Skip to content

Adroddiad Cynnydd Blynyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Cynlluniau Cydraddoldeb ar sail Hil, Pobl Anabl a’r Rhywiau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu ei hail Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar ei Chynllun Cydraddoldeb Hiliol a'r adroddiad cyntaf a’r olaf ar y Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’r Rhywiau.

Mae'r adroddiad yn adolygiad ôl-weithredol o'n gwaith i hybu cydraddoldeb ar draws holl feysydd portffolio y Gweinidogion ar gyfer cyfnod cofnodi 2006-2007 ein Cynlluniau statudol.

Mae'r adroddiad yn edrych ar y cynnydd ym mhob maes o fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru, o addysg i gyfranogiad economaidd.

Roedd hon yn flwyddyn heriol yn bendant, a hoffwn ddiolch i Jane Hutt fy rhagflaenydd am ei harweniyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Rwy'n falch o gynnydd Llywodraeth y Cynulliad ar ddatblygu'r agenda gydraddoldeb. Wrth edrych yn ôl i'r cyfnod y cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Hiliol diwygiedig cyntaf, fe'i hystyriwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fel enghraifft o arfer da ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill. Rydym am gadw'r patrwm hwn yn ein holl waith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.

Un o'n prif lwyddiannau eleni oedd cyflawni ein prif ddyletswyddau statudol wrth gynhyrchu Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’r Rhywiau, a oedd yn treialu ffyrdd newydd o ymgysylltu a chynnwys pobl Cymru wrth ddatblygu'r Cynlluniau.

Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer Pobl Anabl ei lansio ar 14 Rhagfyr y llynedd, a'n Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer y Rhywiau ar 26 Mawrth eleni.

Roedd y rhain yn lwyddiannau pwysig, nid yn unig i gyflawni ein dyletswyddau statudol, ond hefyd oherwydd y dull gynhwysol oedd gennym o ddatblygu’r Cynlluniau, a'r cynlluniau gweithredu.

Mae'n ofyniad statudol i lunio adroddiad ar ein Cynlluniau o ran Hil a Phobl Anabl, yn ogystal â'n Cynllun Cydraddoldeb gwirfoddol ar gyfer y Rhywiau.

Fel y dengys yr adroddiad hwn, nid oes amheuaeth bod cydraddoldeb yn rhan annatod o feddylfryd strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yr her i'r adroddiad hwn a'r Wythfed Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb a gawsoch yn gynharach eleni, ac i bob Gweinidog Cabinet ac i Adrannau, yw dangos sut y mae'r Cynlluniau hyn wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol a sylweddol i fywydau unigolion ar draws ein hamrywiol gymunedau.

Mae'r astudiaethau achos sydd yn yr Adraoddiad Cynnydd Blynyddol hwn yn gysylltiedig â pholisïau a phrosiectau sy'n cael effaith ar fywydau pobl, ac sy'n adlewyrchu'r ymagwedd broactif sydd gennym tuag at yr agenda bwysig hon.

Ar gyfer 2008-2011, byddwn yn datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl cyntaf.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn dangos ein hymrwymiad i symud y tu hwnt i gydymffurfio statudol. Mae'n llywio'r cyfeiriad strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghymru mewn dull bragmatig a chytbwys.

Bydd sylfaen o dystiolaeth gadarn i'r Cynllun Cydraddoldeb Sengl, sy'n deillio o waith ymchwil academaidd, a digwyddiadau i ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhelir â'r cyhoedd.

Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl, am y tro cyntaf, yn cynnwys yr holl feysydd sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, mewn dull a fydd yn canolbwyntio ar faterion sy'n seiliedig ar feysydd penodol, ond a fydd yn sicrhau bod anghenion unigol yn cael sylw - gan ddeall fod pobl yn amlochrog, ac yn wynebu problemau amrywiol yn ystod eu profiad bywyd.

Mae datblygu'r Cynllun hwn cyn y Mesur Cydraddoldeb Sengl yn dangos mewn ffordd bositif ein hymrwymiad i symud y tu hwnt i gydymffurfio statudol yn unig, o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â chydraddodleb, amrywiaeth a hawliau dynol yng Nghymru.

Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yn caniatáu inni ddatblygu'r camau strategol allweddol y mae angen i ni, fel Llywodraeth Cynulliad Cymru, fynd i'r afael â hwy ar draws pob maes cydraddoldeb.

Fy uchelgais i yw y bydd modd i ni, fel Llywodraeth Cynulliad Cymru, ddangos yn glir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y datblygiadau a wnaethpwyd gennym ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Mae pwyslais yr adroddiad hwn ar ganlyniadau yn dangos hyn, ac mae'n rhan o'r newid positif yr ydym wedi ymrwymo iddo.

Daw'r dyfodol â nifer o heriau a chyfleoedd pwysig i ni.

Daw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a lansiwyd ym mis Hydref 2007 â cyfle inni wella ein perthynas waith gyda'n partneriaid, a fydd o gymorth i lywio'r agenda gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yng Nghymru.

Mae'n rhoi sbardun ychwanegol inni gyfuno meysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, gan gryfhau ein hymrwymiad i hybu cyfle cyfartal i bawb yng Nghymru, ac edrych y tu hwnt i gydymffurfio statudol.

Mae'n rhaid inni sicrhau bod modd inni weithio'n effeithiol â'r Comisiwn, i sicrhau bod modd i ni, fel sefydliadau, roi cydraddoldeb i bobl Cymru.