Skip to content

Llafar - Trais ac Ymddygiad Ymosodol yn y GIG

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina hart, Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Yr wyf yn ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud y datganiad hwn am drais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn staff y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd y pwnc yn gyfarwydd iawn i Aelodau, oherwydd ein dadl flaenorol ar y mater hwn. Trafodasom y mater hwn ddiwethaf ym mis Mehefin eleni, pan addewais y byddwn yn ei godi gyda chadeiryddion ymddiriedolaethau’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, a gallais wneud hynny drannoeth y ddadl.

Mae’r datganiad heddiw’n deillio o’r pryderon hynny yn ogystal â barn staff rheng flaen a dynnodd fy sylw at faterion sy’n ymwneud â thrais ac ymddygiad ymosodol pan fûm yn ymweld ag ysbytai ledled Cymru. Yr wyf hefyd wedi achub ar y cyfle dros y tri mis diwethaf i drafod y materion hyn yn fanwl gyda staff a chyda chynrychiolwyr undebau llafur yn y gwasanaeth iechyd.

Mae trais ac ymddygiad ymosodol yn faterion pwysig dros ben, nid yn unig am fod digwyddiadau o’r fath yn llawer rhy niferus, ond hefyd am fod y digwyddiadau hynny’n effeithio mor ddwys ar y rhai sy’n eu profi. Dyna pam yr ailddatganaf farn bendant y Llywodraeth hon fod unrhyw weithredoedd o’r fath yn erbyn staff neu gleifion yn annerbyniol ac nis goddefir. Polisi dim goddefgarwch yw hwn.

Er mwyn rhoi hwb newydd i’r ymrwymiad hwnnw, yr wyf heddiw’n cyhoeddi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur ac a fydd yn cael ei wasanaethu gan staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, i ystyried amryw o faterion gyda’r amcan o amddiffyn staff yn well. Yr wyf yn arbennig o ddiolchgar i staff y Coleg Nyrsio Brenhinol am gytuno i secondio aelod staff i weithio’n llawn amser ar y prosiect hwn.
Yr wyf hefyd am egluro y bydd cylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys nid yn unig ysbytai a gofal eilaidd, ond hefyd staff gofal sylfaenol, sydd hwythau’n wynebu heriau o’r math hwn, a staff sy’n gweithio ar eu pen eu hun, lle y gall problemau penodol iawn godi. Mae gwaith wedi’i wneud eisoes yn y maes hwn, ac mae wedi’i drafod hefyd yn ein dadl ym mis Mehefin. Yr wyf yn dymuno i’r grŵp gorchwyl a gorffen fwrw ymlaen â’r gwaith sydd wedi’i wneud, gan adeiladu ar sail yr hyn a wnaed eisoes ac ymhelaethu arno.

Yn benodol, bydd y tasglu’n ymdrin â thair prif elfen. Y gyntaf yw rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Rhaid i’r gwasanaeth iechyd gwladol sicrhau y rhoddir gwybod am bob math o drais ac ymddygiad ymosodol, fel y bydd staff yn teimlo bod eu cyflogwr yn cymryd pob cam rhesymol i ymchwilio i ddigwyddiadau o’r fath a’u hatal rhag digwydd eto. O ganlyniad i hynny, bydd y tasglu’n datblygu dull cyffredin o roi gwybod am ddigwyddiadau, fel y cawn arfer cyson gan ymddiriedolaethau’r GIG ac eraill, sy’n eu galluogi i roi gwybodaeth fanwl gywir a gosod meincnodau ledled Cymru.
Yr ail elfen fydd camau yn erbyn y rhai sy’n cyflawni trais. Bydd y tasglu’n sicrhau bod mecanweithiau ar waith i gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n fwriadol dreisgar yn erbyn staff neu gleifion. Datblygir arweiniad i sicrhau y bydd systemau cadarn ar waith gan y gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer gweithio gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i sicrhau y bydd y tramgwyddwyr yn cael eu trafod yn effeithiol. Bydd y tasglu hefyd yn ystyried dulliau posibl o rannu gwybodaeth am y tramgwyddwyr hyn ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.

Y drydedd elfen fydd cymorth i staff ar ôl digwyddiad. Cyhoeddir arweiniad pellach ar y camau y mae’n rhaid i’r gwasanaeth iechyd gwladol eu cymryd i gynorthwyo ei staff ar ôl ymosodiad treisgar. Gallent gwmpasu cymorth corfforol ac emosiynol yn ogystal â chymorth cyfreithiol, i sicrhau bod staff yn teimlo bod eu cyflogwr yn eu gwerthfawrogi. Yr wyf am i’r gwaith hwn gael ei wneud ar fyrder, a byddaf yn disgwyl i’r grŵp roi adroddiad dechreuol i mi cyn pen tri mis. Mater i’r Cynulliad ac i’r Llywodraeth wedyn fydd gweld sut y gallwn roi’r materion pwysig hyn ar waith yn syth yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.