Skip to content

Llafar - Creative Outsourcing Solutions International Cyf

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Yn gynharach heddiw, yr oedd yn bleser gennyf gyhoeddi’r penderfyniad gan Creative Outsourcing Solutions International Ltd i fuddsoddi yn ei gyfleuster gweithgynhyrchu ym Maesteg. Mae croeso mawr i’r prosiect hwn gwerth miliynau o bunnoedd i droi ei waith ym Maesteg yn gyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf—yn wir, yn bencadlys gweithgynhyrchu’r cwmni yn y DU.

Mae COSi yn arweinydd byd-eang yn y gwaith o ddatblygu a gweithgynhyrchu contractau colur lliw, persawr a nwyddau gofal personol ar gyfer perchnogion brandiau mawr ledled y byd. Sefydlwyd y cwmni yn 1992 yn Ne Affrica, ond symudodd i’r DU ar ôl prynu ffatrïoedd The Body Shop International yng ngorllewin Swydd Sussex yn 2000, a ffatri Revlon gynt ym Maesteg y flwyddyn ganlynol.

Mae COSi bellach yn cyflogi tua 1,000 o bobl ledled y byd, a chyda swyddfeydd gwerthiant a ffynonellau yn yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Ffrainc, Tseina a’r DU, mae COSi yn cynnig gwasanaeth byd-eang sy’n ehangu. Rhagwelir y bydd y trosiant ar gyfer 2006-07 dros £100 miliwn, gan sicrhau mai COSi yw un o’r deg prif weithgynhyrchydd contractau nwyddau harddwch yn y byd. Ar hyn o bryd mae COSi yn gweithio gyda thros 60 o wahanol fusnesau colur a gofal personol, gan gynnwys brandiau adnabyddus fel Proctor and Gamble, Unilever, Mary Kay, The Body Shop a L’Oréal. Caiff offer uwch-dechnoleg newydd, y systemau gweithgynhyrchu diweddaraf ac amgylcheddau ystafelloedd glân eu cyflwyno, gan ychwanegu 100 miliwn o unedau o allu cynhyrchu a chynorthwyo cynllun y cwmni i ddyblu ei drosiant o fewn y tair blynedd nesaf, gan greu tua 300 o swyddi.

Fel y dywedais eisoes, y cyfleuster ym Maesteg fydd pencadlys gweithgynhyrchu’r cwmni yn y DU. Ynghyd â’r Prif Weinidog a swyddogion o’m hadran, yr wyf wedi ymwneud yn agos â’r gwaith o ddatblygu’r prosiect hwn ar gyfer Cymru. Mae’r buddsoddiad yn arbennig o bwysig i Faesteg a Chymoedd y de, lle mae COSi yn gyflogwr allweddol sydd ag enw da am hyfforddiant a datblygiad o safon, ac sy’n cyflogi tua 700 o bobl ar hyn o bryd. Teimlwn fod penderfyniad y cwmni i fuddsoddi a datblygu yma yn gydnabyddiaeth o’r gweithlu ardderchog sydd ar gael, ac o Gymru fel lle i gynnal busnes.

Mae hyn yn dangos y gall fod gan weithgynhyrchu yng Nghymru rôl hanfodol o hyd yn yr oes newydd sy’n dod yn sgil globaleiddio, er gwaethaf her cystadleuwyr cost isel, fel y dangosir gan y cyhoeddiad yn ddiweddar gan Cooper-Standard Automotive i gau ei gyfleuster ym Maesteg, gan arwain at golli 250 o swyddi. Yr wyf yn siwr fod pob Aelod yn croesawu’r newyddion hyn heddiw, ac y byddwch, fel finnau, yn canmol penderfyniad y cwmni i fuddsoddi yma. Credaf ei fod yn dangos ymrwymiad Cymru i gynorthwyo ei sector gweithgynhyrchu wrth ymdrechu at statws gwirioneddol fyd-eang.