Skip to content

Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cynllunio A Chefn Gwlad

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Uwch-Gynhadledd Cyngor Prydeinig-Gwyddelig 2 Mehefin 2006
Cynrychiolais Lywodraeth y Cynulliad yn wythfed uwch-gynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 2 Mehefin yn Llundain.

Roedd Llywodraethau'r DU ac Iwerddon, Gweithrediaeth yr Alban a llywodraethau'r tair ynys i gyd wedi'u cynrychioli. Roedd Peter Hain yn bresennol fel aelod o ddirprwyaeth y DU, yn cynrychioli Gogledd Iwerddon. Cadeiriwyd y cyfarfod i ddechrau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac yna gan Peter Hain pan fu'n rhaid i Mr Prescott adael i ddelio â'r saethu fu yn Llundain y bore hwnnw. Arweinydd dirprwyaeth Llywodraeth Iwerddon oedd Dermot Ahern TD yn absenoldeb y Taoiseach a oedd yn annerch y Cenhedloedd Unedig yn eu cyfarfod ar HIV/AIDS gan golli'i  gyfarfod cyntaf erioed o'r Uwchgynhadledd ers sefydlu'r Cyngor. Cewch rhestr lawr o'r rheini oedd yn bresennol yn y communiqué amgaeedig.

Cydnabu'r Cyngor ymrwymiad di-dor y ddwy Lywodraeth i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith a chlywodd adroddiad am y sefyllfa wleidyddol ddiweddaraf yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd aelodau etholedig eu galw yn ôl i Gynulliad Gogledd Iwerddon ar 15 Mai i ddechrau trafodaethau ar rannu grym. Y dyddiad terfyn ar gyfer dod i gytundeb yw 24 Tachwedd 2006.

Prif destun trafod yr Uwchgynhadledd hyn oedd y newid yn yr hinsawdd. Cawsom drafodaeth ar amrywiaeth o agweddau a chytunwyd ar feysydd y gallem ganolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol, gan gynnwys effeithiau ar amgylchedd y môr a'r cynnydd mewn tywydd eithafol. Bydd cyfarfod o Weinidogion Amgylchedd y Cyngor yn cael ei gynnal fis nesaf i drafod y gwaith hwn yn fanylach.

Edrychodd y Cyngor ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan weithgorau'r sectorau eraill hefyd, a chafwyd adroddiad ar hyn gan bob gweinyddiaeth.  

Mae'r gwaith ar y ddau faes y mae Cymru'n eu harwain yn mynd rhagddyn nhw'n dda. Mae'n gwaith ar Ieithoedd Brodorol, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd yn mynd rhagddo a chaiff Gweinidogion o holl wledydd y Cyngor gyfle i drafod yr agweddau rydym wedi cwnolbwyntio arnyn nhw hyd yma (trosglwyddo iaith yn y teulu, TG a chyrsiau iaith i oedolion) mewn cyfarfod yn ddiweddarach eleni.

Mae'r Grwp Cynhwysiant Cymdeithasol yr ydym yn ei arwain ar y cyd â Gweithrediaeth yr Alban wedi cwblhau ei waith ar anabledd a mynediad at waith, addysg a hyfforddiant ac mae newydd ddechrau edrych ar dlodi plant gan roi sylw arbennig i rieni unigol. Bydd y Grwp yn paratoi adroddiadau ar y gwaith hwn ar gyfer cyfarfodydd Gweinidogion ac Uwchgynadleddau'r dyfodol.


Cytunodd y Cyngor y dylai'r Alban arwain gwaith Grwp Sector newydd demograffeg ac rydym yn disgwyl ymlaen at weithio gyda Gweithrediaeth yr Alban ac aelodau eraill i rannu gwybodaeth am y maes hwn.

Amgaeir communiqué'r Uwchgynhadledd a manylion pellach am waith y Cyngor ar wefan y Cyngor www.british-irishcouncil.org.