Skip to content

Continental Teves UK Ltd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

Diolch i chi, Lywydd, am ganiatáu imi wneud datganiad y prynhawn yma. Cefais alwad ffôn ddoe gan Tom Whyatt, rheolwr gyfarwyddwr Continental Teves UK Ltd, sydd wedi ei leoli yng Nglynebwy, yn fy hysbysu y bydd, o ganlyniad i benderfyniad masnachol gan y rhiant gwmni yn yr Almaen, y gwaith o swmp gynhyrchu caliperau yn cael ei symud o ffatri Glynebwy i Slofacia yn nwyrain Ewrop erbyn diwedd 2007. Bydd hyn yn amodol ar y cyfnod ymgynghori statudol o 90 diwrnod. Afraid dweud, yr wyf yn siomedig iawn gyda’r newyddion annisgwyl hwn, sydd wedi dod er gwaethaf y ffaith mai ffatri Glynebwy yw un o’r rhai mwyaf proffidiol yn y grwp—mae wedi derbyn dros £14 miliwn mewn buddsoddiad ar gyfer ffatri newydd ac offer yn ystod y 18 mis diwethaf a chafodd gynnig £5.1 miliwn mewn cymorth rhanbarthol dewisol yn 2001. Ar ôl clywed y newyddion, ysgrifennais ar unwaith at Manfred Wennemer, cadeirydd y grwp yn Continental AG, i fynegi ym mhryderon ynghylch y penderfyniad a chynnig fy ngwasanaethau, a gwasanaeth fy swyddogion, i edrych ar y posibiliadau a chwilio am ffordd i gadw cynifer â phosibl o’r swyddi yng Nghymru.

Mae gan Continental Teves enw da fel cyflogwr. Mae lefelau cynhyrchiant y ffatri yng Nglynebwy’n uchel, a chyflawnwyd hynny trwy sgiliau, arbenigedd a gwaith caled y gweithlu teyrngar a phrofiadol. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi’r cwmni yn y gorffennol gyda chymorth rhanbarthol dewisol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf newydd. Bûm yn ymweld â’r cwmni'r bore yma gyda swyddogion i drafod y ffordd ymlaen. Yn ystod y 24 awr diwethaf, yr wyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda’r undeb llafur Amicus, sy’n trefnu’r gweithwyr yn y ffatri, yr awdurdod lleol a Tim Williams, prif weithredwr fforwm modurol Cymru.

Yn y cyfarfod y bore yma gyda Tom Whyatt, deuthum i wybod bod y trafodaethau cychwynnol yn ymwneud â chau’r ffatri’n gyfan gwbl. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau caled gan y rheolwyr lleol, bydd y busnes caliperau bach yn cael ei gadw yn y ffatri a bydd 120 o swyddi’n cael eu harbed. Bydd hyn yn galluogi ffatri Glynebwy i fod yn gyfrifol am waith arbenigol iawn, ac, felly, o ganlyniad, mae’n debygol o fod yn ffatri fwy cystadleuol, a hwn fydd y busnes caliperau bach yn Ewrop ar gyfer y cyfan o Continental AG. Gobeithiaf y bydd hyn yn arwain at fuddsoddi a swyddi pellach yn y dyfodol, ac y bydd yn gwella cynaliadwyedd y fenter.

Yr wyf yn ymwybodol, fel, yr wyf yn siwr, y bydd fy nghyd-Aelodau, bod y sector modurol yn wynebu cystadleuaeth gynyddol yn fyd-eang. Mae ein fframwaith datblygu economaidd, ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’, yn tynnu sylw at y ffaith bod rhaid inni symud tuag at hinsawdd gweithgynhyrchu sy’n ychwanegu gwerth uwch. Mae cymorth rhanbarthol dewisol a grant buddsoddi’r Cynulliad yn parhau i fod yn becynnau pwysig i gynorthwyo busnesau yng Nghymru, ond dim ond rhai yn unig yw’r rhain o blith grwp cyfan o becynnau y gallwn eu defnyddio i gynorthwyo cwmnïau Cymreig.
Yr ydym wedi sefydlu fforwm modurol Cymru, a rhaglen o fewn iddo o’r enw Accelerate Cymru, yn ogystal â’r tasglu modurol, i gynorthwyo cwmnïau modurol i fod yn fwy cystadleuol. Yn amlwg, mae llawer o waith i’w wneud o hyd yn ystod 90 diwrnod y cyfnod ymgynghori, a byddaf yn sicrhau, fel yr addewais i’r cwmni'r bore yma, y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r cwmni a’r gweithlu gymaint ag y gallwn yn ystod y cyfnod anodd hwn.