Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllidebau Awdurdodau’r Heddlu 2007-2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Drod Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwy’n ysgrifennu at bob awdurdod heddlu i ddweud beth oedd canlyniadau’r ymarferiad ymgynghori ynglŷn â’r egwyddorion o benderfynu a yw gofynion cyllideb awdurdod heddlu ar gyfer 2007-2008 yn ormodol.

Rwy’n siŵr yr hoffech wybod fy mod wedi derbyn dau ymateb i’r ymarferiad ymgynghori.

Nid oedd yr ymateb cyntaf, oddi wrth Glerc Awdurdod heddlu Dyfed Powys yn mynegi unrhyw wrthwynebiad, ond tynnai sylw at y ffaith nad oedd y derminoleg a ddefnyddiwyd i gyfeirio at dreth y cyngor yn yr egwyddorion drafft yn fanwl gywir. Yr oedd yr ail egwyddor ddrafft yn cyfeirio at “gynnydd o 5% ym mhraesept treth y cyngor ar eiddo Band D rhwng 2006/07 a 2007/08” yn hytrach na “chynnydd o 5% yn y dreth cyngor a godir ar eiddo Band D rhwng 2006/07 a 2007/08”.

Roedd yr ail ymateb, oddi wrth Gadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru’n gwrthwynebu cyhoeddi’r egwyddorion ac yn codi cwestiwn ynglŷn â’r rhagdybiaethau oedd wrth wraidd yr egwyddorion hyn.

Ar ôl ystyried yr ymateb yma, rwy’n dal i fod o’r farn bod yr egwyddorion a gynhwysir yn y ddogfen yn rhesymol ac felly, gyda’r newid bach technegol y cyfeirir ato dros y dudalen, dyma’r Egwyddorion y bwriadaf eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gael eu trafod yn y cyfarfod llawn cyn gynted ag y bo modd. Mae copi o’r egwyddorion diwygiedig ynghlwm.