Skip to content

Dura Automotive

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhydweithiau
Cyhoeddodd Dura Automotive ar 8 Mehefin ei bod yn bwriadu cau ei ffatri ym Mynea, Llanelli, erbyn Rhagfyr 2006.  Mae’r cwmni yn cyflogi tua 270 o staff ar hyn o bryd a bydd y penderfyniad i gau yn effeithio ar bob un ohonynt.

Cyhoeddiad siomedig iawn yw hwn.  Gwn y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i fynegi ein pryder dros y gweithwyr a’u teuluoedd.

Ni roddodd y cwmni wybod ymlaen llaw i Lywodraeth y Cynulliad am ei gyhoeddiad.  Cysylltodd swyddogion â chynrychiolwyr y cwmni ar unwaith a chyfarfod â hwy ddydd Gwener, 9 Mehefin ac yr wyf innau hefyd yn gofyn am gyfarfod i drafod y sefyllfa fy hun gydag Is-Lywydd a Rheolwr Cyffredinol y cwmni.  Yn amlwg, os nid yw’n bosib gwrth-droi’r penderfyniad i gau, yna ein consyrn pennaf fydd cynnig y cymorth mwyaf effeithiol y gallwn ei roi i’r gweithlu.          

Mae’r cwmni yn olrhain ei wreiddiau yn Llanelli yn ôl dros fwy na 100 mlynedd.  Mae’n gweithgynhyrchu sustemau cablau rheoli i geir i ystod o gwsmeriaid modurol.  Yr ydym yn gwybod ar sail ein gwaith gyda’r cwmni bod y ffatri yn Llanelli wedi cyflawni gwaith o ansawdd uchel iawn, gyda’r cwsmeriaid yn dychwelyd cyn lleied â 50 darn mewn miliwn.  Bu’r ffatri yn dal gwobr heriol y sector modurol TS16949 ers 2001 ac mae wedi gwneud llawer o waith ardderchog gyda’i chadwyn gyflenwi.  

Cawn ar ddeall mai canlyniadau ariannol anfoddhaol ynghyd â’r amgylchfyd cystadleuol byd-eang o fewn y sector modurol sydd wedi peri i’r cwmni rhiant a leolir yn UDA benderfynu cau’r ffatri.  Mae’r penderfyniad i gau Llanelli yn rhan o ailstrwythuro ehangach yn y busnes byd-eang, gan gynnwys cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gau ffatri yn Ontario, Canada.  Mae’n debyg y caiff gwaith a wneir yn Llanelli ei drosglwyddo i’r Weriniaeth Tsiec.          

Mae’r ffatri wedi elwa yn y gorffennol o gymorth gan Lywodraeth y Cynulliad a chan y WDA gynt.

Cynigiwyd grant Cymorth Dewisol Rhanbarthol (RSA) o £3m i’r cwmni yn 2000 tuag at fuddsoddiad yn y ffatri o gyfanswm o £9.7m, gan ddiogelu a chreu swyddi.  Yn y pen draw, talwyd £1.9m i’r cwmni, gan nad oedd y prosiect wedi ei gwblhau yn llawn.  Yr ydym bellach ar ddiwedd y cyfnod amodol ac yr ydym wedi cytuno â’r cwmni ad-daliad o £200,000, oherwydd nid oedd y nifer angenrheidiol o swyddi wedi cael ei diogelu.        

Talwyd Grant Datblygu Eiddo o £480,000 i’r cwmni yn 2001 a 2002.  Bu’r cwmni hefyd yn cymryd rhan ers 2002 yn rhaglen Accelerate Wales a chafodd ei ariannu am waith i ddatblygu ei sail gyflenwi, gan ennill y wobr ‘cadwyn gyflenwi a wellodd fwyaf’ yn 2005.        

Ni ellir ond canmol y gweithlu yn Llanelli am ei gyraeddiadau yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae’n siom enfawr bod y ffatri bellach wedi gorfod ildio i’r grymoedd marchnad byd-eang sydd yn ôl y cwmni wedi arwain at y penderfyniad hwn.  

Anghywir fyddai awgrymu na fu deialog parhaol rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r cwmni hwn.  Yn y misoedd diwethaf, bu cyswllt clos â hwy er mwyn cwblhau’r trafodaethau ar y prosiect a gynorthwyid drwy RSA ac yng nghyd-destun Accelerate Wales.  Serch hynny, ni fu i’r cwmni ddatgan i ni ar unrhyw adeg ei fwriad i gau’r ffatri.

Os caiff y cynnig i gau’r ffatri ei gadarnhau, byddaf yn sicrhau y bydd swyddogion ar draws asianteithiau Tîm Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r gweithwyr dan sylw.  Ceir trefniadau sefydlog yn Sir Gaerfyrddin i gyflwyno pecyn o gymorth dwys ar y cyd rhwng Cyngor Sir Gaerfyrddin, JobCentre Plus, Gyrfaoedd Cymru, DELLS a’m hadran i.  Bydd y cymorth ar gael gan y sector cyhoeddus yn cynnwys helpu gweithwyr Dura i ddod o hyd i waith arall a chyrchu hyfforddiant sgiliau os bydd ei hangen.                              

Cawn ar ddeall nad oes gan Dura gyfleoedd gwaith eraill o fewn y DU ond y bydd cyfleoedd am waith ar gytundeb yn y Weriniaeth Tsiec.  

Roedd canran y rhai oedd yn hawlio budd-dâl yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill yn 2.1%, gan ddangos bod y galw am lafur yn y sir yn gryf o hyd.  Yr ydym yn cefnogi prosiectau ar hyn o bryd yn y sir i greu rhagor o swyddi newydd.  Serch hynny, nid wyf am fychanu’r effaith y bydd cau Dura yn ei gael ar y gweithwyr ac ar dref Llanelli.      

Byddaf yn rhoi gwybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Menter, Arloesi a Rhwydweithiau a’r Aelodau, os bydd datblygiadau pellach.