Skip to content

Ymateb Llywodraeth y Cynulliad i Adroddiad Pwyllgor y Cynulliad ar Ariannu Ysgolion ‘Trefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru’

Jane Davidson AC, y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Croesawaf adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion fel cyfraniad arwyddocaol i fater pwysig iawn ac rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor, a hefyd i'r rhai a roddodd dystiolaeth, am eu cyfraniadau. 

 

Rhoddais ymateb rhagarweiniol Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion y Pwyllgor mewn pedwar maes allweddol yn fy Natganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 11 Gorffennaf.  Eglurais yn y Datganiad hwnnw fy mod yn cefnogi nodau argymhellion y Pwyllgor i wella tryloywder, gwrthrychedd a thegwch y modd y caiff arian ym maes addysg ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yng Nghymru. 

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ymhellach gyda'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod yr haf, ac ar ôl ymgynghori â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), gallaf bellach roi fy ymateb manwl i bob un o argymhellion y Pwyllgor.

 

 

1.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymchwilio i'r rheswm am y gwahaniaethau o ran lefelau ariannu rhwng y cyfnodau allweddol, ac yn enwedig rhwng disgyblion Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7, ac y dylai gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

 

Derbyn. 

 

Nodir y gwahaniaethau mewn arian rhwng blynyddoedd neu gyfnodau allweddol yn Rhan 2 o Ddatganiad Cyllideb Adran 52 pob Awdurdod Addysg Lleol (AALl) ac maent yn adlewyrchu'r ffactorau a ddefnyddiwyd yn fformiwlâu ariannu lleol yr AALl i ddosbarthu ei Gyllideb Ysgolion Unigol o dan Reoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004.  Rhoddir gwybodaeth am y gwahaniaethau o ran lefelau ariannu rhwng y sector cynradd (blwyddyn 6) a'r sector uwchradd (blwyddyn 7) yn fy adroddiadau blynyddol i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyllidebau awdurdodau lleol a bennir ar gyfer addysg.  Dengys y ffigurau ar gyfer 2006-07 wariant dirprwyedig gros cyfartalog o £3,030 fesul disgybl ar gyfer y sector cynradd a £3,681 ar gyfer y sector uwchradd.  Bydd y wybodaeth hon yn parhau i gael ei rhoi i'r Pwyllgor.  

 

 

2.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad gychwyn ar unwaith ar adolygiad o'r pwyslais a roddir ar ffactorau megis cludiant, teneurwydd y boblogaeth ac amddifadedd wrth ddyrannu adnoddau addysg o fewn setliad llywodraeth leol, er mwyn sicrhau bod pwysoliadau yn seiliedig ar angen gwrthrychol.

 

Derbyn. 

 

Dechreuodd y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus adolygiad rai misoedd yn ôl o'r pwysoliad a roddir i ffactorau amddifadedd a theneurwydd poblogaeth o fewn y setliad llywodraeth leol, gan gynnwys y pwysoliad ar gyfer gwasanaethau addysg.  Bydd yr adolygiad yn ystyried ffyrdd lle y caiff "angen perthnasol" ei ddiffinio a'i fesur ar sail wrthrychol a chyson.  Gallai fod i hyn oblygiadau o ran y dangosyddion amddifadedd a theneurwydd poblogaeth a ddefnyddir, a'r pwysoliad perthnasol a roddir iddynt.  Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr elfen o'r fformiwla sy'n ymwneud ag ysgolion prif ffrwd ac er mai'r nod fydd cwblhau'r adolygiad mewn pryd i'w ystyried o fewn setliad 2008-09, mae i'r amserlen hon risgiau.

 

Goblygiadau ariannol: nid oes unrhyw rai o ran yr adolygiad ei hun, fodd bynnag, gallai fod i ganlyniad yr adolygiad oblygiadau sylweddol o ran dosbarthu'r setliad refeniw ar draws y 22 o awdurdodau unedol.

 

 

3.         Mae'r Pwyllgor:

Yn llwyr gefnogi argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru i Lywodraeth y Cynulliad y dylid cynnal adolygiad i weld ai'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yw'r dangosydd gorau o amddifadedd ac mae'n argymell y dylid cychwyn arno cyn gynted ag y bo'n bosibl.

 

Derbyn.

 

Mae hyn eisoes yn mynd rhagddo fel rhan o'r adolygiad ehangach y cyfeirir ato yn yr ymateb i argymhelliad 2.  Ar hyn o bryd, y dangosydd sy'n nodi a yw disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw'r unig fesur a all nodi disgyblion yn seiliedig ar lle maent yn derbyn addysg yn hytrach na lle maent yn byw.

 

Goblygiadau ariannol: fel ar gyfer argymhelliad 2.

 

 

4.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Er mwyn sicrhau mwy o dryloywder a gwella'r gwaith o graffu ar y gyllideb, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud trefniadau i ganiatáu i bwyllgorau perthnasol graffu ar y gyllideb ar gyfer cyllid llywodraeth leol fel rhan o'r weithdrefn o bennu'r gyllideb bob blwyddyn.

 

Nid yw hwn yn fater i Lywodraeth y Cynulliad ond i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae'r trefniadau presennol ar gyfer craffu ar y gyllideb ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn adlewyrchu strwythur y pwyllgor pwnc, a gyfyngir gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 – mae'n rhaid i bwyllgorau a'u gweithrediadau adlewyrchu portffolios Gweinidogol.  O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu addasu ei Reolau Sefydlog i newid strwythur a gweithrediadau pwyllgorau yn unol â'r argymhelliad hwn os bydd yn dymuno. 

 

 

5.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad gychwyn ar unwaith ar adolygiad o'r fformiwla dosbarthu cyllid llywodraeth leol fel bod yr elfen addysg yn seiliedig ar y costau cyfredol a chostau darparu gwasanaethau addysg yn y dyfodol yn hytrach nag ar gostau hanesyddol.

 

Derbyn.

 

Fel y soniwyd mewn ymateb i argymhelliad 2, mae'r adolygiad hwn eisoes wedi'i gynnal.  Bydd yr adolygiad o'r fformiwla setliad refeniw yn canolbwyntio ar yr elfen addysg fel ei brif flaenoriaeth.  Bydd yr adolygiad yn asesu pa un a yw cost hanesyddol yn parhau i fod yn ddirprwy priodol am angen perthynol neu pa un a fyddai fframwaith amgen yn briodol i ystyried angen nas diwallwyd.

 

Goblygiadau ariannol: fel ar gyfer argymhelliad 2.

 

 

6.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu ymchwil manwl i effaith amrywiadau mewn ariannu ar gyrhaeddiad disgyblion ar ôl cymryd i ystyriaeth newidion eraill megis amddifadedd a theneurwydd y boblogaeth.

 

Derbyn yn rhannol. 

 

Nid oes unrhyw gyswllt amlwg ar lefel awdurdod lleol rhwng lefelau ariannu fesul disgybl a chyrhaeddiad: mae lefelau cyrhaeddiad yn yr awdurdodau lle ceir y lefelau ariannu uchaf ac isaf fesul disgybl - Ceredigion a Bro Morgannwg - ymhlith y gorau yng Nghymru.  Fodd bynnag, ceir cyswllt cryf rhwng cyrhaeddiad a lefel yr hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim: wrth i lefel yr hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim gynyddu, mae lefel y cyrhaeddiad yn lleihau (Bwletin Ystadegol y Cynulliad 20/2006).  Yr angen allweddol yw torri'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel. Mae ein rhaglen Rhagori a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i adolygu amddifadedd yn y fformiwla setliad - gweler argymhelliad 2 - yn ceisio mynd i'r afael â hyn.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

 

7.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Yn unol ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru, y dylai Llywodraeth y Cynulliad beri iddi fod yn ofynnol i bob awdurdod lleol anfon crynodeb blynyddol o'r gyllideb i ysgolion yn eu hardal, yn dangos y ffactorau sydd wedi arwain at newidiadau yng nghyllidebau ysgolion.

 

8.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau bod y crynodeb blynyddol o'r gyllideb yn gyson ar draws ffiniau llywodraeth leol a bod llwybrau archwilio clir a chyson yn cael eu sefydlu a'u monitro.

 

9.         Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi un gyfres glir o ganllawiau i awdurdodau ynghylch paratoi datganiadau cyllideb Adran 52 er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn gyson.

 

10.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Wrth adolygu ffurflen gyfrifo'r cyfrif refeniw ("RA"), y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau ei bod yn dod yn haws cymharu ar draws yr holl awdurdodau gyfran yr arian addysg sy'n cael ei gwario'n uniongyrchol ar addysg a'r gyfran sy'n cael ei gwario ar wasanaethau canolog a gweinyddu.

 

Derbyn.  

 

Derbyniodd Llywodraeth y Cynulliad argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a gefnogir gan y Pwyllgor - rhoddais fy ymateb i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar 7 Mehefin.  Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i geisio cyflawni argymhelliad 7 drwy gytundeb ond byddem yn ystyried yr angen am reoleiddiad yn sgîl y trafodaethau hynny.  Mewn perthynas ag argymhellion 9 a 10, caiff gweithgor ei sefydlu - gan gynnwys swyddogion Llywodraeth y Cynulliad a swyddogion llywodraeth leol - i adolygu'r canllawiau RA mewn da bryd ar gyfer blwyddyn ariannol 2007-08.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

 

11.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu;

Pa bynnag newidiadau eraill a wneir, rydym yn argymell y dylai'r Llywodraeth weithio'n agos gyda llywodraeth leol i wella dealltwriaeth ysgolion o'r broses ariannu a'r ffrydiau ariannu. 

 

Derbyn.

 

Rydym wedi cymryd camau i wella tryloywder, gan gynnwys cyflwyno Fforymau Cyllideb Ysgolion a chyhoeddi manylion Asesiadau wedi'u seilio ar Ddangosyddion gyda'r setliad llywodraeth leol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Derbyniasom argymhellion perthnasol adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru i wella tryloywder; fel y gwnaeth CLlLC.  Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i wella lefel ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael am drefniadau ariannu ysgolion.  Yn benodol, byddwn yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio gwefan Llywodraeth y Cynulliad yn fwy effeithiol i gyfleu gwybodaeth.  Gallwn ddysgu o brofiad yr Adran Addysg a Sgiliau, y defnyddir ei gwefan Teachernet yn eang gan ysgolion ac athrawon yn enwedig i weld gwybodaeth am ariannu.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

12.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Bod Llywodraeth y Cynulliad yn peri iddi fod yn ofynnol i awdurdodau roi blaenoriaeth yn eu fformiwlâu dosbarthu i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r ysgolion mwyaf difreintiedig yn eu hardaloedd, a dangos hyn yn eu cyllidebau ysgolion arfaethedig a gyflwynir i Lywodraeth y Cynulliad.

 

Derbyn o ran egwyddor. 

 

Yn dilyn ymgynghori eang ar Reoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004, a ddaeth i rym ar ddechrau blwyddyn ariannol 2005-06, fe'i gwnaed yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys ffactor amddifadedd yn eu fformiwla ar gyfer pennu cyllidebau dirprwyedig ysgolion.  Rydym wedi cael gwybodaeth gan bob awdurdod am y ffactorau a ddefnyddir ganddynt a faint o arian a ddyrennir.  Byddaf yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn ystod yr hydref ac yn sgîl hynny, byddaf yn ystyried a oes angen atgyfnerthu'r gofyniad.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

 

13.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:  

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi cymariaethau ystyrlon, wedi'u dadgyfuno cyhyd ag y bo'n bosib, o wariant addysg yng Nghymru, yng nghenhedloedd a rhanbarthau eraill y DU ac mewn gwledydd eraill, ac y dylai weithio gyda rhannau eraill o'r Llywodraeth i sicrhau bod mwy o fanylion ar gael.

 

Derbyn o ran egwyddor. 

 

Byddwn yn parhau i gymharu'r gwariant ar addysg yng Nghymru â'r gwariant cyfatebol yn Lloegr.  Byddwn yn ymchwilio i'r posibilrwydd o greu cymariaethau eraill ond mae systemau adrodd gwahanol yn debygol o olygu y byddent yn annilys ac eithrio ar y lefel uchaf o gydgasglu.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

 

14.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau roi gwybod i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau am unrhyw arian canlyniadol o dan fformiwla Barnett a dderbynnir gan Lywodraeth y Cynulliad ym maes addysg, a hynny pan dderbynnir yr arian canlyniadol.

 

Derbyn.

 

Mae'r Gweinidog Cyllid eisoes wedi cytuno i gyhoeddi manylion symiau canlyniadol Barnett.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

15.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad bennu a chyhoeddi gofynion ariannu sylfaenol cyffredinol safonol ar gyfer staffio ysgolion, adeiladau a chyfarpar ac y dylai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i feincnodi ac fel sail i wneud penderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol ar ariannu ysgolion.  Dylai Gweinidog y Cynulliad dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyflwyno adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gynnydd tuag at sefydlu gofyniad ariannu cyffredin safonol i ysgolion.

 

16.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai Llywodraeth y Cynulliad beri iddi fod yn ofynnol i awdurdodau adrodd yn flynyddol ar unrhyw wahaniaeth rhwng yr arian y mae'n ei ddyrannu i ysgolion a'r gofynion ariannu sylfaenol cyffredin a gyhoeddir gan Lywodraeth y Cynulliad.

 

17.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus gydweithio'n agos â'r awdurdodau lleol hynny sy'n ariannu ysgolion islaw'r gofynion ariannu sylfaenol cyffredin safonol i sicrhau eu bod yn gwario at y lefel hon o fewn amserlen y cytunir arni. Dylid defnyddio Asesiadau wedi'u Seilio ar Ddangosyddion Addysg fel dangosydd targed hyd nes bod gofynion ariannu sylfaenol cyffredin safonol wedi'u pennu.

 

Derbyn yn rhannol. 

 

Mae'r ymateb i argymhelliad 5 yn egluro y byddwn yn adolygu pa un a yw'r gost hanesyddol yn parhau i fod yn ddirprwy priodol am angen perthnasol neu pa un a ddylem symud, yn hytrach, at broses fwy bwriadol o nodi'r angen i wario ar addysg yn y dyfodol. Nodais hynny yn fy Natganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 11 Gorffennaf.

 

Mae dosbarthu i awdurdodau unigol yn cynnwys nifer o ddangosyddion gwrthrychol, sef niferoedd disgyblion yn bennaf ond hefyd dangosyddion yn ymwneud ag amddifadedd a gwasgariad poblogaeth.  Rydym eisoes wedi dechrau adolygu'r dangosyddion amddifadedd a gwasgariad poblogaeth hyn a'u pwysoliad i sicrhau bod y dosbarthiad yn adlewyrchu gwir gost darparu addysg a'n hamcanion cyfiawnder cymdeithasol.  Disgwylir i'r elfen o'r adolygiad sy'n ymwneud ag ysgolion gael ei chwblhau mewn pryd i'w hystyried o fewn setliad 2008-09 - ond gweler hefyd yr ymateb i argymhelliad 2 uchod.  

 

Tra bo canlyniad ein hadolygiad o'r fformiwla yn yr arfaeth, fel mesur dros dro ar gyfer 2007-08, rwyf wedi nodi y caiff Asesiadau wedi'u Seilio ar Ddangosyddion ym maes Addysg ar gyfer pob awdurdod lleol eu defnyddio fel targed lleol ar gyfer gwariant ar addysg. Mae awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am bennu’r lefel briodol, yn unol â’u blaenoriaethau y mae’n rhaid iddynt fod yn gwbl atebol amdanynt. Ar gyfartaledd, ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf, mae 10 awdurdod lleol wedi cyllidebu yn is na'r Asesiadau wedi'u Seilio ar Ddangosyddion a 12 wedi cyllidebu yn uwch na hwy.  Ar lefel Cymru gyfan, mae cyfanswm y gwariant refeniw ar addysg gan awdurdodau lleol wedi bod yn uwch na'r cyfanswm ar gyfer Asesiadau wedi'u seilio ar Ddangosyddion ym maes Addysg.  Gofynnir i bob awdurdod gyflwyno adroddiadau ar y rhesymau dros ddewis pennu cyllideb ar gyfer addysg sy'n wahanol i'w Asesiad wedi'i Seilio ar Ddangosyddion ym maes Addysg, a sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael er mwyn i'w Fforwm Cyllideb Ysgolion, ei Gyngor llawn a Llywodraeth y Cynulliad ei ystyried. Bydd hyn yn helpu i sicrhau'r cyhoedd y penderfynir ar gyllidebau lleol ar sail gwaith dadansoddi trwyadl o amgylchiadau lleol a bydd yn cynorthwyo tryloywder ariannu ac atebolrwydd lleol.

 

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â'u Fforwm Cyllideb Ysgolion cyn pennu cyllideb eu hysgolion bob blwyddyn ac mae'n rhaid iddynt hysbysu Llywodraeth y Cynulliad o'u cyllideb ysgolion arfaethedig erbyn diwedd mis Ionawr.   Bydd y trefniadau cyflwyno adroddiadau yn bodoli ochr yn ochr â'r gofynion hynny sydd eisoes yn bodoli. Byddwn yn ymgynghori â CLlLC ynglŷn â'r trefniadau, gan gynnwys amseru a fformat, a byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd iddynt maes o law.  

 

Cydymdeimlaf â'r amcan sy'n sail i argymhelliad y Pwyllgor am lefel ariannu sylfaenol gyffredin ofynnol ar gyfer ysgolion yng Nghymru, sef sicrhau bod ysgolion yn fwy sicr ynghylch y modd y mae'r arian a dderbynnir ganddynt yn ymwneud â'r angen i wario.   Fodd bynnag, mae angen i ni gydnabod anhawster cyflawni'r amcan hwn.   Ni chynigiodd y Pwyllgor unrhyw safbwyntiau o ran pa ddull i'w fabwysiadu.  Mae hanes o gynigion aflwyddiannus blaenorol.   Byddai angen i ni bwyso a mesur yn gyntaf sut y gellid gwneud hyn, sut y gellid rheoli'r gwaith dan sylw a beth allai'r canlyniadau fod o ran yr effaith ar gyllidebau ysgolion unigol.     

 

 

18.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Dylai'r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau roi adroddiadau rheolaidd i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau am y camau a gymerwyd gan yr awdurdodau lleol i fodloni'r gofynion ariannu cyffredin safonol ar gyfer ysgolion neu'r targedau sy'n seiliedig ar yr Asesiadau wedi'u Seilio ar Ddangosyddion Addysg yn y cyfamser.

 

Derbyn mewn perthynas â chyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor ar wybodaeth gan awdurdodau lleol sy'n pennu cyllideb sy'n wahanol i'r Asesiadau wedi'i seilio ar Ddangosyddion ym maes Addysg yn 2007-08.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

19.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Dylai Llywodraeth y Cynulliad osgoi cyflwyno gweithredoedd polisi anghynaladwy trwy raglenni grantiau penodol tymor byr ac y dylai geisio darparu arian tymor hirach (yn unol â'r cynigion ar gyfer cyllidebau tair blynedd) i alluogi gwell cynllunio ariannol gan ysgolion.

 

20.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau nad yw buddion cynlluniau grant a ffrydiau arian newydd yn cael eu peryglu gan ddulliau bidio biwrocrataidd a beichus.

 

21.  Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

I helpu ysgolion i gynllunio, rydym yn argymell, pan fo cynlluniau grant newydd yn cael eu cyflwyno, fod Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi adroddiad ar gynaliadwyedd y cynllun a strategaeth ymadael ar gyfer y cynllun, a hynny fel rhan o'r canllawiau i awdurdodau ar barhad cynlluniau.

 

Derbyn.

 

Gwrthodwn yr awgrym fod Llywodraeth y Cynulliad yn dechrau camau gweithredu anghynaladwy o ran polisi drwy grantiau penodol byrdymor.  Cwmpesir y materion hyn eisoes gan y protocol grantiau gyda'r CLlLC ac ymdrinnir â hwy yn unol â hynny.

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

 

22.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried newid y canllawiau ar fformiwlâu ariannu awdurdodau addysg lleol i sicrhau gwell cysondeb trwy Gymru ac i leihau newidiadau ariannol o flwyddyn i flwyddyn sy'n deillio o amrywiadau yn niferoedd y disgyblion.

 

Gwrthod. 

 

Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn ymgynghoriad helaeth yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o'r arian ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion gael ei ddosbarthu ar sail nifer y disgyblion.  Mae gan awdurdodau y disgresiwn i ddosbarthu'r 30% sy'n weddill ar sail amrywiaeth o ffactorau - fel y'u dyfynnir yn Atodiad H i'r adroddiad - fel y gallant ystyried amgylchiadau ysgolion unigol, gan gynnwys amddifadedd.  Mae un o'r ffactorau yn galluogi awdurdodau i liniaru newidiadau mewn arian o flwyddyn i flwyddyn sy'n deillio o amrywiadau o ran niferoedd disgyblion yn ôl disgresiwn.  Ni fyddai'n briodol nac yn ddefnyddiol cyfyngu ar y disgresiwn hwn, yn ein barn ni.  

 

23.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Bod Llywodraeth y Cynulliad yn arfarnu swyddogaeth a chyfrifoldebau'r fforymau cyllideb ysgolion gyda'r nod o wella'r cyfathrebu rhwng awdurdodau ac ysgolion.

 

Derbyn.

 

Mae adolygiad o'r fath eisoes ymhlith amcanion busnes yr Is-adran Rheoli Ysgolion ar gyfer 2006-07.  Disgwyliwn i'r adolygiad gael ei gynnal yn allanol.

 

Goblygiadau ariannol: bydd adnoddau presennol yn talu am gostau'r adolygiad. 

 

24.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Dylid cyflwyno cyllidebau tair blynedd ar gyfer ysgolion fel mater o flaenoriaeth.

 

Derbyn.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno cyllidebau tair blynedd i ysgolion gan ddefnyddio'r pwerau yn Neddf Addysg 2005.  Yn dilyn cytundeb gan y Fforwm Ymgynghori ar Gyllid ar 10 Gorffennaf ynghylch cynigion i gyflwyno setliadau llywodraeth leol tair blynedd o 2008-09, byddwn yn gweithio i gyflwyno cyllidebau ysgolion tair blynedd i'r un amserlen.  

 

Goblygiadau ariannol: dim.

 

25.       Argymhella'r Pwyllgor y dylai Llywodraeth y Cynulliad beri iddi fod yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno adroddiad blynyddol ar eu hymlyniad wrth yr amserlen ar gyfer gosod cyllideb ac y dylai'r wybodaeth hon gael ei chyflwyno'n flynyddol i'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

 

Gwrthod. 

 

Mae eisoes yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu eu cyllidebau cyffredinol eu hunain a'u lefelau treth gyngor erbyn 11 Mawrth a hysbysu ysgolion o'u cyllideb ysgolion unigol erbyn 31 Mawrth.   Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod awdurdodau yn torri'r gofynion hyn.   Byddai system adrodd fel yr un a gynigir yn faich biwrocrataidd diangen ar awdurdodau na fyddai'n dwyn unrhyw fuddiannau i ysgolion.  

 

 

26.            Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol bod arian a ddyrennir i awdurdodau at ddibenion cyfalaf yn cael ei ddefnyddio'n llwyr fel gwariant cyfalaf ym maes addysg ac y dylai ystyried darparu adnoddau ychwanegol os yw'n dal i ymrwymo i'w nod o wneud pob ysgol yn addas i'w phwrpas erbyn 2010.

 

 

Derbyn yn rhannol. 

 

Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn cael £74.685m o grant gwella adeiladau ysgolion bob blwyddyn a £59.331m ar gyfer gwasanaethau addysg mewn arian cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo. Yn gyffredinol, mae awdurdodau yn gwario symiau o'u hadnoddau eu hunain sy'n cynnwys derbynebion cyfalaf a benthyciadau darbodus sy'n fwy na chyfanswm y ffigur GCF ar gyfalaf ysgolion bob blwyddyn.  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i ystyried pa un a oes angen cynyddu lefelau ariannu i sicrhau bod pob ysgol yn addas at y diben mewn cylchoedd cynllunio cyllideb y Cynulliad yn y dyfodol.

 

Goblygiadau ariannol: i'w hystyried fel rhan o Gylchoedd Cynllunio Cyllideb yn y dyfodol.

 

27.       Mae'r Pwyllgor yn awgrymu:

Y dylai'r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddilyn y cynnydd i ymateb i'n hargymhellion, yn y lle cyntaf, o fewn 6 mis i ymateb cychwynnol y Llywodraeth.

 

Mae hwn yn fater i gadeiryddion y Pwyllgorau perthnasol.