Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu’r byd. Ni all geiriau cynnes na gwasgu dwylo gael trefn ar gynhesu byd-eang; dim ond trwy weithredu y gellir ei daclo. Nid problem amgylcheddol yn unig mohoni; mae iddo oblygiadau difrifol i’n heconomi a’n cymdeithas ac i les pob un ohonom sy’n byw yng Nghymru ac i bobl ledled y byd.
Bydd Cymru yn chwarae rhan gyflawn gyda mynd i’r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd ac addasu i’r newidiadau yn yr hinsawdd fydd yn digwydd beth bynnag a wnawn yn awr, oherwydd gweithgareddau a diofalwch y gorffennol. Mae hynny’n golygu gwneud cyfraniad priodol i darged y DU i leihau gollyngiadau carbon deuocsid o 60 y cant erbyn 2050—targed a ddaw yn un statudol gyda dyfodiad Mesur y Newid yn yr Hinsawdd, sydd i’w gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan maes o law.
Mae gwyddoniaeth y newid yn yr hinsawdd bellach mor sicr fel na ellir ei gwadu. Prif achos y newid yn yr hinsawdd yw cynnydd sydyn mewn gollyngiadau nwyon ty gwydr, carbon deuocsid yn bennaf, oherwydd gweithgareddau dyn. Yr unig ansicrwydd yw pa mor fawr ac enbyd y bydd y newid hwn. Wrth gwrs, mae carfan fach o wleidyddion ac un neu ddau o wyddonwyr yn anghytuno ynghylch yr hyn sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, hyd yn oed pe na byddem yn 100 y cant sicr mai dyn sy’n achosi cynhesu byd-eang, mae’r ateb yr un fath: rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch heddiw.
Nid yw hynny’n golygu y dylem anwybyddu cymeriad arbennig Cymru. Gwlad fach ydym gyda chrynodiad uchel o ffatrïoedd diwydiant trwm. Mae gan bob gwlad ei nodweddion gollyngiadau ei hun a bydd pob gwlad yn diffinio ei rôl ei hun gyda lleihau gollyngiadau carbon yn gyffredinol. Rhan ganolog o’n cyfraniad fydd gweithio ochr yn ochr â diwydiant a’r gollyngwyr mawr eraill i fod yn fwy ynni effeithlon a gwastraffu llai o ynni. Mae’n debyg mai effaith y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru fydd mwy o aeafau gwlyb stormus a hafau sych iawn. Gellid dadlau bod Cymru mewn sefyllfa well na’r rhan fwyaf i ymateb i sychder yn yr haf, yn enwedig o’i gymharu â gwledydd arfordir y Canoldir lle bydd hinsawdd yr haf yn y dyfodol yn debycach i’r amodau yn y Sahara heddiw.
Yma yng Nghymru, dengys y ffigurau diweddaraf, yn 2004, fod 3.3 y cant yn llai o ollyngiadau nwyon ty gwydr wedi bod o’i gymharu â 1990. O fewn y lleihad cyffredinol hwnnw, mae gollyngiadau carbon deuocsid wedi codi fymryn. Dengys y ffigurau hyn yn glir bod gennym lawer iawn o ffordd i fynd cyn gweld y math o leihad mewn gollyngiadau a fyddai’n cadw draw newid peryglus yn yr hinsawdd, yn ôl cyngor gwyddonwyr. Y prif gategorïau o weithgaredd dyn yng Nghymru sy’n gollwng carbon deuocsid, yn nhrefn faint a ollyngir, yw: cynhyrchu trydan 40 y cant, gweithgynhyrchu ac adeiladu gyda’i gilydd 25 y cant, yna trafnidiaeth ffyrdd a’r sector preswyl ar tua 10 y cant yr un.
Yn gyffredinol, nid yw’r diwydiannau ynni dwys na’r ffatrïoedd cynhyrchu pwer yn gwasanaethu marchnad Cymru; felly, mae’r prif raglenni i leihau eu gollyngiadau, fel cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE, EUETS, yn gweithredu ar y lefel honno. Mae’n gwneud synnwyr, felly, bod unrhyw dargedau gollwng llai i’r sectorau hyn yn cael eu gosod ar lefel y DU neu’r UE. Fy mhryder i gyda datblygu unrhyw dargedau i Gymru yw bod angen iddynt fod yn ystyrlon a chyraeddadwy, hynny yw, y dylent adlewyrchu pwerau a sgôp Llywodraeth y Cynulliad i ddylanwadu ar eu cyflawni.
Nid wyf wedi f’argyhoeddi’n llwyr eto bod targed blynyddol i leihau gollyngiadau o fudd i’r amgylchedd byd-eang. Rhaid inni wneud mwy i annog dinasyddion ledled Cymru i gyfrannu’n frwd at wastraffu llai o ynni a bod yn fwy ynni effeithlon. Yr ydym eisoes yn gweithredu ar hyn. Er enghraifft, mae ein cynllun effeithlonrwydd ynni cartref, sydd hefyd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd, wedi helpu mwy na 64,000 o gartrefi ers 2000. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni eisoes yn rhoi cyngor ymarferol amhrisiadwy i fusnesau, y sector cyhoeddus ac i’r cyhoedd. Mae TAN8 yn cynnig fframwaith clir i annog datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru a bydd yn ein helpu i symud tuag at ein targedau i gynhyrchu mwy o drydan o ffynonellau adnewyddadwy.
Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn gwneud cyfres o gyhoeddiadau er mwyn newid ymateb Cymru i’r newid yn yr hinsawdd yn sylweddol, a bydd yn ystyriaeth allweddol yn y rhaglen cydgyfeirio newydd. Mae fframwaith strategol ar newid yn yr hinsawdd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Gobeithio y bydd y cyhoeddiad a wneuthum yn gynharach heddiw, gyda Carwyn Jones a Sue Essex, sef i blannu coeden am bob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru o fis Medi eleni ymlaen, yn helpu i gysylltu pobl, yn enwedig pobl ifanc, â byd natur ac yn eu sbarduno i wneud rhywbeth i wella eu hamgylchedd lleol. Hoffwn ganmol Nicola Vaughan o Ysgol Iau Coed Glas yn Llanisien, Caerdydd, am feddwl am y syniad.
Yr ydym wedi ymrwymo i ddod yn garbon niwtral gyda’n hystâd ein hunain. Brynhawn heddiw, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones, yn gwneud cyhoeddiad pellach am adeiladau cynaliadwy a’n disgwyliadau bod datblygiadau yn gwella eu hôl troed carbon a’u cynaliadwyedd ehangach yn sylweddol. Ddydd Iau, bydd Carwyn hefyd yn cyhoeddi ymgynghoriad ar addasu i effaith y newid anochel yn yr hinsawdd, hynny yw, paratoi ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd beth bynnag o ganlyniad i’r gollyngiadau sydd eisoes wedi digwydd ac sydd yn yr atmosffer.
Yr wythnos nesaf, bydd Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, yn lansio ‘Dewisiadau Callach’, llawlyfr ymarferol i ddewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio. Ym mis Mawrth, bydd yn lansio rhaglen cyngor trafnidiaeth newydd, a fydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, adolygiadau o’r fflyd werdd er mwyn lleihau ôl troed carbon teithwyr busnes. Daw’r ymgynghoriad ar y strategaeth drafnidiaeth i ben cyn bo hir, fel y gallwn ddechrau ar y gwaith o roi’r wedd derfynol ar y ddogfen bolisi allweddol hon. Fis nesaf, byddaf yn cyhoeddi papur yn ehangu ar y datganiad hwn, ac yn ystyried pa gamau pellach y gallai Cymru eu cymryd. Mae’r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, Andrew Davies, yn bwriadu cyhoeddi map llwybr ynni Cymru, i egluro sut y dylem fynd ati i weddnewid Cymru yn economi flaengar, gystadleuol sy’n cynhyrchu ynni carbon isel.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn her anferth i Gymru, y DU a’r byd. I ymateb iddo’n effeithiol, bydd angen cydymdrech gan y Llywodraeth a’r sectorau preifat a gwirfoddol, a rhaid i gymunedau a dinasyddion hefyd wneud eu rhan. Yr wyf yn benderfynol o weld Cymru yn arwain y ffordd, nid mewn addewidion ond drwy weithredu.