Skip to content

Memorandwm ar gyfer Polisi Ynni yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Cyflwyniad


1. Mae datganoli yn dal yn gysyniad cymharol newydd yn natblygiad arferion llunio polisi'r DU.  Mae'n gweddnewid y ffordd y mae polisi yn datblygu ac yn cael ei weithredu.  Ar yr un pryd mae'n creu cyfleoedd mawr o ran llunio polisïau sy'n hynod berthnasol i wahanol rannau'r Deyrnas Unedig drwy bartneriaethau cryf rhwng San Steffan, gweinyddiaethau datganoledig, llywodraeth leol a'r sector preifat.   Dim ond ar y sail hon y gellir dyfeisio a chyflawni polisi ynni gwirioneddol ar gyfer y DU gyfan.  

2. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad gryn awdurdod i ddatblygu a gweithredu polisi ar draws pob math o feysydd.  Yn eu plith mae amaethyddiaeth, datblygu economaidd, trafnidiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, tai, llywodraeth leol a chynllunio gwlad a thref.

Polisi Ynni Cymru/Strategaethau Llywodraeth y Cynulliad


3. Map Llwybr Ynni Cymru, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ym mis Medi 2005, gan adeiladu ar y strategaeth ynni i Gymru a gyhoeddwyd yn 2003 ochr yn ochr â phapur gwyn ynni'r DU, yw dogfen polisi ynni ddiweddaraf Llywodraeth y Cynulliad.  Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod yr heriau sy'n wynebu polisi ynni yn acíwt - nid lleiaf gwarchod ein harferion cystadleuol rhyngwladol, mynd i'r afael â thanwydd tlodi a mater gwirioneddol fyd-eang newid yn yr hinsawdd - ac mai dim ond drwy i wledydd a rhanbarthau ar hyd a lled y byd gydweithredu y gellir mynd i'r afael â'r heriau hynny. Rhaid i ynni gael ei gynhyrchu mewn ffordd ddiogel a dibynadwy; rhaid iddo fod yn fforddiadwy ac yn gystadleuol ei bris tra'n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd a rhaid bod mor effeithlon â phosibl yn y defnydd ohono.

4. Ar hyn o bryd, rydym wedi gweld y cynnydd sydyn ym mhrisiau trydan a nwy ledled y DU, sy'n mewnforio nwy yn net yn gynt na'r disgwyl.   Mae gweithredu prosiectau gwynt mawr ar y môr yn fwy o broblem na'r disgwyl, sy'n gwneud yr her o gyrraedd targedau Kyoto y DU ar gyfer lleihau gollyngiadau carbon deuocsid yn fwy byth.   Ar yr un pryd lansiwyd amrywiaeth eang o astudiaethau pwysig ar draws y DU gan gynnwys: adolygiad Stern o economeg newid yn yr hinsawdd; adolygiad o raglen DEFRA ar newid yn yr hinsawdd; ymgynghoriad dan arweiniad y Trysorlys ar rwystrau i ddal a storio carbon yn fasnachol ar lefel eang; astudiaeth Eddington o drafnidiaeth a thwf economaidd; adolygiad Barker o gynllunio defnydd tir; adolygiad Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog i leihau gollyngiadau o stoc adeiladau sy'n bodoli eisoes, ac Adolygiad yr Adran Masnach a Diwydiant o argoelion microgynhyrchu - y mae disgwyl iddynt i gyd fod yn berthnasol i ddatblygiadau yng Nghymru.

5. Ar lefel Ewropeaidd, mae polisïau arloesi, amgylchedd ac ynni yr UE - yn benodol y Cynllun Masnachu Gollyngiadau Carbon - os cânt eu gweithredu yn yr un ffordd ac yn deg ym mhob aelod-wladwriaeth, yn sylfaenol er mwyn cyrraedd ein nodau a dylent greu mecanweithiau i ganiatáu i fusnesau addasu i safonau amgylcheddol newydd mewn ffordd sy'n diogelu swyddi ac yn cynnig cyfleoedd economaidd.

Eisoes mae gan y DU y farchnad ynni fwyaf cystadleuol o holl wledydd yr UE a G8. Mae Cymru, fel rhan o'r DU, wedi ymrwymo i ddull gweithredu sy'n seiliedig ar y farchnad, sy'n gweithredu ar ein hamcanion ynni a datblygu economaidd, gan sicrhau cyflenwadau ynni diogel a fforddiadwy a chyrraedd effeithlonrwydd ynni llawer mwy.

6. Ar lefel fyd-eang, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy gyrraedd targedau lleihau carbon deuocsid. Yng Nghymru, fel yn y DU gyfan, cyflawnir hyn yn bennaf yn y tymor byr a'r tymor canolig drwy rôl fwy i orsafoedd tanwydd ffosil tra effeithiol ac ynni adnewyddadwy yn y gymysgedd ynni yn ogystal â phwyslais mwy ar effeithlonrwydd ynni.

7. Mae yna ganfyddiad cynyddol y bydd efallai ddiffyg cydbwysedd mawr parhaus o ran cyflenwad a galw am olew a nwy wrth i'r ganrif hon fynd yn ei blaen.  Mae problemau sy'n gysylltiedig â phrisiau ynni uchel a phryderon ynghylch dyfodol y cyflenwad yn y dyfodol eisoes yn uchel eu proffil. Un o'r amcanion allweddol ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol nesaf yr UE yng Nghymru, cynigion sy'n cael eu drafftio ar hyn o bryd, fydd ategu datblygiad ynni glân, cadwraeth ynni a'r defnydd effeithiol o ynni mewn diwydiant, busnes, cyrff cyhoeddus ac aelwydydd.

8.   Mae mynd i'r afael ag anghenion ynni a'r defnydd ohono, yn ogystal â dod o hyd i gyfle economaidd yn parhau i fod wrth wraidd y dull holistaidd a strategol y bu Llywodraeth y Cynulliad yn ymgyrraedd tuag ato.  Tynnir sylw'n arbennig at ein strategaeth economaidd newydd 'Cymru: Economi yn Ffynnu' sy'n annog partneriaeth yn gyffredinol ar draws y sectorau cyhoeddus, academaidd a phreifat ac sy'n amlygu hefyd bwysigrwydd hwyluso buddsoddiad mewn ffyrdd glân ac adnewyddadwy o gynhyrchu ynni. Ynghyd â chymorth a chyngor ar effeithlonrwydd ynni ac Ymchwil a Datblygu ynni, dylai'r rhain greu cyfleoedd economaidd gwell. Ategir yr amcanion hyn ymhellach gan ein polisi arfaethedig ar wyddoniaeth yng Nghymru - lle mae un o'r tri phrif thema yn ymwneud â dod o hyd i ddatblygiadau technoleg ynni carbon isel - a chynlluniau gweithredu Datblygu Cynaliadwy Cymru a'r Strategaeth Amgylcheddol: un o brif ymrwymiadau'r rhain yw hybu datblygiad diwydiant ynni adndewyddadwy microgynhyrchu cynhenid cryfach yng Nghymru, gan roi ffocws penodol ar gyfleoedd i fentrau bach a chanolig. Un arall o ddibenion nodau strategol o'r fath yw helpu Cymru i ganolbwyntio ac ymateb i'r heriau a'r bygythiad sy'n deillio o'r newid yn yr hinsawdd.