Skip to content

Cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf hysbysu'r Aelodau y cyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2006 bod yr achosion o cryptosporidiosis yng Ngogledd Cymru bellach ar ben.

231 yw nifer yr achosion o cryptosporidiosis a gadarnhawyd yn ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn ers dechrau'r achosion. Ni fydd pob un o'r rhain yn uniongyrchol gysylltiedig â'r achosion oherwydd mae'r salwch yn gallu digwydd drwy gydol y flwyddyn. Ni fu unrhyw achosion newydd yn y pythefnos diwethaf. Fodd bynnag, byddai'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn disgwyl i ychydig o achosion gael eu canfod bob mis, yn unol â'r lefelau arferol a welir drwy gydol y flwyddyn. Caiff tri neu bedwar achos o cryptosporidiosis eu cadarnhau yn ardaloedd Ynys Môn a Gwynedd bob mis.

Roedd y niferoedd ledled y DU yn uchel yr hydref diwethaf, ond cynyddodd yr achosion lleol yn gyflym i fwy na 100 erbyn diwedd mis Tachwedd, gan ddyblu erbyn canol mis Rhagfyr. Oherwydd cyfnod heintus yr haint – hyd at bythefnos - ac oherwydd yn aml bod gan bobl symptomau am sawl diwrnod cyn mynd i weld y meddyg, daeth effeithiolrwydd yr Hysbysiad Berwi Dŵr i'r amlwg o ganol mis Rhagfyr ymlaen, pan ostyngodd nifer yr achosion newydd a adroddwyd yn sydyn.


Yr Hysbysiad Berwi Dŵr

Rhoddodd y Tîm Rheoli Achosion gyngor i Dŵr Cymru y gellid codi'r Hysbysiad Berwi Dŵr i drigolion yn nalgylch dŵr Cwellyn o ddydd Llun 30 Ionawr ymlaen. Bellach, gall pobl ddefnyddio dŵr tap i'w yfed a pharatoi bwyd heb ei ferwi gyntaf, oni bai bod ganddynt imiwnedd gwan a’u bod wedi cael cyngor penodol gan eu meddyg.

Mae'r penderfyniad yn dilyn gosod a phrofi offer newydd yng ngweithfeydd trin Cwellyn.  Bellach, caiff dŵr y gronfa ei basio drwy weithfa drin uwchfioled a fydd yn lladd unrhyw cryptosporidiwm sy'n bresennol. Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed wedi gofyn i gwmnïau dŵr adolygu eu hasesiadau risg yng ngoleuni’r achosion diweddar o cryptosporidiosis yng Nghymru a Lloegr. Tra bo Dŵr Cymru wedi gosod offer trin dŵr (uwchfioled) yn Gweithfeydd Trin Dŵr Cwellyn, ar y cam hwn nid oes angen gosod offer o’r fath yn gyffredinol yng ngweithfeydd trin dŵr eraill y cwmni. Mae’n rhy gynnar gwneud hynny, cyn i’r cwmnïau gyflwyno’r asesiadau risg diwygiedig y mae’r Arolygiaeth wedi gofyn amdanynt erbyn diwedd mis Ebrill. Hefyd, byddai’n anaddas gwneud hynny cyn i archwiliad yr Arolygiaeth o achosion cryptosporidiwm Gogledd Cymru ddod i ben ym mis Ebrill neu fis Mai.

Ar 3 Ionawr, ymwelais â Gogledd Cymru i gwrdd â'r Tîm Rheoli Achosion a chynrychiolwyr Dŵr Cymru. Hefyd, bum i weld y gronfa ddŵr a'r gweithfeydd trin. Ar 6 Chwefror, cyfarfyddais ag uwch swyddogion o Dŵr Cymru i drafod y materion iechyd cyhoeddus sy'n codi o'r achosion. Roedd hwn yn gyfarfod defnyddiol, ac esboniodd Dŵr Cymru fod eu gwaith trin dŵr yn gweithio fel arfer trwy gydol yr achos ac na ddaethpwyd o hyd i unrhyw ganlyniadau monitro anarferol ar gyfer cryptosporidiwm yn ystod y cyfnod.

Yn y cyfarfod, tynnwyd sylw at y ffaith bod dŵr tap yn gorfod bodloni safonau ansawdd mwy llym na dŵr potel. Nodwyd efallai nad yw pobl sydd â nam difrifol ar eu systemau imiwnedd, ac sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol neu hir, yn ymwybodol o hyn. Efallai eu bod yn defnyddio dŵr potel gan gredu ei fod yn fwy diogel, a chan orfod talu’n ddrud am wneud hynny. Os yw cleifion ag imiwnedd gwan yn dewis yfed dŵr potel, dylent ferwi’r dŵr hwnnw hefyd.

Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad. Fel yn achos digwyddiadau tebyg sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yfed, mae’r ymchwiliad yn mynd rhagddo yn unol â chod ymarfer PACE fel ymchwiliad troseddol. Ar hyn o bryd, y disgwyl yw y bydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw yn wybyddus ddiwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai, pan y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cael gwybod am ganfyddiadau’r Arolygiaeth. Bydd y canfyddiadau hyn yn nodi a oes sail ar gyfer cychwyn proses gyfreithiol i erlyn neu ar gyfer cymryd camau gorfodi.


Archwiliadau

Mae'r holl dystiolaeth sydd ar gael a safbwyntiau arbenigwyr yn awgrymu mai Llyn Cwellyn oedd ffynhonnell debygol yr achosion. Daeth y Tîm Rheoli Achosion i'r casgliad nad oes unrhyw esboniad gwahanol.

Mae archwiliadau amgylcheddol y Tîm bellach wedi nodi saith modd posibl o halogi'r gronfa ddŵr â Cryptosporidiwm hominis, y math a gafwyd ym mwyafrif y pobl a fu'n sâl.

Canfu'r Tîm Rheoli Achosion fod achosion clinigol o cryptosporidiosis yn nalgylch Cwellyn yn gynnar ym mis Hydref. Cadarnhawyd un o'r achosion hyn yn labordai microbioleg Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Mae dyletswydd i ddiogelu cyfrinachedd yn golygu na ellir darparu mwy o fanylion.

Mae archwiliadau manwl wedi bod yn mynd rhagddynt ers dechrau'r achosion. Yn ogystal â chanfod mwy am bobl sydd wedi dal cryptosporidiosis, mae astudiaethau wedi archwilio'r hinsawdd, y ddaearyddiaeth, y ddaeareg a'r defnydd tir yn lleol. Mae gwaith labordai ar samplau amgylcheddol yn mynd rhagddo o hyd.



Mesurau i reoli lledaeniad haint

Cefais fy nghynghori nad oes bellach angen i bobl sy'n cael dŵr o ddalgylch Cwellyn ferwi'r dŵr a ddefnyddiant i'w yfed, paratoi bwyd, gwneud iâ neu frwsio dannedd. Mae'r cyngor hwn yn ddiymdroi ac mae'n berthnasol i'r holl fusnesau a thrigolion a gafodd Hysbysiad Berwi Dŵr ysgrifenedig yn flaenorol. Er bod pob defnyddiwr dŵr yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig, nid oes angen aros am lythyr nes defnyddio'r dŵr eto.

Dylai pobl â nam ar eu system imiwnedd, y gallai salwch fod yn fwy o risg iddynt, barhau i ddilyn cyngor eu meddyg. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys berwi dŵr yfed a dŵr potel, ni waeth beth yw ei ffynhonnell. Cynghorwyd lleoliadau bwyd a busnesau eraill sy'n defnyddio peiriannau a gyflenwir fel arfer gan ddŵr tap, fel peiriannau cyflenwi diodydd, i lanhau offer yn drylwyr a newid unrhyw hidlyddion yn ofalus cyn eu hail-ddefnyddio. Dylid cymryd gofal arbennig wrth waredu dŵr marw neu hen hidlyddion. Dylid cael cyngor arbenigol yn uniongyrchol gan weithgynhyrchwyr unigol lle bo'n bosibl.

Mae perygl lledaenu o berson i berson gan y rheiny a heintwyd gan cryptosporidiwm yn parhau. Dylai pobl barhau i fod yn arbennig o drylwyr wrth olchi'u dwylo, yn enwedig ar ôl defnyddio'r toiled neu cyn paratoi bwyd. Mae haint yn lledaenu'n hawdd iawn rhwng plant ifanc. Felly, dylai oedolion oruchwylio'r grŵp oedran hwn wrth iddynt ddefnyddio'r toiled a golchi'u dwylo lle bynnag y bo'n bosibl.
Cyfathrebu
Ysgrifenodd Dŵr Cymru at yr holl gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt yn ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn ar 30 Ionawr i ddweud wrthynt y dirymwyd yr Hysbysiad Berwi Dŵr.

Mae Adrannau Iechyd Amgylcheddol hefyd wedi anfon llythyrau at reolwyr busnesau bwyd, deintyddfeydd, pyllau nofio, cartref nyrsio ac ysgolion yn eu hysbysu nad oes angen iddynt ferwi dŵr tap bellach ac yn cynnig cyngor pellach ar beiriannau ac offer lle bo'n berthnasol. Mae meddygon teulu hefyd wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae llinell gymorth benodol Galw Iechyd Cymru ar gyfer yr achos hwn bellach wedi cau. Mae llinell gymorth gyffredinol Galw Iechyd Cymru ar agor o hyd i unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd, ffôn 0845 4647. Mae llinell gymorth Dŵr Cymru ar agor 24 awr y dydd: 0800 052 0130



Adroddiad yr achosion

Mae'r Tîm Rheoli Achosion yn paratoi adroddiad llawn o'r achosion, gan nodi'r camau a gymerwyd a'r archwiliadau a ddilynodd. Bydd hyn yn cynnwys argymhellion ar gyfer unrhyw gamau y mae'r Tîm yn ystyried a fyddai'n helpu i atal achosion yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd. Pan fyddaf yn derbyn yr adroddiad, byddaf yn ystyried yr argymhellion gyda'r Prif Swyddog Meddygol i nodi unrhyw gamau y mae angen i Lywodraeth y Cynulliad eu cymryd.



Niferoedd yr achosion

Nifer yr achosion: 231
Samplau ysgarthol a brofwyd yn labordy'r Gwasanaeth Iechyd
Cyhoeddus Cenedlaethol ym Mangor::2650

Unigion Cryptosporidiwm a brofwyd yn Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn Abertawe: 129

Samplau amgylcheddol a brofwyd yn Uned Cyfeirio Cryptosporidiwm y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn Abertawe: 56

Staff yn gweithio ar yr achosion: 115

Ymholiadau a dderbyniwyd gan linell gymorth Galw Iechyd Cymru: 1500



Atodiad

Y Cefndir

Mae cryptosporidiosis fel arfer yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.  Cadarnhawyd 192 o achosion ledled Cymru yn 2004 – un achos fesul 15,000 o drigolion Cymru.  O'r rhain, roedd 36 ohonynt yn drigolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Fel arfer, ceir mwy o achosion – achosion brigau – yn y gwanwyn ac eto ar ddiwedd yr haf. Gwelwyd yr amrywiad tymhorol arferol hwn yng Nghymru yn 2004.

Yn 2005, roedd mwy o achosion na'r disgwyl yn niwedd yr haf ledled y DU gyfan, gan gynnwys Cymru. Cafodd mwy o bobl yng Ngwynedd ac Ynys Môn y salwch na'r llynedd, ond hyd at ddechrau mis Tachwedd, bu cynnydd cyffredinol yn yr adroddiadau labordai ar gyfer Cymru gyfan. Yn fwyaf aml, mae math C hominis  wedi'i ynysu yn ystod cyfnod brig yr hydref, a chanfuwyd yr un math ymysg trigolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Oherwydd y cynnydd yn y salwch yn yr ardal, dechreuodd Dŵr Cymru fonitro cyflenwadau dŵr yn ddyddiol am Cryptosporidiwm ddechrau mis Tachwedd, a darparu map o achosion lleol. Hefyd, gofynnwyd i feddygon teulu gadw golwg am bobl â symptomau cryptosporidiosis.

Cyfarfu Tîm Rheoli Achosion o arbenigwyr iechyd y cyhoedd a staff Dŵr Cymru ar 7 Tachwedd i drafod y canfyddiadau hyn a chynllunio archwiliadau manylach. Dangosodd y canlyniadau o'r gwaith hwn fod lefelau'r clefyd yn benodol uwch ar gyfer pobl sy'n byw yn nalgylch Cwellyn. Felly, ar 24 Tachwedd, gofynnodd y Tîm Rheoli Achosion i feddygon atgoffa'u cleifion â nam difrifol ar eu system imiwnedd i ferwi'u dŵr tap a'u dŵr potel cyn ei ddefnyddio. Mae hyn oherwydd y gallai'r grŵp bach hwn o gleifion fod mewn perygl uwch o salwch difrifol, yn wahanol i unigolion iach a allai ddioddef salwch annymunol ond hunan-gyfyngedig. I sicrhau bod pawb yn gwybod am y cyngor, cyhoeddwyd datganiad i'r wasg a sefydlwyd llinellau cymorth penodedig drwy Galw Iechyd Cymru.

Erbyn 29 Tachwedd, dangosodd astudiaeth holiadur gysylltiad rhwng salwch dolur rhydd yn sgil Cryptosporidiwm ac yfed dŵr tap, er bod cofnodion yn datgelu bod y gweithfeydd trin dŵr ar gyfer cronfa ddŵr Cwellyn wedi bod yn gweithio'n arferol. Er y canfuwyd sborau Cryptosporidiwm yn y dŵr yng nghronfa ddŵr Cwellyn, roedd y crynodadau yn hawdd o fewn y safonau trin.

Yn ystod wythnos olaf mis Tachwedd, cadarnhawyd cynnydd sydyn mewn heintiadau ymysg trigolion y cyflenwyd dŵr iddynt o gronfa ddŵr Cwellyn – cynnydd nas gwelwyd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Cyhoeddwyd cychwyn yr achosion ac, fel mesur rhagofalus, rhoddodd y Tîm Rheoli Achosion gyngor i Dŵr Cymru gyhoeddi 'Hysbysiad Berwi Dŵr' i drigolion sy'n cael dŵr o gronfa ddŵr Cwellyn ar 29 Tachwedd. Ar yr un pryd, cafodd meddygon teulu a gwasanaethau iechyd lleol eu hatgoffa am wybodaeth gynharach a gawsant ynghylch diagnosis, trin ac atal cryptosporidiosis.  

Cafodd oriau llinell gymorth Galw Iechyd Cymru eu hymestyn i ddygymod ag unrhyw gynnydd mewn galw. Cafodd yr 'Hysbysiad Berwi Dŵr' ei ymestyn ar 4 Ionawr oherwydd na ellid diystyru risg parhaus. Bu'r nifer fwyaf o achosion o cryptosporidiwm a gludwyd gan ddŵr yn y DU yn Torbay, Dyfnaint, ym 1995, lle cadarnhawyd 575 o achosion o salwch yn gysylltiedig ag yfed dŵr tap.  

Yng Nghymru, mae achosion a gludir gan ddŵr yn brin. Mae pob un o'r pump o achosion o Cryptosporidiwm a nodwyd ers 2000 wedi'u cysylltu'n gryf â ffermydd ac anifeiliaid fferm, yn enwedig ymweld â ffermydd agored. Mae nifer y bobl a fu'n sâl ar bob achlysur wedi amrywio o 2 i 36, ac ynyswyd y math o'r paraseit sydd fel arfer yn gysylltiedig â halogi ysgarthion anifeiliaid, sef C parvum, mewn profion labordai.
Digwyddodd yr achos diwethaf o Cryptosporidiwm a gludwyd gan ddŵr yng Nghymru ym 1995. Roedd cronfa ddŵr wasanaeth a oedd wedi cracio mewn cyflenwad dŵr preifat yn Sain Tathan yn gysylltiedig â salwch dolur rhydd mewn mwy na 30 o bobl.  

Dim ond un o lwybrau trosglwyddo cryptosporidiosis yw dŵr yfed. Mae rhai achosion yn digwydd yn ystod ymweliadau â ffermydd, neu drwy nofio mewn dŵr sydd wedi'i halogi, gan gynnwys pyllau nofio. Ceir achosion yn aml ymysg pobl sy'n dychwelyd o dramor. Mae cryptosporidiosis a gludwyd gan fwyd hefyd wedi digwydd ond mae'n llai cyffredin. Gall lledaenu'r haint o berson i berson achosi cynnydd yn nifer yr achosion yn lleol, ac mae'n arbennig o gyffredin ymysg plant ifanc.