Skip to content

Arwain Y Ffordd Ym Maes Ailgylchu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i weld Cymru yn cyrraedd targedau uchel o ran ailgylchu.  Yn 2002 gosodwyd targed i awdurdodau lleol ailgylchu 40% o wastraff trefol erbyn 2010 ar adeg pan mai 8% oedd y gyfradd ailgylchu dros Gymru gyfan. Ers 1999 gwelwyd cynnydd triphlyg yn y cyfanswm a ailgylchwyd, gyda’r ffigwr y llynedd yn agos iawn at 20%.  Nawr mae 70% o gartrefi yn defnyddio system casglu deunydd cartref i’w ailgylchu, o’i gymharu â 22% yn 1999.  Mae hyn wedi ei gyflawni trwy ddarpariaeth Llywodraeth y Cynulliad o gyllid ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol a thrwy ymrwymiad ac ymdrech yr awdurdodau lleol unigol.

I gyflawni'r targed ailgylchu o 40% bydd rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff cartref i’w ailgylchu a’i gompostio, sydd mor agos at 100% â phosibl, ynghyd ag ymestyn a gwella'r rhwydwaith o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Hefyd, mae gan awdurdodau lleol dargedau llym a osodwyd o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd i leihau’n sylweddol faint o wastraff trefol pydradwy sy’n cael ei dirlenwi.  Gall hyn gael ei gyflawni trwy ailgylchu papur, cardbord, pren a thecstilau, a hefyd trwy gompostio gwastraff bwyd a gardd o gartrefi. Gellir ei gyflawni hefyd trwy drin yn fiolegol wastraff trefol cymysg mewn gweithfeydd “triniaeth fiolegol fecanyddol” (MBT), neu trwy adfer ynni mewn gweithfeydd cynhyrchu pŵer. Polisi Llywodraeth y Cynulliad yw lleihau'r angen am weithfeydd MBT a gweithfeydd pŵer ynni o wastraff ar raddfa ddiwydiannol trwy annog awdurdodau lleol i sicrhau bod cymaint o wastraff cartref pydradwy â phosibl yn cael ei gasglu ar wahân wrth y drws, y gellir ei ailgylchu neu ei gompostio.

Hyd yn hyn mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi sefydlu systemau ardderchog ar gyfer casglu papur a gwastraff gwyrdd.  Mae rhai awdurdodau wedi dechrau casglu cardbord, pren a gwastraff cegin. Mae angen i fwy o awdurdodau ddilyn yr esiampl hon, ac yn benodol bydd rhaid iddynt dargedu gwastraff cegin gan mai dyma’r ffrwd wastraff bydradwy fwyaf a gynhyrchir gan gartrefi. Oherwydd natur gwastraff cegin mae’n well iddo gael ei gasglu’n wythnosol.

Mae llawer o gartrefi yn gwahanu eu gwastraff ailgylchu a chompostio yn barod.  Fodd bynnag, rydym eisiau iddynt wneud mwy, ac i fwy o gartrefi gymryd rhan.  Gallwn gyflawni hyn trwy symud i ffwrdd o system sy’n ei gwneud yn hawdd i gartrefi waredu gwastraff mewn bagiau du. Bydd gwneud y system casglu deunydd i’w ailgylchu a gwastraff cegin yn hawdd a chyfleus i’w defnyddio yn cael effaith fawr o ran ein helpu ni i gyrraedd ein targedau ailgylchu uchelgeisiol yng Nghymru. Un ffordd o gyflawni hyn yw i gynghorau benderfynu darparu casgliad wythnosol o wastraff ailgylchu a gwastraff cegin a chasglu sbwriel arall bob pythefnos. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau ar draws y DU sydd â lefel uchel o ailgylchu wedi symud i gasglu gwastraff gweddilliol cartref bob pythefnos – mae Casnewydd yn esiampl lwyddiannus yng Nghymru.