Skip to content

Lansio'r Ymgynghoriad ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig.

Yfory, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio ei hymgynghoriad ar ei Strategaeth Pysgodfeydd cyntaf. Mae'r strategaeth yn dwyn ynghyd bob agwedd ar bysgodfeydd, gan gynnwys pysgota masnachol, dyframaethu a physgota hamdden. Lansiwyd yr ymgynghoriad gan Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, yn Aberdaugleddau.

Y weledigaeth yw y bydd y Strategaeth hon yn cynorthwyo i ddatblygu pysgodfeydd hyfyw a chynaliadwy yng Nghymru. Mae'r strategaeth ddrafft yn ceisio edrych ar ddyfodol tymor hir pysgodfeydd yng Nghymru, fel y gall y diwydiant fanteisio ar gyfleoedd mewn modd cynaliadwy nad yw'n effeithio ar yr amgylchedd.

Mae'r strategaeth wedi nodi nifer o dargedau ar gyfer y sectorau pysgodfeydd, a fydd yn dangos pa mor llwyddiannus yw'r strategaeth:

  • Stociau Iach o Bysgod - datblygu a rheoli pysgodfeydd ar lefelau cynaliadwy fel rhan o ecosystem iach a chynhyrchiol.
  • Rôl bositif yn y gymuned - cydnabod bod gan bysgodfeydd gyfraniad cadarnhaol i'w wneud i gymunedau Cymru.
  • Yr Amgylchedd - datblygu a rheoli pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy, gan gyfrannu'n bositif at bolisïau amgylcheddol Cymru.
  • Gweithio mewn Partneriaeth – parhau â'r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn partneriaeth rhwng y rheini sy'n llunio polisi a'r rheini sy'n gweithio yn y diwydiant.
  • Cyfraniad economaidd – Manteisio i'r eithaf ar bwysigrwydd a chyfraniad economaidd pysgodfeydd i ddatblygiad brand 'Cymru' yng Nghymru/y DU/yr UE a thu hwnt.

Pysgota yw un o'r diwydiannau gwledig hynaf, ac mae'n dal i fod yn bwysig i gyflogaeth yng nghefn gwlad. Pysgodfeydd yw calon economaidd a chymdeithasol nifer o gymunedau gwledig o amgylch arfordir Cymru, lle mae'r diwydiant pysgota yn cynnig cyfleoedd pwysig am waith.

Mae diwydiant pysgota Cymru yn cyfrannu tua £200 miliwn i economi Cymru, ac mae'n cynnal tua 3,000 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol.