briodol ac y bydd rhwydweithiau yn cynghori ynglŷn â’r broses gomisiynu ranbarthol - mae rôl holl bwysig i’r Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser yn gweithio ar lefel Cymru gyfan a’r rhwydweithiau rhanbarthol, mewn cynghori sut y bydd comisiynwyr yn sicrhau bod y buddsoddiad yn un priodol, a bydd hynny’n cael ei gydnabod yn y canllawiau comisiynu.

Goblygiadau ariannol: Gweler argymhelliad 4.1.


4.vi. Cydnabod bod angen cynnal gwaith comisiynu ar gyfer offer radiotherapi, cyffuriau cost uchel a llawdriniaeth arbenigol yn genedlaethol, o bosibl gan gonsortiwm bwrdd iechyd lleol rhanbarthol gyda phrosesau gwneud penderfyniadau clir a chyda chymorth cynlluniau rhwydweithiau canser.

Derbyn mewn egwyddor  - Mae’n rhaid i’r comisiynu ar gyfer eitemau mawr gael ei reoli ar gyfer poblogaeth fwy; bydd swyddogaeth gymharol comisiynu cenedlaethol a rhanbarthol yn cael ei hadolygu wrth i’r ail ohonynt ddatblygu dros y flwyddyn i ddod.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu hystyried wrth lunio’r canllawiau ar gomisiynu.


4.vii. Derbyn y dylai comisiynu ar lefel ranbarthol adeiladu ar arbenigedd y tri rhwydwaith canser, gyda chymorth y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser. Dylai’r tri rhwydwaith gael fwy o ymreolaeth gan y byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG y daw eu haelodau ohonynt a dylai fod ganddynt fandad i’w galluogi i wneud penderfyniadau, monitro contractau a bod yn atebol i’r rhanbarth yn gyffredinol.

Derbyn mewn egwyddor - Yn sicr y nod yw gwneud gwell defnydd o arbenigedd y rhwydweithiau; ond mae pryder bydd rhoi mwy o ymreolaeth iddynt yn cymylu atebolrwydd y cyrff statudol presennol ac yn creu mwy o gymhlethdod. Yn hytrach, fel y dywedir, y bwriad yw rhoi rôl fwy eglur iddynt mewn perthynas â chynghori ynglŷn â chomisiynu, yn yr ystyr ehangach o sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu anghenion a ddynodir ar gyfer cleifion a’r gofynion a nodir yn y Safonau Canser cenedlaethol.  

Goblygiadau ariannol: Dim.


4.viii. Sicrhau, ar bob lefel, ei fod yn ofynnol i’r comisiynwyr ymgynghori â darparwyr gwasanaethau priodol yn y sector statudol, gwirfoddol a phreifat, cynrychiolwyr cleifion, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol. Dylai’r comisiynu lleol ar y cyd fod yn ofynnol ar lefel leol.

Derbyn – Mae gan gomisiynwyr lleol – awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol – gyfrifoldeb i ymgynghori’n eang ynglŷn â’u strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, a fydd yn cwmpasu ystod lawn eu gwasanaethau canser. Yng nghyd-destun y canllawiau comisiynu newydd, bydd swyddogaeth bosibl y strategaethau comisiynu yn cael eu harchwilio, ac mae gwasanaethau canser, oherwydd eu nodweddion penodol, yn un maes y bydd yn rhaid eu hystyried ar wahân o fewn y broses honno.

Goblygiadau ariannol: Dim.


Argymhelliad 5
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ariannu a hyrwyddo datblygiad System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC). Dylai hyn gynnwys:

5.i. amserlen frys, sydd hefyd yn glir, ar gyfer ymgorffori gofal sylfaenol, gwasanaeth y tu allan i oriau, a gofal lliniarol;  

Derbyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu cyllid canolog rheolaidd i Hysbysu Gofal Iechyd ar gyfer datblygu a darparu gofynion cytunedig am wybodaeth i gefnogi a hyrwyddo gofal am gleifion sydd â chanser. Mae gwaith i ddynodi pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofal sylfaenol a gofal lliniarol  yn rhan o’r gwaith hwnnw.  Bydd amserlen ffurfiol yn cael ei datblygu.  

Goblygiadau ariannol: Darperir cyllid i Hysbysu Gofal Iechyd drwy eu Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Cynulliad.

5.ii. mesurau i ddiogelu cyfrinachedd cleifion; a

Derbyn. Mae’r mesurau diogelwch sy’n cael eu gweithredu gan Hysbysu Gofal Iechyd o fewn systemau yng Nghymru wedi cael eu cynllunio’n benodol i ddarparu lefel uchel o reolaeth dros ddiogelwch a gwybodaeth. Dylid gweithredu’r fframwaith diogelwch hwn fel rhan o’r ateb a gynigir.

Goblygiadau ariannol: Dim.


5.iii. codi proffil CaNISC o fewn byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd gwladol drwy ddynodi ‘hyrwyddwr’ CaNISC ar y bwrdd a’i gwneud yn ofynnol bod pob bwrdd iechyd lleol ac ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol yn rhoi’r cyfrifoldeb i reolwr uwch o hyrwyddo CaNISC i staff arbenigol drwy sicrhau cymorth a hyfforddiant i ddiwallu anghenion unigol.

Derbyn. Mae gan Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol eisoes rôl weithredol arweiniol ar gyfer canser. Mae’r arweinyddion gweithredol hyn, ynghyd â Rheolwyr Canser yr ymddiriedolaethau a staff y Rhwydwaith Canser i gyd mewn sefyllfa ardderchog i hyrwyddo gwybodaeth am ganser.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu bodloni drwy gyllidebau cyfredol yr Ymddiriedolaethau a’r Byrddau Iechyd Lleol.


Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth yr Alban a chyrff perthnasol eraill, geisio sefydlu protocol ar gyfer arfarnu cyffuriau a thriniaethau newydd a fydd yn cyflymu’r broses ac yn atal disgwyliadau afresymol ac anhyddysg o ran y cyhoedd. Os byddai angen, gallai archwilio’r dichonoldeb o gydweithredu â Chonsortiwm Meddyginiaethau’r Alban er mwyn rhannu arbenigedd
.

Derbyn.  Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori ynglŷn â’r ystyriaethau strategol sy’n ymwneud â rheoli meddyginiaethau, gan gynnwys cymeradwyo meddyginiaethau newydd a’r goblygiadau cost sy’n gysylltiedig â sicrhau bod y meddyginiaethau hynny ar gael yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae proses werthuso AWMSG wedi canolbwyntio ar feddyginiaethau cost uchel (hynny yw rhai sy’n costio dros £2000 y flwyddyn ar gyfer pob claf).

Mae sgôp cyfyngedig proses werthuso AWMSG wedi cael ei chydnabod.  
O Ebrill 2007, bydd AWMSG yn cynyddu ei allu i werthuso hyd at gyfanswm o 32 meddyginiaeth newydd (neu o feddyginiaethau presennol sydd wedi newid yn sylweddol) bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso meddyginiaethau newydd ar gyfer y galon ac ar gyfer canser yn ogystal â meddyginiaethau cost uchel.  

Datblygwyd proses werthuso AWMSG yn 2002 a chafodd ei datblygu gan edrych ar sefydliadau eraill megis Consortiwm Meddyginiaethau’r Alban  (SMC). Bwriedir ffurfio is-bwyllgor AWMSG newydd, sef y Grŵp Meddyginiaethau Newydd a fydd yn gwneud y gwerthusiad manwl o feddyginiaethau newydd ac yn rhoi cyngor i AWMSG.  
Bydd y rhaglen waith AWMSG yn parhau i ategu gwaith y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol  ( NICE).  Bydd yn ystyried rhaglen NICE at y dyfodol, gan gynnwys y broses Asesiad Trac Sengl, cyn cynnwys unrhyw gynnyrch i gael ei werthuso. Bydd canllawiau’r AWMSG yn dal i gael eu hystyried fel rhai dros dro cyn derbyn rhai NICE, pe bai NICE yn cyhoeddi canllawiau yn y dyfodol. Yn arferol, ni fydd AWMSG yn ystyried gwerthuso cynhyrchion os yw NICE yn bwriadu cyhoeddi gwerthusiad terfynol o’r un cynnyrch o fewn 18 mis. Mewn perthynas â chyffuriau canser newydd, mae Grŵp Cyffuriau Newydd Canser yn cael ei sefydlu gan y Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser. Bydd y grŵp hwn yn cynghori AWMSG ynglŷn â chyffuriau canser newydd sydd wedi eu trwyddedu ac a ystyrir yn flaenoriaeth glinigol y dylid eu gwerthuso trwy lwybr carlam.

Pe byddai’r broses Gwerthuso Technoleg Sengl  NICE newydd yn golygu na wneir defnydd llawn o allu AWMSG i werthuso, yna bydd gorchwyl AWMSG o werthuso yn cael ei adolygu a’i ymestyn i feysydd therapiwtig eraill. Bydd gweithredu’n raddol fel hyn wrth gynyddu nifer y gwerthusiadau a wneir yng Nghymru (hynny yw cyffuriau canser a’r galon yn gyntaf) yn eu gwneud yn bosibl i’r broses werthuso newydd gael ei phwyso a’i mesur cyn bod unrhyw ddatblygiad posibl pellach.  

Sefydlwyd strategaeth gyfathrebu a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r broses newydd ac i leihau unrhyw ddisgwyliadau afresymol neu anwybodus gan y cyhoedd.

Goblygiadau ariannol: Cytunwyd i ddarparu £140,000 ar gyfer 2007-08, ac uchafswm o £30,000 ychwanegol i’w wario yn ôl y gofyn ar ddiwedd 2006-07 er mwyn recriwtio fferyllydd ychwanegol.

Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud adolygiad o’r ffordd y caiff gwybodaeth am gyffuriau a thriniaethau newydd eu cyfathrebu i glinigwyr, y cyfryngau a’r cyhoedd. Dylid rhoi canllawiau i glinigwyr ar sut mae trafod ac esbonio’r dewisiadau a’r penderfyniadau o safbwynt rhoi presgripsiynau orau gyda’u cleifion.  

Derbyn. Bydd y Cynllun Gweithredu Cyfathrebu a ddatblygwyd i godi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau mewn perthynas â chyflwyno cyffuriau newydd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ymhlith clinigwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill, yn anelu hefyd at sicrhau bod cysondeb yn y neges a roddir i gleifion ac i’w teuluoedd.  

Goblygiadau ariannol: Dim.


Argymhelliad 8
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd â’r byrddau iechyd lleol, adolygu’r trefniadau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ar gyfer rheoli gofynion annisgwyl.

Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl i sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol reoli’r pwysau mwyaf annisgwyl yn ystod y flwyddyn o fewn eu cyllid dewisol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y cyd â sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynnal adolygiad blynyddol o’r pwysau a ragwelir yn ystod y blynyddoedd ariannol dilynol. Mae’r trefniadau ar gyfer rheoli’r pwysau hyn yn cael eu rhestru yn y Cytundeb Cyllid Cenedlaethol, sy’n cael ei gyhoeddi gyda dyraniadau refeniw y Byrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru.  

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried a oes angen datblygu canllawiau pellach mewn cydweithrediad â sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddweud sut y dylent gynllunio ar gyfer pwysau annisgwyl. Gallai hyn gynnwys canllawiau ar sefydlu cronfeydd wrth gefn trwy beidio ag ymrwymo eu holl gyllid yn eu cynllun ariannol blynyddol.  

Trwy atgyfnerthu proses Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ar gyfer rheoli’r broses o gyflwyno meddyginiaethau i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ynghyd â’r Grŵp Cyffuriau Newydd Canser, bydd gwelliant yn y broses o sganio’r gorwel a bydd yn haws i sefydliadau gofal iechyd ragweld ynghynt pa gostau fydd yn pwyso. Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o Fyrddau Iechyd Lleol yn rhoi cronfa wrth gefn o’r neilltu ar gyfer meddyginiaethau newydd. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ymarferiad “rhagfynegi” sy’n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn gadael i’r Byrddau Iechyd Lleol wybod ymlaen llaw am unrhyw bwysau tebygol a achosir gan gyffuriau newydd.  

Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn darparu gwybodaeth i’r Byrddau Iechyd Lleol ynglŷn â chostau tebygol cyffuriau newydd, ar sail ffactorau megis poblogaeth a nifer achosion, unwaith ein bod yn gwybod beth fydd cost debygol y cyffur.

Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol ychwanegol.


Argymhelliad  9
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod elusennau canser a chyrff sy’n bartneriaid yn cynllunio ar y cyd er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o’r holl adnoddau sydd ar gael o fewn llwybr y cleifion â chanser.

Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu llwybrau gofal priodol i sicrhau bod gofal a chynhaliaeth yn cael ei ddarparu trwy integreiddio gwasanaethau yn well ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol. Mae cynlluniau’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd er mwyn cwmpasu’r dystiolaeth ehangach ac effaith llwybrau gofal, datblygu rhaglen o lwybrau gofal ar draws Cymru a gwerthuso eu heffeithiolrwydd. Allwedd arall i sicrhau dull mwy llyfn a di-dor o ddarparu gofal yw atgyfnerthu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol mewn gofal iechyd gan gynnwys y sector gwirfoddol, trwy’r Rhwydweithiau Canser.

Goblygiadau ariannol: Dim.
 

Argymhelliad 10
Yn unol â chanllawiau y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar ofal cefnogol a lliniarol dylid sicrhau’r canlynol:

10.i. bod pob claf yn cael y cynnig o gael pecyn adsefydlu a gofal cynhwysfawr fel a amlinellir uchod adeg y diagnosis. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth ar y prognosis a’r driniaeth; adsefydlu a maetheg. Dylid hefyd cynnwys cymorth seicolegol/ysbrydol/emosiynol. Dylid adolygu’r pecyn yn rheolaidd, yn enwedig ar ddiwedd y driniaeth.


Derbyn. Mae polisi Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer gofal lliniarol yn cael ei nodi yn Cyfeiriad Strategol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Lliniarol yng Nghymru , a gyhoeddwyd yn  2003, ac mae hyn yn tanlinellu’r angen am ystyried asesiad priodol o anghenion clinigol, diwylliannol, cymdeithasol a seicolegol fel rhan o ofal llawn y claf. Mae’r Safonau Canser Cenedlaethol sy’n cynnwys safonau ar gyfer Gofal Lliniarol Arbenigol yn rhoi ystyriaeth i ganllawiau NICE ar gyfer gofal cynhaliol a lliniarol. Maent yn mynnu’n benodol fod y ddarpariaeth a roddir yn ddarpariaeth gyfannol. Mae hynny’n golygu cwmpasu cefnogaeth gorfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol gyda chymysgedd eang o sgiliau gan gynnwys sgiliau meddygol, gofal nyrsio, gwaith cymdeithasol, gofal bugeiliol ac ysbrydol, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a fferyllol. Mae’n cydnabod y bydd angen gofal lliniarol ar rai cleifion o’r adeg y cânt eu diagnosis. Mae angen cynllunio gofal cleifion sydd â salwch hirdymor a salwch cronig yn ofalus iawn a rheoli eu gofal gan gynnwys eu gofal lliniarol fel rhan o ddull integredig o reoli clefydau cronig.    

Goblygiadau ariannol: Ni ddylai fod unrhyw goblygiadau ariannol. Mae’r cyllid ar gyfer y pecyn gofal llawn eisoes yn rhan o ddyraniadau’r Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau.


10.ii. bod pob claf yn cael gwybodaeth glir am gymorth ariannol a budd-daliadau, cyflogaeth a hawliau eraill.

Derbyn.  Mae’r Safonau Canser Cenedlaethol yn mynnu bod cleifion yn cael cyngor ynglŷn â’r budd-daliadau y gallai fod ganddynt hawl i’w derbyn. Mae’r Safonau’n nodi y dylai’r tîm gofal lliniarol arbenigol gynnwys gweithiwr cymdeithasol neu aelod arall o staff a allai ddarparu cyngor priodol ynglŷn â budd-daliadau. Bydd datblygu’r strategaeth gwybodaeth canser, prosiect sy’n cael ei gyllido gan Gefnogaeth Canser Macmillan, yn helpu i restru’r arferion gorau er mwyn helpu i gefnogi gweithrediad yr agweddau hyn ar Safonau Canser Cenedlaethol.

Goblygiadau ariannol: Gweler argymhelliad 10.1.


10.iii. bod pob claf â gweithiwr allweddol penodedig fel man cyswllt iddynt hwy a’u gofal(wyr)

Derbyn. Cyhoeddwyd canllawiau ym mis Ebrill 2002, o dan y teitl ‘Creu System Deg ac Unedig i Asesu a Rheoli Gofal’. Yr enw cyffredin ar hyn yw’r Broses Asesu Unedig. Mae’r Canllawiau’n gymwys i Wasanaethau Cymdeithasol Iechyd ac Awdurdodau Lleol ac maent yn gwneud darpariaeth i asiantaethau lleol, mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth, enwebu un gweithiwr proffesiynol fel cydgysylltydd gofal ar gyfer asesiad a’r cynllunio gofal diweddarach. Byddai’r gweithiwr proffesiynol yn dilyn dull cyfannol o weithredu a byddai’n ffocws i gyfathrebu rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol. Yn bwysicach byth byddai’n ceisio gweithio gyda’r defnyddiwr gwasanaeth a’r gofalwyr pennaf. Mae’r ddogfen Cyfeiriad Strategol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Lliniarol yng Nghymru yn nodi’r mater hwn ac yn dweud y dylai fod llwybrau ar gael ar gyfer gofal eilaidd a thrydyddol gan gynnwys proses asesiad unedig. Bydd angen i’r Rhwydweithiau Canser Rhanbarthol sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drin yn gyson ym mhob rhan o Gymru.

Goblygiadau ariannol: Gweler argymhelliad 10.1.

Argymhelliad 11
Dylid nodi’r gofalwyr pan fydd y cleifion yn dechrau ar eu triniaeth, a dylid asesu a chynllunio’u hangen am gymorth.
 

Derbyn. Mae’r canllawiau ar y Broses Asesu Unedig yn mynnu bod yr asiantaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn archwilio anghenion y gofalwyr o gychwyn cyntaf y broses asesu. Nid oes angen na dymuniad gan bob gofalwr am ymyriad gan asiantaethau statudol. Mewn llawer o achosion mae’n bosibl y gellir adnabod anghenion y gofalwyr am gynhaliaeth heb orfod dod â’r asiantaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac eraill i’r pictiwr. Rhaid i’r llwybr gofal canser sicrhau ei fod yn fodel cwbl integredig sy’n gallu manteisio ar wahanol safbwyntiau a chryfderau’r gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r gymuned ehangach.  

Goblygiadau ariannol: Gweler argymhelliad 10.1.

Argymhelliad 12
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu’r Cynllun Costau Teithio i Ysbytai.
 

Derbyn. - Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried eto a ddylid ymestyn y Cynllun Costau Teithio i Ysbytai gan gynnwys triniaeth gofal eilaidd mewn sefydliad gofal sylfaenol ac yn ystyried sut y gallwn godi ymwybyddiaeth o’r cynllun ymhlith cleifion. Ond nid ydym yn bwriadu ailedrych ar y meini prawf cymhwysedd sy’n seiliedig ar incwm yn hytrach nag ar unrhyw salwch neu gyflwr penodol.

Mae canser yn cael ei ystyried yn gyflwr penodol ac felly nid yw’n dod o dan y trefniadau cludiant brys i gleifion. Yn ddiweddar gwnaeth Cymru adolygiad o wasanaethau cludiant cleifion sydd ddim yn achosion brys ac mae meini prawf diwygiedig wedi cael eu dosbarthu i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar gyfer penderfynu a oes gan glaf angen meddygol am drafnidiaeth brys.  

Mae’r newidiadau’n golygu bod cleifion canser yn cael eu diffinio ymhlith rhai sydd ag angen meddygol am gefnogaeth ambiwlans a byddant yn awr yn gallu cael gwasanaeth cludiant i gleifion yn ddi-dâl.  Mae’r meini prawf diwygiedig yn gymwys ar gyfer teithiau i gleifion yng Nghymru a’r daith gyntaf i ysbytai yn Lloegr.

Goblygiadau ariannol: Mae cyllideb canolog ar gyfer ad-dalu costau teithio o dan y Cynllun Costau Teithio i Ysbytai.

Argymhelliad 13
Dylid datblygu rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal canser ac adsefydlu fel bod arbenigedd ar gael mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, ac mae llwybr gyrfa wedi’i ddiffinio ar gyfer annog gweithwyr proffesiynol perthynol i arbenigo mewn gofal canser.

Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi datblygu swyddogaethau proffesiynol i bob grŵp proffesiynol fel bod modd rhoi gofal effeithiol ym mhob cam o lwybr gofal y claf. Bydd cyflwyno Moderneiddio Gyrfaoedd Gofal Iechyd yn hybu hyblygrwydd mewn dilyniant gyrfaol ac yn sicrhau y gall rhaglenni addysg aml broffesiwn fod ar gael i bob proffesiwn, a fydd yn arbenigo mewn meysydd penodol o ofal gan gynnwys gofal canser. Dylai pob rhaglen cyn gofrestru ac ôl gofrestru sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gallu darparu gofal mewn sefydliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae’r holl addysg a gomisiynir yn cael ei fonitro o ran addasrwydd i’w bwrpas.

Goblygiadau ariannol: Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ariannu addysg cyn-gofrestru ar gyfer proffesiynau perthynol i iechyd ar hyn o bryd. Caiff rhaglenni i’r rheini sydd wedi cofrestru eu hariannu drwy Ymddiriedolaethau’r GIG a/neu’r Byrddau Iechyd Lleol. Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu bodloni drwy’r cyllidebau addysg ac hyfforddiant cyfredol.


Argymhelliad 14
Dylai’r Grŵp Cyd-drefnu Canser ddynodi arferion da ym maes gofal canser ac adsefydlu a’i ledaenu i ymarferwyr ledled Cymru.

Derbyn.  Mae adsefydlu cleifion yn rhan integral o’r gofal a’r driniaeth y dylai cleifion allu disgwyl ei derbyn ac mae angen ei ddarparu yn gyfartal ym mhob rhan o Gymru. Bydd gofynion manwl ynglŷn â’r rhan yma o becyn gofal y cleifion yn cael ei ddatblygu fel rhan o’r Safonau Canser Cenedlaethol.

Goblygiadau ariannol: Disgwylir i’r Safonau Canser Cenedlaethol gael eu gweithredu drwy ddefnyddio dyraniadau cyfredol y GIG. Mae’r Gweinidog wedi nodi y bydd rhywfaint o arian ychwanegol ar gael i ymateb i’r materion a godwyd yn adolygiad y Pwyllgor.


Argymhelliad 15
Dylai byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r gwasanaeth iechyd gwladol gydweithio ag amrediad o gyrff y sector gwirfoddol gyda’r bwriad o fod yn gysylltiedig â darparu gwybodaeth a chymorth i gleifion a gofalwyr.

Derbyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod yn llwyr y rôl werthfawr sydd gan y sector gwirfoddol mewn diwallu anghenion cleifion. Rwy’n disgwyl i’r sectorau statudol a gwirfoddol weithio gyda’i gilydd trwy’r Rhwydweithiau Canser i gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau mewn ffordd integredig. Mae datblygu’r strategaeth gwybodaeth cleifion, sy’n cael ei gyllido gan Gefnogaeth Canser Macmillan yn enghraifft ardderchog o weithio gyda’r sector  gwirfoddol a bydd canlyniad y gwaith hwn yn helpu i nodi’n benodol beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r sector gwirfoddol i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion.

Goblygiadau ariannol: Dim.

Argymhelliad 16
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gydweithio â’r gwasanaeth iechyd gwladol a’r sector gwirfoddol i wneud y canlynol:

16.i. sicrhau bod modelau gwasanaeth a phartneriaethau, gan gynnwys y cysyniad o gael ‘hosbis yn y cartref’, yn adlewyrchu’r arferion gorau mewn ardaloedd eraill;  

Derbyn. Fel y nodir yn yr ymatebion i argymhellion 14 a 16.iv, mae’r Safonau Canser Cenedlaethol, sy’n cynnwys gofal lliniarol arbenigol a chanllawiau NICE ‘Gwella Gofal Cynhaliol a Lliniarol’ yn gosod modelau o ofal y dylid eu defnyddio gyda mathau eraill o salwch heblaw canser. Mewn perthynas â gofal diwedd oes rydym wedi cyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru sy’n cymeradwyo’r Llwybr Gofal Cymru Gyfan ar gyfer Dyddiau Olaf Bywyd ac rydym yn cydnabod yr angen i bobl gael dewis ym mhle y maent eisiau marw.

Goblygiadau ariannol: Mae’r cyllid ar gyfer bodloni’r gofyniad hwn eisoes yn rhan o ddyraniadau cyfredol y Byrddau Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaethau.


16.ii. gwneud cyllid yn fwy sefydlog sy’n adlewyrchu’n fwy cytbwys faint o wasanaethau y mae’r sector yn eu darparu, y byddent fel arall yn troi’n gyfrifoldeb i’r gwasanaeth iechyd gwladol, ac mae hynny’n seiliedig ar werthusiad strategol y bwrdd iechyd lleol o angen, a thystiolaeth o allu’r mudiad hosbisau i ddarparu gwasanaethau. Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod £2 filiwn yn cael ei rhoi i hosbisau mae angen fformiwlâu cadarn i’w dosbarthu’n effeithiol a theg a fydd, yn y pen draw, yn gwella gofal am gleifion yng Nghymru.

Derbyn.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgwyl y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn asesu’r anghenion iechyd lleol, gan gynnwys yr angen am olaf lliniarol ac yn gweithio gyda’i holl bartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol i gomisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel i gyflawni’r angen hwnnw. Bydd darparu £2 filiwn ychwanegol o arian refeniw rheolaidd ar gyfer gwasanaethau gofal lliniarol yn y sector gwirfoddol yn help i’r broses honno. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu ar sail canlyniad yr adolygiad gwaelodlin o wasanaethau ar gyfer gofal lliniarol.

Goblygiadau ariannol: Bydd £2 filiwn yn cael ei ddarparu’n rheolaidd i hosbisau o 2007-08 ymlaen.  


16.iii. Archwilio ffyrdd o symleiddio’r broses o gomisiynu gwasanaethau gofal lliniarol.  

Derbyn mewn egwyddor – Bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gomisiynu yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ystyried ffyrdd o gynnal darparwyr lleol sy’n cyflenwi gwasanaethau nad ydynt yn cyfateb yn dda i’w ffiniau daearyddol ac/neu sy’n darparu gwasanaethau a fyddai fel arall yn dibynnu ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd hyn hefyd yn fater y rhoddir sylw iddo yn y gwaith a nodir mewn ymateb i Argymhelliad 4viii.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu hystyried wrth lunio’r canllawiau ar gomisiynu.


16.iv. Sicrhau bod Safonau Canser Cymru yn cael eu bodloni erbyn 2009 a bod argymhellion dogfen strategaeth 2003 yn cael eu bodloni.

Derbyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datgan yn ffurfiol bod yn rhaid i’r Safonau Canser Cenedlaethol, gan gynnwys y safonau ar gyfer Gofal Lliniarol Arbenigol, gael eu cyflawni’n llawn erbyn Mawrth 2009.  Mae’r tri Rhwydwaith Canser wedi datblygu cynlluniau  gweithredu ar gyfer pob set o Safonau. Bydd Swyddfeydd Rhanbarthol yn monitro cynnydd y cynlluniau gweithredu hyn.

Goblygiadau ariannol: Bydd angen i unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol gael eu bodloni drwy gyllidebau cyfredol yr Ymddiriedolaethau a’r Byrddau Iechyd Lleol.


16.v. Darparu bod y cyllido’n digwydd dros gyfnod o dair blynedd gyda chytundeb lefel gwasanaeth ffurfiol rhwng y gwasanaeth iechyd gwladol a’r darparwr.  

Derbyn mewn egwyddor. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod gwerth rhoi mwy o eglurder i sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’u partneriaid ynglŷn â lefelau cyllid disgwyliedig dros gyfnod o dair blynedd. Rhaid cyflawni hynny o fewn cyd-destun prosesau gosod cyllideb y Cynulliad. Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn ymrwymedig i gyhoeddi amcanion tymor canol o dair blynedd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’w cyflawni erbyn   2011 (Ffynhonnell: Fframwaith Gweithredu Blynyddol WHC (2006) 87). Fel rhan o’r broses hon, byddir yn ystyried darparu rhagdybiaethau cynllunio ariannol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am y cyfnod,  i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r broses gynllunio tair blynedd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llwyr gefnogi’r angen am gytundebau lefel gwasanaeth ffurfiol rhwng sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a darparwyr eraill. Bydd canllawiau pellach ynglŷn â hyn yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r canllawiau comisiynu newydd.

Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol ychwanegol.