Amlinella'r datganiad hwn fusnes arfaethedig Cyfarfodydd Llawn Llywodraeth Cynulliad Cymru hyd at etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2007. Mae'r rhaglen ganlynol yn cynrychioli bwriadau Llywodraeth y Cynulliad o heddiw ymlaen. Mae newidiadau a wneir o ganlyniad i drafod y datganiad busnes wythnosol, er enghraifft, yn debygol o arwain at ddiwygiadau canlyniadol i'r atodlen a amlinellir yma.
Er hwylustod, mae'r busnes arfaethedig wedi'i rannu yma yn chwe chategori: dadleuon sefydlog blynyddol pwysig; dadleuon Llywodraeth Cynulliad Cymru; Datganiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru; busnes pwyllgor ac amser y gwrthbleidiau/meinciau cefn; cynigion i ddirprwyo rhagor o swyddogaethau i'r Cynulliad a rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig y Llywodraeth sydd ar droed.
Dadleuon ar bynciau sefydlog
Bydd amseru'r cynigion i gymeradwyo cyllideb Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad, y gyllideb ddrafft ynghyd â'r cynnig i gymeradwyo'r Setliad Llywodraeth Leol a'r gyllideb derfynol yn unol â'r amserlenni a ragnodwyd yn ein Rheolau Sefydlog. Mae'r ddadl ar Araith y Frenhines yn debygol o gael ei chynnal ar ôl toriad hanner tymor yr hydref a disgwylir i'r ddadl ar y Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig gael ei chynnal cyn toriad y Nadolig.
Dadleuon y Llywodraeth
Cynigir cynnal dadl ar Strategaeth Blaenau'r Cymoedd ym mis Medi. Mae'r dadleuon a drefnwyd ym mis Hydref yn ymwneud â'r canlynol:
Diogelwch ar y Ffyrdd; Diogelu Plant Diamddiffyn; y gwaharddiad ar ysmygu a Chwaraeon.
Bwriedir i'r Cynulliad gynnal dadleuon ar y canlynol yn ystod sesiwn olaf 2006 (h.y. ar ôl hanner tymor yr hydref): y Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf; y Gwasanaeth Tân; Cynllun Anabledd a Chydraddoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru; Adroddiadau Blynyddol 2005/06 Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru a Chomisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru; yr adolygiad o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a'r adolygiad o Gyngor y Celfyddydau.
Ac yn olaf, mae dadleuon y Llywodraeth a drefnwyd hyd yma ar gyfer sesiwn olaf y Cynulliad hwn yn cynnwys dadleuon ar y canlynol: 5ed Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru; Gofal Lliniarol; Gwasanaethau Awtistiaeth a dadleuon ar Adroddiadau blynyddol 2005/06 Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Phrif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi; trafod materion yn ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd a dadl ar drefniadau'r Cynulliad ar gyfer cydweithredu â busnesau.
Datganiadau Cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ym mis Medi, mae'r Gweinidog dros Iechyd yn bwriadu gwneud datganiad am Gyllid y GIG a bydd y Gweinidog dros Addysg yn rhoi ymateb y llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion.
Yn ystod sesiwn olaf 2006, bwriedir i'r Llywodraeth ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Seilwaith Rheilffyrdd, adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar Bapurau Newydd/Trinity Mirror ac adroddiad y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau ar yr Adolygiad Polisi Gwyddoniaeth. Disgwylir i'r Gweinidog dros Iechyd wneud datganiad hefyd am ganlyniad yr Ymgynghoriad cyhoeddus: “Cynnal a Gwella Gwasanaethau Niwrolawdriniaeth yn Ne Cymru - Cynigion i ddatblygu Canolfan Niwrowyddorau De Cymru".
Ac yn olaf, ymhlith y datganiadau Cabinet a drefnwyd hyd yn hyn ar gyfer sesiwn olaf y Cynulliad hwn mae: ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar Bêl-droed; prosiect craffu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Trefniadau Etholiadol yng Nghymru a 5ed Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru.
Busnes pwyllgor ac amser y gwrthbleidiau/meinciau cefn
Mae naw dadl gyda'r gwrthbleidiau wedi'u trefnu i'w cynnal cyn toriad y Nadolig ac wyth yn ystod sesiwn olaf y Cynulliad hwn.
Ym mis Hydref bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar gynnig Rheol Sefydlog 31 i ddiwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 2005 i gynnwys darpariaethau newydd ar gyfer meysydd chwarae. Neilltuir amser hefyd i gynnal dadl ar y cynigion sy'n deillio o dair pleidlais ddiwethaf y Cynulliad hwn a gaiff eu cynnal ym mis Medi a mis Tachwedd eleni ac ym mis Ionawr 2007. Bydd 30 munud hefyd yn parhau i gael eu neilltuo bob wythnos ar gyfer y ddadl fer.
Caiff dadleuon y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer saith mis olaf y Cynulliad hwn eu cynnal ym:
Mis Medi:
- Adroddiad Blynyddol y Sector Gwirfoddol ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio.
- Yr Adolygiad Polisi Gwyddoniaeth a gynhelir gan y Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithia.
Mis Hydref:
- Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005/06.
- Adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad ar y Mesur Morol.
Mis Tachwedd:
- Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Tŷ ar gyfer 2005/06.
- 7fed Adroddiad Blynyddol y Cynulliad ar Gydraddoldeb.
Mis Rhagfyr:
- Adolygiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon o Bêl-droed.
Mis Ionawr:
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ar Gamddefnyddio Sylweddau.
- Adolygiad polisi'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal o'r Gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc Anabl.
- Prosiect craffu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Trefniadau Etholiadol yng Nghymru”.
Mis Chwefror:
- Adolygiad y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio o Ddigartrefedd ymysg Ieuenctid.
Mis Mawrth:
- Adolygiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o Wasanaethau Canser.
- Adroddiad terfynol y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar Anghenion Addysgol Arbennig - Trefniadau Trosiannol.
- Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gyfer 2006.
Rhagor o swyddogaethau newydd i'w dirprwyo i'r Cynulliad
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ôl negodi ag Adrannau Whitehall wedi sicrhau bod y swyddogaethau canlynol wedi'u dirprwyo i'r Cynulliad, a fydd yn destun cynigion dirprwyo cyn diwedd y Cynulliad hwn:
Swyddogaethau o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cwmpasu statud, arferion gorau presennol ac egwyddorion cyfraith gwlad sy'n ymwneud â phobl â diffyg galluedd meddyliol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae'n cyflwyno cynlluniau diwygiedig a diweddar yn lle cynlluniau statudol cyfredol ar gyfer atwrneiaeth barhaus a derbynwyr Llys Amddiffyn. Mae hefyd yn creu dau gorff cyhoeddus newydd i gefnogi’r fframwaith statudol: Llys Amddiffyn newydd a Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd. Bydd y Ddeddf hefyd yn cynnwys tair darpariaeth allweddol bellach i ddiogelu pobl ddiamddiffyn: Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol; penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth a bydd yn cyflwyno trosedd newydd yn ymwneud â thrin person â diffyg galluedd yn wael neu ei esgeuluso.
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau 2006
Mae'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau yn ymwneud â:
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch rhag Tân) 2005, bydd prif bwyslais y diwygio ar atal tân a chyfundrefn ar gyfer asesu risgiau tân.
Deddf y Cyfrifiad 1920, a fydd yn cyfarwyddo y dylai Gweinidog y Goron ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn argymell i'w Mawrhydi yn y Cyngor y dylid gwneud Gorchymyn y Cyfrifiad o dan adran 1 o Ddeddf y Cyfrifiad 1920, lle bo Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfeirio at Gymru ac yn trosglwyddo swyddogaeth gwneud Rheoliadau'r Cyfrifiad o dan adran 3 o Ddeddf y Cyfrifiad 1920 i'r Cynulliad cyhyd ag y bo modd arfer y swyddogaeth honno mewn perthynas â Chymru. Byddai'r broses arfaethedig o drosglwyddo swyddogaethau yn golygu bod gan y Cynulliad fwy o ddylanwad ar y penderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r gair olaf ar gynnwys y Cyfrifiad yng Nghymru yn ogystal â'r ffordd y caiff ei gynnal.
Bydd adrannau 47(2)(g), 53(2)(c), 55(4) a 66A(6) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 74, 47, 53, 55 a 66A, gan ragnodi gofynion mewn perthynas â ffitiadau dŵr, ac atal y cyflenwad dŵr rhag cael ei halogi neu ei wastraffu gan ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl yng Nghymru.
Swyddogaethau o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Bydd Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 1990 yn rhoi pwerau mwy effeithiol i Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr a chynghorau cymuned er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd amgylcheddol gwael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Swyddogaethau o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004
Mae Deddf Rheoli Traffig 2004 yn darparu ar gyfer prosesau rheoli traffig i leddfu tagfeydd, gwella llifau traffig a gwella amodau i bob defnyddiwr ffordd ar ffyrdd a chefnffyrdd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr drwy reoli'r rhwydweithiau ffyrdd cenedlaethol a lleol. Bydd dirprwyo'r swyddogaethau yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad gyhoeddi canllawiau ac arfer y disgresiwn i wneud rheoliadau sy'n berthnasol i Gymru.
Swyddogaethau o dan Ddeddf Tir Comin 2006
Deddf Tir Comin 2006 yw'r ddeddf arwyddocaol gyntaf ar dir comin ers 40 o flynyddoedd. Bydd y swyddogaethau a gaiff eu dirprwyo yn niferus, a'r un mwyaf arwyddocaol fydd y ffaith y bydd yn galluogi'r Cynulliad i hwyluso'r broses o greu cynghorau tir comin statudol, lle y bydd cominwyr yn ceisio hynny, er mwyn sicrhau y caiff tir comin unigol yng Nghymru ei reoli'n well ac yn fwy cynaliadwy.
Swyddogaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006
Mae Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn darparu cwmpas eang o bwerau, sy'n ymwneud yn bennaf â Lloegr yn unig. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar greu Lloegr Naturiol ac ar y Comisiwn Cymunedau Gwledig yn Lloegr, ond mae hefyd yn creu amrywiaeth o swyddogaethau newydd ar gyfer y Cynulliad, gan gynnwys rhwymedigaethau i gyhoeddi a chynnal rhestr o organebau a chynefinoedd o bwys ar gyfer cadw bioamrywiaeth a phwerau i gyhoeddi codau ymarfer sy'n ymwneud â materion cadwraeth naturiol a phenodi pobl i ymchwilio i amrywiaeth o droseddau cadwraeth naturiol.
Swyddogaethau o dan Ddeddf Credydau Treth 2002
Mae Deddf Credydau Treth 2002 yn darparu ar gyfer cynlluniau wedi'u rheoleiddio i alluogi gofalwyr plant cymeradwy i ofalu am blant yng nghartref eu teulu. Bydd swyddogaethau a gaiff eu dirprwyo i'r Cynulliad yn rhoi pwerau iddo lunio cynllun ar gyfer cymeradwyo'r bobl hynny sy'n darparu gofal plant yng nghartref y teulu (heblaw am berthnasau). Bydd rhieni sy'n cyflogi gofalwr cymeradwy o'r fath yn gymwys i wneud cais am gredydau treth i deuluoedd sy'n gweithio a/neu fuddiannau treth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â thalebau gofal plant sy'n gysylltiedig â chyflogwyr.
Y rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig sydd ar droed
Mae'r canlynol yn rhoi trosolwg byr o'r mesurau y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno drwy is-ddeddfwriaeth cyn i'r Cynulliad hwn ddod i ben, sy'n cynnwys:
Ar gyfer Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
- Y Ddeddfwriaeth gylchol flynyddol i gynyddu Grant Dysgu'r Cynulliad, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r Cynlluniau Cymhelliant Hyfforddi Athrawon.
- Cyflwyno mesurau i atgyfnerthu camau i ddiogelu plant drwy ymestyn y gyfundrefn arolygu rheoleiddio i gynnwys y broses o arolygu gweithwyr ieuenctid a chymunedol a mesurau i sicrhau bod gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig eraill yn cael eu harolygu mewn ffordd debyg i wasanaethau addysg a hyfforddi eraill yng Nghymru.
- Deddfwriaeth a fydd yn atgyfnerthu trefniadau ar gyfer lleoliad, iechyd ac addysg plant sy'n derbyn gofal a'r ddeddfwriaeth, a fydd yn gweithredu argymhellion adroddiad Clywch i blant mewn lleoliad addysgol.
- Deddfwriaeth i gyflwyno safonau maeth mwy llym ar gyfer y bwyd a'r ddiod a ddarperir mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Ar gyfer yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
- Deddfwriaeth i gyflwyno mapiau sŵn strategol ar gyfer ardaloedd trefol mawr a phrif systemau trafnidiaeth gyda'r bwriad o leihau effeithiau niweidiol o ganlyniad i amlygiad i sŵn amgylcheddol.
- Deddfwriaeth i sicrhau y daw darpariaethau i rym, a fydd yn atal y gwaith o greu hawliau tramwy newydd i ddefnyddwyr cerbydau modur.
- Deddfwriaeth a fydd yn cyflwyno proses lle y bydd y cyhoedd yn cymryd rhan yn y gwaith o asesu effeithiau amgylcheddol cynlluniau Cefnffyrdd a Thraffyrdd.
- Deddfwriaeth a fydd yn darparu sail statudol i reoli'r broses o echdynnu mwynau gan waith carthu morol yn nyfroedd Cymru a gofyniad i asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd a'r gwaith o gadw cynefinoedd naturiol ac anifeiliaid a phlanhigion gwyllt o ran echdynnu mwynau gan waith carthu morol.
- Deddfwriaeth i symleiddio systemau cydymffurfio ar gyfer trwyddedu rheoli gwastraff a Rheolaethau Atal Llygredd. Lleihau biwrocratiaeth a galluogi diwydiant, rheoleiddwyr a'r cyhoedd i ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau amgylcheddol a llai ar sut y cânt eu cyflawni.
- Pecyn o ddeddfwriaeth i atgyfnerthu'r broses o nodi tir halogedig ymbelydrol ac atgyfnerthu dyletswyddau arolygu a gorfodi awdurdodau lleol o dan y gyfundrefn.
- Deddfwriaeth i weithredu lefelau uchaf newydd o weddillion plaladdwyr y gallai cnydau, bwyd a phorthiant eu cynnwys ac atgyfnerthu'r cod ymarfer ar werthuso sylweddau gweithredol a ddefnyddir i ddiogelu cynhyrchion planhigion a rhestru'r rhai yr ystyrir eu bod yn dderbyniol.
- Deddfwriaeth i ddarparu grantiau cymhelliant i'r diwydiant pysgota i annog y broses o osod dyfeisiau llwybro lloeren ar longau pysgota.
- Pecyn o ddeddfwriaeth i sicrhau newidiadau i wella'r broses o gyflwyno'r system gynllunio.
- Cyflwyno rheolau ac amodau rheoli newydd a neilltuwyd i roi mwy o hyblygrwydd i ffermwyr yng Nghymru reoli eu tir a neilltuwyd.
- Deddfwriaeth i gyflwyno system apeliadau tir comin ar gyfer cynlluniau Talu Datblygu Gwledig.
- Deddfwriaeth a fydd yn diogelu aelodau'r cyhoedd sy'n defnyddio cyflenwadau dŵr preifat neu'n bwyta ac yn yfed nwyddau a diodydd a wnaed o gyflenwadau dŵr preifat.
Ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Y rhan olaf o ddeddfwriaeth i ddiddymu taliadau presgripsiwn yng Nghymru.
- Y ddeddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
- Deddfwriaeth i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru, y cyntaf ledled y DU.
- Deddfwriaeth i ymestyn y categorïau o bobl sy'n gymwys i gael taliadau uniongyrchol i bobl sy'n cael gwasanaethau gofal cymunedol.
- Deddfwriaeth i sicrhau bod dyletswyddau cyson ar ddarparwyr gofal gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol i weithredu eu dulliau sicrhau ansawdd eu hunain er mwyn i Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru eu harolygu a chyflwyno gofyniad i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaethau drwy gyflwyno fframwaith newydd ar ymdrin â chwynion ac amserlenni ar gyfer datrys cwynion.
- Deddfwriaeth i weithredu systemau presgripsiynu annibynnol ar gyfer Presgripsiynwyr cymwys sy'n Nyrsys a Phresgripsiynwyr Fferyllol Annibynnol er mwyn darparu gwasanaethau hygyrch cost-effeithiol effeithlon ar draws GIG Cymru i alluogi cleifion i gael gafael ar feddyginiaethau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon sy'n lleihau pwysau ar feddygon teulu. Bydd yn darparu ar gyfer nyrsys/fferyllwyr arbenigol cymwys i redeg clinigau megis diabetes a chlefyd coronaidd y galon.
- Deddfwriaeth a fydd yn ymestyn y penderfyniadau cymhwyso ar gyfer darpar rieni mabwysiadu ac yn darparu safonau rheoleiddio sefydlog ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu Awdurdodau Lleol.
- Deddfwriaeth i ddiogelu pobl ddiamddiffyn analluog ymhellach o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
- Deddfwriaeth, a fydd yn galluogi Awdurdodau Lleol i gyflwyno Gorchmynion i helpu i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy osod gatiau ar draws lonydd ac aleau.
- Deddfwriaeth i uwchraddio'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref i sicrhau bod pob cartref cymwys yn gallu cael cymorth o ran effeithlonrwydd ynni.
- Pecyn o ddeddfwriaeth i atgyfnerthu'r broses o reoleiddio eiddo gwag yn y sector preifat.
Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Deddfwriaeth i wella ansawdd ein priffyrdd drwy gyflwyno mesurau i gyflwyno manylebau ar gyfer y deunyddiau i'w defnyddio, y safonau crefft y dylid eu cyrraedd i sicrhau y caiff gwaith stryd ei gyflawni i safon uchel.
Medi 13, 2006