Skip to content

Ysgrifenedig - Newidiadau i Ryddhad Eiddo Gwag Ardrethi Annomestig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
O 1 Ebrill 2008 ymlaen, rydw i wedi cytuno mai am y chwe mis cyntaf yn unig y bydd eiddo diwydiannol gwag yn destun y gyfradd lawn o 100% o ryddhad ardrethi eiddo gwag. O'r dyddiad hwnnw ymlaen hefyd, am dri mis yn unig y bydd eiddo anniwydiannol gwag yn destun y gyfradd lawn o 100% o ryddhad ardrethi eiddo gwag.

Byddaf yn gwneud rheoliadau i ddiwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb Ei Feddiannu) 1989 er mwyn cyflwyno'r newidiadau ar gyfer eiddo diwydiannol gwag yng Nghymru. Bydd y rheoliadau hyn yn cael gwared ar yr esemptiad presennol sy'n caniatáu i berchnogion beidio â thalu ardrethi ar ôl i eiddo fod yn wag am 6 mis. Bydd y rheoliadau wedyn yn golygu y bydd yn rhaid i berchnogion dalu'r gyfradd lawn o 100% ar gyfer eiddo gwag. Nid oes angen diwygio unrhyw reoliadau er mwyn cyflwyno'r newidiadau o ran rhyddhad ar gyfer eiddo anniwydiannol gwag.    

Gwnaed y newidiadau i'r gyfradd rhyddhad ar gyfer eiddo gwag gan Lywodraeth y DU ym Mesur Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007. I bob pwrpas roedd y Mesur yn gostwng cyfradd y rhyddhad ar gyfer eiddo gwag o 50% i 0% o'r gyfradd safonol. Roedd y Mesur yn cyflwyno'r newidiadau ar gyfer Cymru a Lloegr, ond roedd hefyd yn rhoi pŵer i Lywodraeth y Cynulliad wneud rheoliadau er mwyn newid y gyfradd rhyddhad eiddo gwag yn ôl i 50%, neu ei newid i unrhyw gyfradd rhwng 0% a 50%.  Mae'r Mesur hefyd yn esemptio eiddo gwag y mae elusennau a chlybiau chwaraeon yn eu defnyddio rhag cael eu hardrethu.

Yn ogystal â hyn, Mesur yn cynnwys pwerau i'r Cynulliad wneud rheoliadau "atal osgoi", er mwyn lleihau'r cyfle i berchnogion osgoi talu'r gyfradd lawn o 100% ar eiddo gwag. Rydw i'n ystyried pa reoliadau y gall fod eu hangen, a byddaf yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.  

Roedd Adroddiad Barker ar Gynllunio Defnydd Tir, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2006, yn argymell y dylai Llywodraeth y DU wneud gwell defnydd o gymhellion ariannol er mwyn annog defnydd effeithiol o dir trefol. Yn arbennig, roedd yn argymell diwygio'r gyfundrefn rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo gwag. Yn dilyn hynny roedd adroddiad Ymchwiliad Lyons, a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2007, hefyd yn argymell diwygio a gostwng y rhyddhad ardrethi busnes presennol ar gyfer eiddo gwag. Diben yr argymhelliad hwn gan Lyons oedd sicrhau bod tir a ddatblygwyd o'r blaen yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol i ddiogelu'r amgylchedd ac i gefnogi gwaith adfywio trefol.

Mewn ymateb i adroddiadau Barker a Lyons, yn ei Adroddiad ar y Gyllideb ar 21 Mawrth cyhoeddodd y Canghellor fod y Llywodraeth yn bwriadu diwygio'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes bresennol ar gyfer perchnogion eiddo sydd heb ei feddiannu. Ar ôl cyflwyno'r newidiadau hyn yn Lloegr, ni fyddai Llywodraeth y DU wedi parhau i gyllido'r cynllun rhyddhad cyfredol yng Nghymru. Pe na bawn i wedi cytuno i'r newidiadau hyn, byddai'n rhaid talu'r costau drwy ddefnyddio arian o feysydd eraill yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Llywodraeth y Cynulliad o'r farn y dylai'r cynllun rhyddhad ardrethi fod yn canolbwyntio ar fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes, nid ar eiddo gwag lle na cheir gweithgarwch economaidd. Yn unol â'n hymrwymiad yn y ddogfen Cymru'n Un i wella'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, ac yng nghyd-destun darparu cymorth mwy effeithiol i fusnesau, byddaf yn adolygu'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach. Byddaf hefyd yn ymgynghori ar y modd y gellid ei estyn er mwyn gwneud rhagor i annog busnesau sy'n cyfrannu'n gymdeithasol ac yn economaidd i'w cymunedau lleol, ac er mwyn cyd-fynd â mentrau presennol y Llywodraeth i hyrwyddo twf a datblygiad economaidd.