Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Diolch i’r Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion am ei adroddiad ar y pwnc pwysig hwn. Gwnaeth y pwyllgor 27 o argymhellion i wella tryloywder, gwrthrychedd a thegwch yn y ffordd y caiff arian addysg ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yng Nghymru. Cefnogaf nod yr argymhellion, ac yr wyf wedi derbyn y mwyafrif ohonynt.
Rhaid edrych ar yr adroddiad yng nghyd-destun buddsoddiad newydd sylweddol mewn addysg, hyfforddiant a gwasanaethau plant yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r buddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth y Cynulliad wedi codi o £760 miliwn yn 1999-2000 i fwy na £1.5 biliwn yn 2006-07. Yr ydym wedi cynyddu arian y grant cynnal refeniw i’r awdurdodau lleol o fwy nag £1 biliwn dros yr un cyfnod. Mae cyfanswm y gwariant refeniw crynswth ar addysg sydd yng nghyllideb yr awdurdodau lleol eleni ar y lefel uchaf erioed, sef dros £2.1 biliwn.
Yn erbyn y cefndir hwnnw, yr wyf yn falch bod adroddiad y pwyllgor yn cydnabod na ddylai cymariaethau cyllido â Lloegr, na gwledydd eraill, er eu bod yn fuddiol, bennu beth yw polisïau addysg yng Nghymru. Yn y dyfodol, gobeithiaf y gallwn hefyd ddatblygu cymariaethau â rhanbarthau a gwledydd y mae eu maint a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn debyg i rai Cymru.
Yr wyf yn falch, hefyd, fod y pwyllgor yn cydnabod bod rôl llywodraeth leol o ran ariannu ysgolion yn hanfodol i gynnal democratiaeth leol. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod manteision peidio â neilltuo rhan fawr o setliad refeniw llywodraeth leol. Hynny yw sail ein cytundeb partneriaeth gyda llywodraeth leol. Nid ydym am symud i sefyllfa lle y mae penderfyniadau am gyllidebau lleol—ar gyfer addysg neu wasanaethau eraill—yn cael eu gwneud yn y canol. Mae’r awdurdodau lleol yn adnabod eu hysgolion a hwy sydd yn y sefyllfa orau i’w hariannu. Maent yn atebol i’w hetholwyr am y penderfyniadau a wnânt yn lleol.
Yr ydym serch hynny wedi sefydlu adolygiad o’r ffactorau teneurwydd poblogaeth ac amddifadedd, a’u pwysoliadau, o fewn fformiwla’r asesiad o wariant safonol ar gyfer dosbarthu’r grant cynnal refeniw. Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad polisi i symud tuag at ddosbarthiad a seilir ar ddull mwy pwrpasol o ddynodi’r angen i wario yn y dyfodol, a dosbarthiad a all hefyd wireddu ein hamcanion ym maes cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer Cymru.
Mae’r ffigurau a gyflwynais i’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 5 Gorffennaf yn dangos, ar lefel Cymru gyfan, fod cyfanswm gwariant refeniw net yr awdurdodau lleol ar addysg yn 2006-07 wedi’i gyllidebu ar 0.4 y cant yn uwch na chyfanswm yr asesiad addysg seiliedig ar ddangosyddion yn y fformiwla ddosbarthu. Mae’r sefyllfa’n amrywio ar draws yr awdurdodau lleol: mae 12 yn cyllidebu i wario mwy na’r asesiad seiliedig ar ddangosyddion eleni a 10 ar wario llai na’r asesiad. Hyd nes inni gwblhau ein hadolygiad o fformiwla’r asesiad o wariant safonol a bod modd defnyddio ei ganlyniadau yn y setliad i lywodraeth leol—disgwylir y daw hyn erbyn 2008-09—bydd yr asesiad seiliedig ar ddangosyddion i bob awdurdod yn cael ei ddefnyddio fel targed i’r gwariant ar addysg yn lleol, fel mesur dros dro. Nid yw hyn yn golygu ffrwyno rhyddid yr awdurdodau i osod eu cyllidebau addysg yn unol â’r blaenoriaethau lleol. Fodd bynnag, lle y mae awdurdodau lleol yn gosod cyllideb sy’n wahanol i’w hasesiad seiliedig ar ddangosyddion o ran addysg, gofynnir iddynt adrodd am y rhesymau am hynny i’w fforwm cyllideb ysgolion, eu cyngor llawn a Llywodraeth y Cynulliad. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac atebolrwydd lleol.
Mae gennyf gydymdeimlad â’r amcan y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor y dylai Llywodraeth y Cynulliad sefydlu lleiafswm y gofynion ariannu sylfaenol cyffredin ar gyfer staffio ysgolion, adeiladau ac offer. Fodd bynnag, ni ddylem dwyllo ein hunain y bydd cyflawni hynny’n beth hawdd. Byddai angen inni bwyso a mesur, yn gyntaf, sut y gellid gwneud hyn, beth fyddai’r canlyniadau posibl o safbwynt effeithio ar gyllidebau ysgolion unigol, ac, o ystyried y gwaith helaeth a fyddai’n ofynnol, a fyddai’r canlyniad yn werth chweil. Fy mlaenoriaeth gyntaf o reidrwydd yw cyflawni’r ymrwymiadau a nodais yn fy ateb ysgrifenedig, gan barhau i adolygu’r opsiwn hwn ar gyfer y dyfodol.
Mae adroddiad y pwyllgor yn rhoi pwyslais mawr ar fynd i’r afael ag amddifadedd yng Nghymru. Mae cysylltiad cryf rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad: dengys ystadegau fod lefelau cyrhaeddiad yn gostwng wrth i lefelau hawl i brydau ysgol am ddim gynyddu, ac yr ydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag amddifadedd a thorri’r ddolen gyswllt honno. Ar lefel genedlaethol, mae’r rhaglen i godi lefelau cyrhaeddiad a safonau unigol mewn addysg yng Nghymru yn targedu adnoddau ychwanegol sylweddol—£16 miliwn eleni a’r flwyddyn nesaf—at yr ysgolion sydd â’r lefel uchaf o amddifadedd i wella canlyniadau addysgol disgyblion sy’n tangyflawni. Ar lefel leol, ar ôl ymgynghori’n helaeth a dadl yn y Cyfarfod Llawn, fe’i gwnaethom yn ofyniad o fis Ebrill 2005 i’r awdurdodau lleol gynnwys ffactor amddifadedd yn eu fformiwla i bennu cyllidebau dirprwyedig ysgolion. Yr ydym wedi dechrau adolygu’r hyn y mae’r awdurdodau wedi’i wneud a byddwn, yng ngoleuni hynny, yn ystyried a oes angen cryfhau’r gofyniad. Byddaf yn adrodd am hyn i’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ym mis Tachwedd.
Ochr yn ochr â’r datblygiadau hyn, yr wyf wedi ymrwymo i ddarparu mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd o ran yr arian i ysgolion yn y dyfodol drwy gyflwyno cyllidebau tair blynedd yr un pryd ag yr ydym yn cyflwyno setliadau llywodraeth leol tair blynedd. Byddwn yn datblygu cynigion gyda llywodraeth leol gyda golwg ar ymgynghori ynghylch rheoliadau a ddaw i rym ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-09.
Mae adroddiad y pwyllgor yn rhoi cryn sylw i’r dryswch ynglyn ag ariannu addysg yng Nghymru. Yr ydym wedi cymryd camau i wella tryloywder, gan gynnwys cyflwyno fforymau cyllidebau ysgolion a chyhoeddi manylion yr asesiad addysg seiliedig ar ddangosyddion gyda’r setliad llywodraeth leol am y tair blynedd diwethaf. Derbyniasom argymhellion perthnasol adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar i wella tryloywder ac eglurder yr arian ar gyfer addysg, fel y gwnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol i weithredu argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a’r argymhellion hynny o eiddo’r pwyllgor yr ydym wedi eu derbyn.
Mae adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion yn tynnu sylw at lawer o faterion pwysig ac anodd sydd wedi bod yn ganolog yn y ddadl am ariannu ysgolion yng Nghymru ers amser maith. Credaf fod ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiad y pwyllgor yn golygu rhaglen bwysig a helaeth o waith a fydd yn symud y ddadl honno ymlaen yn gadarnhaol i’r dyfodol.