Skip to content

Presgripsiynu Annibynol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y mis hwn, rwyf wedi cymeradwyo bwrw ati â'r trefniadau presgripsiynu annibynnol ar gyfer Nyrsys a Fferyllwyr yng Nghymru, ac rwyf wedi cytuno y dylid sefydlu bwrdd a briff prosiect i wneud hynny. Byddaf yn cyhoeddi hyn ar ymweliad â siop fferyllydd Boots yng Nghaerdydd y prynhawn yma.

Mae presgripsiynu annibynnol yn golygu bod y presgripsiynydd yn gyfrifol am asesu'r claf yn glinigol, penderfynu ar ddiagnosis a'r rheolaeth glinigol sydd ei hangen, yn ogystal â phresgripsiynu lle bo angen ynghyd â pha mor briodol yw'r presgripsiwn hwnnw.

Yng Nghymru, dim ond meddygon a deintyddion sydd â hawliau presgripsiynu annibynnol ar hyn o bryd. Mae gan nyrsys a fferyllwyr cymwysedig addas hawliau presgripsiynu atodol. Hyd yn hyn, mae tair carfan o nyrsys a fferyllwyr wedi'u hyfforddi i fod yn bresgripsiynwyr atodol. Dyma weithlu o tua 200 o bobl.

Yn dilyn ymgynghoriad, mae'r Pwyllgor ar Ddiogelwch Meddyginiaethau (CSM) wedi argymell bod Deddf Meddyginiaethau 1968 yn cael ei diwygio i hwyluso'r broses o gyflwyno hawliau presgripsiynu annibynnol i Nyrsys Presgripsiynu y Cyffurlyfr Estynedig a Fferyllwyr Presgripsiynu Annibynnol. Yn ôl argymhelliad y CSM, gall presgripsiynydd annibynnol roi presgripsiwn o Gyffurlyfr Cenedlaethol llawn Prydain ar gyfer pob cyflwr clinigol o fewn y meysydd y maent yn gymwys ynddynt.

Byddai hyn yn golygu ymestyn yr hawliau presgripsiynu ac felly byddai'n helpu i gyflawni Cynllun Oes. Bydd angen diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) er mwyn gwireddu'r polisi hwn yng Nghymru. Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad maes o law.

Bydd cyflwyno hawliau presgripsiynu annibynnol i nyrsys a fferyllwyr yn helpu i gyrraedd y targedau iechyd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi eu pennu, bydd yn helpu i gyflawni Cynllun Oes a bydd yn golygu y gall GIG Cymru ddarparu gwasanaethau effeithlon o ansawdd uchel i gleifion.